Archifau tagiau: Norwich

Gwyliau yn Norwich 2008-08-25

Diwrnod hamddenol iawn oedd fy un olaf yn Norwich. Dyna sut ddylai fod o gofio fod y daith yn ôl i Aberystwyth yn mynd i fod yn un hir. Byddai’n golygu mwy o bwysedd ar RO gan taw ef fyddai’n gyrru yr holl ffordd, ond byddai’n rhaid imi fod wrth ei ochr beth o’r amser [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (5)

Fe brynais lyfr arall ar dafodiaith Norfolk yn y ddinas heddiw, sef Larn yarself Norfolk: a comprehensive guide to the Norfolk dialect (Nostalgia, 1996) gan Keith Skipper. Wrth gwrs, dyw’r llyfr yn ddim byd tebyg i gydymaith cyflawn, ond mae’n ddifyr iawn. Gyda llyfrau Trudgill a Skipper yn fy llaw dwi wedi dechrau dysgu ychydig [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (4)

Diolch i lyfr Peter Trudgill roeddwn i’n gwybod fod yr eglwys Iseldireg yn cyfarfod yn Blackfriars Hall, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble’r oedd y neuadd. Wedi ychydig o holi a chwilio fe ddeallais fod Blackfriars Hall yn rhan o’r hyn a elwir bellach yn The Halls. Mae’r adeiladau hyn yn agos i’r afon [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (3)

Roedd cae pêl-droed Carrow Road yn ‘rhaid’ dim ond er mwyn talu teyrnged i Delia Smith. Enillodd ei lle mewn diwylliant poblogaidd fel cogydd teledu amlwg. Mae’n briod â Chymro, Michael Wynn-Jones ac mae’r ddau wedi bod yn gyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Dinas Norwich ac wedi buddsoddi’n drwm yn y clwb dros y blynyddoedd, er mae’n [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (2)

Y bwriad heddiw oedd treulio diwrnod arall yn Norwich. Roedd gen i ddau neu dri o bethau yr oeddwn am ei gwneud – dod o hyd i’r lle roedd yr eglwys Iseldireg yn cyfarfod a mynd i weld maes pêl-droed Dinas Norwich.

Fe wnes i adael The Village yn gynnar a chymryd y bws o gampws [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (1)

Rhaid imi gyfaddef fy mod wedi darllen llyfr Peter Trudgill o glawr i glawr dros nos. Dyw e ddim yn llyfr hir iawn, rhyw 100 tudalen. Roedd ‘na ryw ffaith ddiddorol yn codi trwy’r amser. Ond cefais fy sioc fwyaf wrth ddarllen fod traean a mwy (37%) o boblogaeth Norwich yn 1579 yn siarad Iseldireg [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-20 (4)

Roedd fy niwrnod cyntaf yn Norwich bron â dod i ben. Yn awr yr oedd yn rhaid mynd yn ôl i St Stephen’s er mwyn cwrdd gyda RO a DML i gael swper ac yna mynd yn ôl i’r llety ym Mrhifysgol Dwyrain Anglia.

Roeddem wedi trefnu i gwrdd yn y caffi yn siop lyfrau Borders [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-20 (3)

Wedi cinio roeddwn i’n bwriadu cael profiad crefyddol a oedd bron â bod i’r eithaf arall i’r eglwys gadeiriol. Fel ardal gyfoethog hyd at y chwyldro diwydiannol, ac ardal hefyd a oedd yn agos at dir mawr Ewrop ac â chysylltiadau agos â’r Iseldiroedd, roedd syniadau newydd crefyddol a gwleidyddol yn cael gwrandawiad parod yn [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-20 (2)

Roedd ychydig o waith cerdded o St Stephens at yr eglwys gadeiriol, ond roedd yn gyfle i weld tipyn mwy o’r ddinas. Mae’r ddinas yn un hynafol gyda’i dechreuadau cyn y nawfed ganrif, ond daeth ei thwf mawr yn dilyn concwest y Normaniaid a throi’r ddinas yn ganolfan filwrol ac eglwysig. Er bod nifer yr [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-20 (1)

Efallai y dylwn ddweud taw fy hoff gydymaith i ar gyfer teithio yn Lloegr yw’r Blue guide: England gan Ian Ousby. Bydda i’n defnyddio’r degfed argraffiad (1989) a brynais yn 1992. Dwi wedi cael gwerth fy arian o’r gyfrol. Yn y lle cyntaf bydda i’n ei defnyddio fel llawlyfr ymarferol pan yn ymweld â lle [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-19 (2)

Pan ddes i yn ôl i’r fflat roedd RO a DML yn ymbaratoi i ymadael, ac ar ôl cwpanaid o goffi bant â ni ar ein taith. Neu o leia dyna roedden ni’n ei fwriadu. Wrth edrych o ffenest y fflat, wrth ddisgyn ar hyd y grisiau, fe sylwais i fod un o olwynion car [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-19 (1)

Codais i’n fore iawn; mae’n rhaid bod y daith wedi bod yn foddion ennyn cwsg iachus gan fy mod ar fy nhraed ychydig cyn 6.00am yn teimlo fel ebol. Doeddwn i ddim yn disgwyl i DML na RO i fod ar eu traed, felly fe dreuliais beth amser yn darllen cyn mynd ati i ysgrifennu [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-18 (3)

Wedi setlo yn y llety roedd yn rhaid inni feddwl am swper. Y lle naturiol i droi oedd am y ddinas ac felly fe aethon ni i mewn i’r canol. Doedd hi ddim wedi nosi eto, ond roedd gyrwyr ceir yn dechrau cynnau eu goleuadau. Aethon ni mewn reit i ganol y ddinas ac fe [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-18 (2)

Fel y dywedais mae’r ystafelloedd lle’r ydyn ni’n aros yn The Village. Rydw i’n aros ystafell D, fflat 5, Courtyard A. Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau yn The Village wedi’u henwi ar ôl coed – Pine, Willow, Birch, a.y.y.b. Ond am ryw reswm neu’i gilydd mae ‘na ddau adeilad sy’n dwyn yr enwau swynol Courtyard [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-18 (1)

Diwrnod hir o deithio heddiw wrth inni fynd o Aberystwyth i Norwich. Mae’n siŵr fod y daith hon gyda’r hiraf y gellir ei gwneud yn union ar draws Ynys Prydain – hynny wrth aros bron â bod ar yr un llorwedd heb wyro i’r gogledd na’r de. Doedd dim llawer o ddewis ynglŷn â bod [...]