Bem vindo a Thetford Norfolk!
Mae ‘na un peth arall wnaeth fy nharo i am Thetford, roeddwn i’n clywed pobol yn siarad Portwgeeg dros y dref i gyd. Wrth gerdded yn ôl i’r lle roedd y car wedi’i barcio dyma basio siop a oedd yn arbenigo mewn pethau Portwgeaidd. Enw’r siop oedd O Celeiro ac roedd [...]
Roedd ‘na un rheswm arall pwysig dros ymweld â Thetford. Er gwaethaf y ffaith fod y dref ddegau o filltiroedd o’r môr dyma Walmington-on-Sea y gyfres deledu comedi sefyllfa Dad’s army. O 1968 tan ganol y 1970au ffilmiwyd degau o rifynnau o’r gyfres boblogaidd yma. I nodi hyn, rhywbeth sy’n denu llawer mwy o ymwelwyr [...]
Nid Castle Hill oedd wedi dod â ni i Thetford. Gwobr ychwanegol oedd gweld hwnnw. Na, roedden ni wedi dod i Thetford i dalu teyrnged i un o blant y dref o gyfnod diweddarach, sef Thomas Paine (1737-1809) Ef oedd un o feddylwyr mawr radicaliaeth a rhyddfrydiaeth y ddeunawfed ganrif a chefnogwr Chwyldro America a’r [...]
Efallai un o’r lleoliadau amlycaf yn Thetford yw Castle Hill sydd i’w weld ar y ffordd i mewn i’r dref o gyfeiriad Diss, y ffordd yr oeddem ni wedi teithio ar hyd-ddi o Burston.
Yr hyn a geir yma yw castell tomen a beili Normanaidd o tua 1070 wedi’i chodi reit yng nghanol caer o Oes [...]