Archifau tagiau: Rhodri Glyn Thomas

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (4)

Wedi rhedeg trwy’r glaw o’r Senedd i Adeilad y Lanfa i weld yr offeryn statudol cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ei awdurdodi roeddwn i’n barod am fy nghinio, ac felly hefyd fy nghyfaill RO. Roedden ni wedi bwriadu yn wreiddiol mynd mas o’r ddinas am ginio, ond yng nghanol y glaw – ac oherwydd inni dreulio [...]

Cwrs y Byd?

Ydy ymddiswyddiad Rhodri Glyn Thomas fel Gweinidog Treftadaeth yn rhoi ystyr newydd i’r frawddeg “Cwrs y Byd”? Gwaeth o lawer na Chwrs y Pharo!

Mwy am bapur dyddiol Cymraeg a chwarae gyda geiriau

Y newyddion da yw fy mod yn gwybod bellach fod y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, wedi bod yn darllen fy mlog. Wel, pan dwi’n dweud ei fod wedi bod yn darllen fy mlog, yr hyn dwi’n ei olygu mewn gwirionedd yw ei fod wedi darllen un cofnod, sef yr hyn yr ysgrifennais am ei [...]

Siom neu ddadrithiad?

Daeth cyhoeddiad y gweinidog treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, ddechrau’r wythnos hon yn dipyn o sioc i mi. Nid dyna’r hyn yr oeddwn wedi disgwyl ei glywed. Oherwydd gwaith caled cwmni Dyddiol Cyf., ac yn arbennig Ned Thomas, mae’r sylfaen wybodaeth sydd wedi’i gosod ar gyfer sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn un gadarn. Pan fo’r cwmni [...]

Penwythnos prysur (2)

Dwi heb orffen dweud hanes fy mhenwythnos prysur wythnos yn ôl a hynny wrth imi lwyddo i oresgyn penwythnos prysur arall! Wythnos yn ôl cefais y fraint o fynychu un o ddigwyddiadau pwysig y byd llyfrau yng Nghymru, ond y tro hwn nid yr awduron oedd yn cael eu cydnabod ond yn hytrach y cyhoeddwyr: [...]