Blog Dogfael» Sir Benfro

Macsu gan Rachel Owen
Cefais i gymaint o bleser o ddarllen gwaith Anti Rachel (Rachel Owen) ar gyfer y cyfarfod gyda Merched y Wawr Caerfyrddin fel mae’n rhaid imi rannu’r gerdd yma am facsu gyda darllenwyr Blog Dogfael. Gyda’r offi yn darparu peth yfed yn gyfeus i bawb bellach does dim galw am droi at facsu, ond o leiaf fe roes Anti Rachel y peth ar gof a chadw yn ei chyfrol gyntaf, Caneuon hen lidiart (Llandudoch: Cyhoeddiadau’r Frenni, 1977).

MACSU

Mae llawer mewn penbleth mewn pentre a thre,

A ellir gwneud cwrw mor hawdd â gwneud te,

Wel! gellir gyfeillion, os oes gennych lestri

Dyw tegell a thebot yn werth dim i facsu.

Hen erwn o bren yw’r pwysicaf o’r cyfan

A bwiler i’w ferwi, un nwy neu un trydan,

Rhaid sgwrio y gerwn (neu faril i rai)

Pwysigrwydd y cyfan, sy gyda’r glanhau.

Ond credwch neu beidio – peth erchyll o gas

Os bydd yr hen erwn yn taflu ei flas.

Mewn twll sy’n ei waelod – rhoi cropyn eithinog

A’i ddal gyda’r “winfforch” yn dwt a sefydlog.

A chludo y dŵr yn ffres o’r ffynhonne,

Mae stwff y Bwrdd Dŵr mor llawn o gemege.

Nawr gwlychu y brag, ie wir, hanner winshin,

A dwr bron ar ferwi, fel bwyd tewhau mochyn.

A’i adael dros nos os oes gennych amser,

Ond cofiwch dim llai na phump awr a hanner.

Ac wedyn – saith galwyn o ddŵr bron ar ferwi

A’i adael e’n llonydd am awr i waelodi.

Ac yna ei ollwng i redeg drwy’r cropyn

Yn araf a thawel fel pe’n dod trwy welltyn.

Bydd hwn fod i edrych mor glir â’r un Bitter

(Ond peidiwch â phoeni am kilos na litre).

Nawr berwi y cwrw am awr berffaith gywir,

Ac wyth owns o hopys a phump pwys o siwgir.

Ond yn y cyfamser, nawr cliriwch y gerwrn,

A mas ar hen ’sweg’; i’r hwyed a’r twrcwn.

Nawr hidlo y cwrw yn lân ac yn daclus,

Roi nôl yn y gerwn (does diben i’r hopys)

Ei adael e bellach i oeri fydd raid

Nes bydd e o naws – tymheredd y gwaed.

Rhoi dwy lond llwy fwrdd o furum y dafarn

Nid burum y pobydd – neu sboeliwch y cyfan.

A’i adael am dridiau mewn cornel bach cynnes,

Ond peidiwch ä sgwlcan nawr Mishtar na Mistres.

A nawr rhaid ei hidlo heb lawer o ffwdlan

I jar neu foteli, a dyna y cyfan.

Ei gadw sydd orau am wythnos neu fis

Ond hyn sy’n dibynnu yn llwyr ar eich blys.

A byddwch yn garcus – da chi wrth ei yfed,

Cans andros o beth ydi colli eich trwydded.

Rachel Owen

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.