Blog Dogfael» Margaret Thatcher

Cofio Thatcher
Mae’n ymddangos fod pawb yn ‘cofio’ Thatcher y dyddiau hyn ac fel un sy’n dwlu ar hel atgofion mae’n bryd i fi ymuno yn y sbort a’r sbri. Fe wnes i bleidleisio am y tro cyntaf ddydd Gŵyl Dewi 1979 yn y refferendwm ar ddatganoli. Does dim angen imi ddweud wrth neb wnaeth fyw trwy’r profiad hwnnw fod cysgod y digwyddiadau hyn wedi aros yn eu lle tan 1997.

Felly i mi un ychwanegiad arall at dduẅch y cyfnod yn dilyn refferendwm 1979 oedd cyfnod Thatcher. Dwi ddim yn credu fy mod i wedi sylweddoli beth fyddai effaith ei chyfnod fel Prif Weinidog pan gafodd ei hethol. Roedd pethau’n wael cyn iddi gael ei hethol. Dechreuais i yn y coleg fis Medi 1978 ac roedd y gaeaf hwnnw yn un diflas iawn. Roedd fy rhieni yn gweithio i’r cyngor sir – fy nhad yn un o fois yr hewl a fy mam yn gymorth cartref – roedd nifer o ewythrod a modrybedd hefyd yn gweithio i’r cyngor sir ar yr hewl neu fel cogyddion ysgol. O’r herwydd roedd pethau wedi bod yn weddol ddiflas cyn etholiad Thatcher ac roedd dychmygu gwaeth yn anodd.

Cymerodd hi ddim llawer inni sylweddoli fod pethau’n mynd i fod yn waeth. Yn raddol fe dechreuodd y newid. Preifateiddio a symud y dreth oddi ar incwm i wariant oedd y pethau a gafodd effaith. Pan dechreuais i weithio yn 1981 roedd y toriadau wedi dechrau effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Yna daeth Rhyfel Malvinas pan aberthwyd bywydau a gwariwyd ffortiwn er mwyn  amddiffyn hael cymaint o bobl oedd yn byw yn Arberth i fod yn ddinasyddion Prydeinig. Yn sgil hynny daeth yr etholiad cyffredinol, y frwydr gyda’r glowyr a gwahardd undebau llafur yn GCHQ.

Aeth pethau o ddrwg i waeth ac es i yn ôl i’r coleg yn 1985 cyn mynd i weithio i Lyfrgelloedd Morgannwg Ganol yn 1986. Ar ôl tair blynedd yno fe es i weithio yn Aberystwyth. Roedd Margaret Thatcher yn dal yn Brif Weinidog. Yna fe ddaeth Treth y Pen. Fel mae’n digwydd roeddwn i’n yng Ngwlad y Basg yn gwylio’r lluniau ar y teledu o’r reiat yng nghanol Llundain. Roedd yn debyg i’r golygfeydd dros y flwyddyn neu ddwy flaenorol ym mhrif ddinasoedd gwladwriaethau dwyrain Ewrop. Roedd y chwyldro ar ddigwydd.

Bu’n rhaid disgwyl am chwe mis arall cyn y diwrnod pan wnaeth Thatcher gyhoeddi ei hymddiswyddiad. Roedd yn ddiwrnod llawn gwefr – doeddwn i ddim yn cofio gwleidyddiaeth hebddi mewn gwirionedd. Ond wedi ychydig fe sylweddolais nad oedd ei diflaniad yn chwyldro mewn gwirionedd. Fe wnaeth pethau barhau yn debyg iawn. Roedd ein muriau Berlin ni yn dal i fodoli yn ein meddyliau a byddai angen llawer mwy o newid er mwyn eu dymchwel hwy. Un diwrnod o ryddid oedd hwnnw mewn gwirionedd. Roedd e’n ddiwrnod i’w fwynhau ond wedyn yn ôl â ni i’n caethiwed. Ac mae ei chysgod yn dal i fod trosom ni i gyd.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (8)
A dyna ni, wrth ymadael â Pointon a Sempringham roedd ein gwyliau ar ben. Yr unig beth oedd o’n blaenau bellach oedd y daith hir yn ôl i Aberystwyth. Digwyddodd dau beth ar y ffordd. Fe aethon ni yn y lle cyntaf trwy gyrion Grantham ac fe wnes i gymryd hynny fel ein teyrnged ni i Maragaret Thatcher. Fe wnes i dynnu llun siop Spar yno.

Yna, wrth i dorri ein taith fe wnaethon ni alw yng ngwasanaethau Hopwood Park ar yr M42. A hynny fel teyrnged i’r prifardd a’r prif-lenor Mererid Hopwood.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (3)
Un o’r pethau oedd yn dal i fod yn y Senedd oedd y gwaith celf dadleuol yn portreadu Aneurin Bevan a Margaret Thatcher mewn tunplat. Pan glywais i’n wreiddiol am y ddadl ynglŷn â’r gwaith fy mod wedi teimlo fod y cwynwyr yn gwneud lot o stŵr am ddim byd. Ond rhaid i mi ddweud ar ôl ymweld â’r Senedd a gweld y peth drosof fy hun fy mod wedi dod i ddeall yn well pa mor rhyfedd yw gweld wyneb Margaret Thatcher yn edrych i lawr arnoch chi yn Neuadd y Senedd a pham bod cymaint wedi teimlo’n grac am y peth. Roedd yn edrych yn òd iawn. Dwi’n gwybod fod rhai yn dweud fod y gwaith wedi gwneud ei waith wrth inni ei drafod, ond ai mewn senedd y mae lle i weithiau dadleuol o’r fath?

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.