Archifau tagiau: Tafodieithoedd

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (1)

Rhaid imi gyfaddef fy mod wedi darllen llyfr Peter Trudgill o glawr i glawr dros nos. Dyw e ddim yn llyfr hir iawn, rhyw 100 tudalen. Roedd ‘na ryw ffaith ddiddorol yn codi trwy’r amser. Ond cefais fy sioc fwyaf wrth ddarllen fod traean a mwy (37%) o boblogaeth Norwich yn 1579 yn siarad Iseldireg [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-22 (4)

Roedd hi’n costio bron i £8 i fynd i mewn i Amgueddfa Gressenhall a dwi’n teimlo i mi gael gwerth fy arian. Treuliodd y tri ohonom y diwrnod ar ei hyd yno heb ddiflasu o gwbl. Jyst cyn gadael roedd yn rhaid galw heibio i’r siop ac fe ges i lyfr gwych ar dafodiaith Norfolk [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (6)

Mae’n ddiddorol fod ‘na arwyddion dwyieithog yn dal i fod yn Leuven. Dywed hanes fod Leuven wedi troi yn ddinas uniaith Iseldireg yn y 1960au. Ond er i’r Ffrangeg ddiflannu fel iaith weledol yma mae tafodiaith Leuven wedi llwyddo i ennill ei lle ar rai o arwyddion strydoedd y ddinas. Fe dynnais i luniau dau [...]