Blog Dogfael» Mererid Hopwood

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (8)
A dyna ni, wrth ymadael â Pointon a Sempringham roedd ein gwyliau ar ben. Yr unig beth oedd o’n blaenau bellach oedd y daith hir yn ôl i Aberystwyth. Digwyddodd dau beth ar y ffordd. Fe aethon ni yn y lle cyntaf trwy gyrion Grantham ac fe wnes i gymryd hynny fel ein teyrnged ni i Maragaret Thatcher. Fe wnes i dynnu llun siop Spar yno.

Yna, wrth i dorri ein taith fe wnaethon ni alw yng ngwasanaethau Hopwood Park ar yr M42. A hynny fel teyrnged i’r prifardd a’r prif-lenor Mererid Hopwood.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-06
Dwi’n ofni i ddweud fod dydd Mawrth wedi hala cymaint o ofn arna i fel fy mod wedi credu’r BBC pan ddywedon nhw fod mwy o law i ddod dydd Mercher ac heb fynd i faes yr eisteddfod. Nawr mae’r bobol sy’n fy adnabod i yn gwybod nad oes angen rhyw lawer i wneud imi gadw’n glir o’r  maes, ond roedd y cof am y gwynt ar glaw yng Nghaerffili ddoe yn drech na mi ac felly fe fues i’n crwydro o gwmpas ardal Neuadd Buddug a bues i mewn yng nghanol y ddinas unwaith eto ar fws rhif 27.

Mae Neuadd Buddug (Victoria Hall) yn llety i fyfyrwyr a ddarperir gan gwmni preifat ond mae bron â bod yn rhan o ddarpariaeth swyddogol y brifysgol. Mae’r cwmni yn darparu llety i fyfyrwyr mewn rhyw ddwsin o drefi a dinasoedd prifysgol ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol. Rydyn ni’n aros mewn fflat ar gyfer pedwar – er mae ‘na bumed stafell yn y fflat nad oes neb yn aros ynddi ar hyn o bryd. Mae un o’r stafelloedd yn cael y disgrifiad ‘luxe’ a finnau sy’n aros yn honno. Sydd ond yn deg gan taw fi ddaeth o hyd i’r llety a threfnu ei rentu am yr wythnos. Yn y stafell ‘luxe’ mae ‘na wely dwbwl; gwelyau sengl sydd ym mhob un o’r stafelloedd eraill. Mae pob un o’r ystafelloedd yn en-suite, ond mae’r ystafelloedd ymolchi yn weddol fechan – does dim llawer o le i rywun o faintioli sylweddol fel myfi i droi ynddynt – ond mae’r gawod yn gweithio yn arbennig o effeithiol ac mae’n bleser ymolchi ynddi.

Yn ogystal â’r ystafelloedd unigol mae ‘na ystafell gyffredin sy’n cynnwys y gegin, lle bwyta a lle i ymlacio a gwylio’r teledu. Roedd ‘na ddewis da o lestri a sosbenni yn y gegin ac erbyn hyn S4C ar y teledu. Dwi wedi teimlo’n gartrefol yn y gegin, er bod presenoldeb y bar brecwast uchel wedi fy nharo fel rhywbeth ychydig yn rhyfedd ar ddechrau’r wythnos. Ond erbyn hyn mae popeth yn gweithio’n iawn.

Rhyw ganllath o’r Neuadd mae ‘na safle bysus lle mae’n bosib dal bws i mewn i ganol y ddinas.

Ddiwedd y prynhawn fe wnes i wylio peth a gwrando peth ar seremoni’r Fedal Ryddiaith. Roeddwn i’n gwrando hyd nes i’r corn gwlad ganu a sylwebaeth Hywel Gwynfryn yn gwneud i rywun fynd at y teledu i weld pwy oedd wedi ennill oherwydd ei sylwadau cruptig. Traddododd Catrin Beard feirniadaeth ddifyr ac rwy’n edrych ymlaen i ddarllen y gwaith a enillodd, O ran gan y Brifardd Mererid Hopwood. A oes ‘na unrhyw beth na all y fenyw hon ei wneud? Nac oes yw’r ateb mae’n debyg!

Pan ddaeth DJP yn ôl o faes yr eisteddfod fe ddaeth â newyddion yr un mor gyffrous am lwyddiant menyw arall – sef bod Philipa Gibson wedi ennill cystadleuaeth yr englyn! Saesnes yw Philipa sydd wedi dysgu Cymraeg ac wedi meistroli’r gynghanedd yn rhyfeddol. Dwi’n cywilyddio nad ydw i’n medru llwyddo i lunio llinell gywir a finnau’n Gymro Cymraeg tra bod Saeson yn fy ngoddiweddyd. Dyw hi ddim yn deg fod hyn yn cael digwydd! Dylai’r awdurdodau’r eisteddfod ring-ffensio rhai cystadlaethau ar ein cyfer ni! Dwi ddim yn dweud fy mod i’n eiddigeddus oherwydd fe fyddai hynny’n ddi-chwaeth iawn, ond petai seiciatrydd yn fy seicdreiddio dwi’n siŵr y buasai’n dod o hyd i ryw elfennau felly yn yr isymwybod.

Gyda’r nos fe es ati i goginio swper. Y pryd ar gyfer heno oedd Kiymail yumurtua, sef mins sbeislyd gyda wyau yn null Twrci. Roeddwn i braidd yn ofidus am wneud hyn – ond roedd na wyau ar ôl yn yr oergell ac roeddwn i’n credu taw dyma’r ffordd fwyaf cyffrous o’u defnyddio. Ni chefais fy siomi, fe weithiodd popeth yn iawn. Dwi ddim yn medru llunio englyn dros fy nghrogi ond o leiaf dwi’n medru coginio Kiymail yumurtua dechau.

Rhagor o luniau o fy eisteddfod i 2008-08-06.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.