Archifau tagiau: Sempringham

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (7)

Wedi ein hymweliad â Sempringham fe aeth Nan a Nigel â ni i’r Old Ship Inn, Pointon i gael cinio. Tra’r oedden ni yno fe gawsom gyfle i weld y llyfrau ymwelwyr y mae’r ddau yn gofalu amdanynt. Roedd ‘na bethau diddorol iawn ynddynt, ond efallai yr un a wnaeth i mi wenu fwyaf oedd [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (6)

Roedd ‘na lawer o bethau bach diddorol i’w gweld yn Eglwys S Andrews, Sempringham ac fe wnaeth Nan a Nigel wneud yn siŵr nad oedden ni’n colli dim. Yn yr eglwys ei hun mae ‘na gornel wedi’i neilltuo ar gyfer croesawu ymwelwyr o Gymru sydd yn dod i weld cofeb Gwenllïan. Er i’r rhan fwyaf [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (5)

Ffenest liw o Eglwys S. Andrews, Sempringham yn dangos dyrchafael gogoneddus ein Harglwydd.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (4)

Cyn mynd ar ein gwyliau roedd Ceris G wedi rhoi rhif ffôn i mi er mwyn cysylltu â Nan a Nigel yn Sempringham. Hwy yw ceidwaid answyddogol cofeb Gwenllïan. Daw Nan yn wreiddiol o Gwm Afan ac mae fel petai hi a’i gŵr wedi cymryd arnynt y gwaith o ofalu am y gofeb a’i dangos [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (3)

Dyma ble mae cofeb Gwenllïan ac Eglwys Priordy Sempringham.
Gweld map mwy o faint

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (2)

Maen nhw’n dweud fod ‘na unigolyn tenau o fewn i bawb tew yn ceisio dod o hyd i’w ffordd mas. Weithiau dwi’n credu fod ‘na frenhinwr y tu fewn i bob gweriniaethwr sy’n ceisio dianc yn yr un modd. Dyna oedd fy mhrofiad i yn Semphringham. Troes dau weriniaethwr rhonc yn frenhinwyr pybyr wrth inni [...]