Archifau tagiau: Rheidol2008

Dogfen hanesyddol

Dyma’r papur pleidleisio ar gyfer yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol a enillwyd gan Aled Davies o Blaid Cymru, 10 Gorffennaf 2008. Roedd yn rhaid imi ddefnyddio’r gwreiddiol i bleidleisio! Ond dwi’n falch imi wneud copi fel swfenîr o’r digwyddiad hanesyddol hwn yng ngwleidyddiaeth Aberystwyth. Bellach Plaid Cymru sy’n dal tair o’r chwe sedd [...]

Y dathlu yn parhau

Pedair awr ar hugain yn ddiweddarach a dwi’n dal i fod yn llawn cynnwrf wedi canlyniad yr isetholiad yn ward Rheidol gydag Aled Davies o Blaid Cymru yn cipio’r sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Fel mae’n digwydd dwi’n byw yn ward Rheidol ers deng mlynedd a mwy a dyma’r tro cyntaf inni fod â [...]

Buddugoliaeth!

Aled Davies o Blaid Cymru, cynghorydd sir newydd ward Rheidol, Aberystwyth
Dwi’n gwybod bod fy mlog wedi bod yn dawel iawn dros yr wythnos neu ddwy a aeth heibio.. Y rheswm am hynny wrth gwrs yw fy mod wedi bod yn brysur yn gwneud pethau eraill. Un o’r pethau hynny oedd bod yn rhan o’r tîm [...]

Enwebiadau ward Rhediol wedi cau

Mae’r enwebiadau wedi cau ar gyfer is-etholiad cyngor sir ward Rheidol, Aberystwyth. A dyma’r ymgeiswyr.
Aled Davies Plaid Cymru
Richard Boudier Llafur
Alec Dauncey Democratiaid Rhyddfrydol
Luke Evetts Ceidwadwyr
Carol Ann Kolczak Annibynnol
Yn yr etholiad diwethaf (Mai 2008) dyma oedd y canlyniad.
Eric Griffths Democratiaid Rhyddfrydol 490
Sue Jones-Davies Plaid Cymru 197
Jason Luke Edwards Ceidwadwyr 38

Gwleidyddiaeth ddiddorol Aberystwyth

Mae’n siŵr ddigon fod llygaid y byd ar ragetholiadau ac etholiad arlywyddol y Taleithiau Unedig, ond dylai rhywun gadw rhyw gilolwg ar yr hyn sy’n digwydd yn Aberystwyth? Wrth i’r byd gwleidyddol ddechrau paratoi am yr haf trwy dawelu ychydig ar ôl etholiadau’r cyngor sir ddechrau Mai mae’n ymddangos fod popeth yn digwydd yn y [...]

Isetholiad Rhediol, Aberystwyth

Mae’r ymgyrch wedi dechrau mewn gwirionedd yn yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol yn Aberystwyth. Fel y gŵyr pawb bellach fe ymddiswyddodd cynghorydd Democrataidd Rhyddfrydol y ward o fewn mis i’w ethol ar ôl iddo gael ei arestio gan yr heddlu a derbyn rhybudd.
Mae unrhyw isetholiad yn gynhyrfus wrth gwrs, ond yng Ngheredigion mae’r [...]