Archifau tagiau: Saesneg

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (5)

Fe brynais lyfr arall ar dafodiaith Norfolk yn y ddinas heddiw, sef Larn yarself Norfolk: a comprehensive guide to the Norfolk dialect (Nostalgia, 1996) gan Keith Skipper. Wrth gwrs, dyw’r llyfr yn ddim byd tebyg i gydymaith cyflawn, ond mae’n ddifyr iawn. Gyda llyfrau Trudgill a Skipper yn fy llaw dwi wedi dechrau dysgu ychydig [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (1)

Rhaid imi gyfaddef fy mod wedi darllen llyfr Peter Trudgill o glawr i glawr dros nos. Dyw e ddim yn llyfr hir iawn, rhyw 100 tudalen. Roedd ‘na ryw ffaith ddiddorol yn codi trwy’r amser. Ond cefais fy sioc fwyaf wrth ddarllen fod traean a mwy (37%) o boblogaeth Norwich yn 1579 yn siarad Iseldireg [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-22 (4)

Roedd hi’n costio bron i £8 i fynd i mewn i Amgueddfa Gressenhall a dwi’n teimlo i mi gael gwerth fy arian. Treuliodd y tri ohonom y diwrnod ar ei hyd yno heb ddiflasu o gwbl. Jyst cyn gadael roedd yn rhaid galw heibio i’r siop ac fe ges i lyfr gwych ar dafodiaith Norfolk [...]

Linkebeek (3)

Tra bo’r ddadl fawr ieithyddol yn Fflandrys/Brwsel ynglŷn â’r Ffrangeg a’r Iseldireg, mae ‘na iaith arall yn prysur ennill tir y tu ôl i’w cefnau. Does dim angen imi ddweud taw Saesneg yw’r iaith honno. Ar sgwâr y pentref o flaen y gemeentehuis yn Linkebeek roedd ‘na siop gyda’r enw ‘Once upon a time’! Mae’n [...]