Blog Dogfael» Leuven

Gadael Leuven
2008-12-27

Nôl â fi yn awr i Leuven a nos Sadwrn. Wedi swper a sgwrs fe ddaeth yr amser i droi tuag at Frwsel unwaith eto. Fel arfer wedi bod i fflat Liesbeth rydyn ni’n siarad yn hwyr iawn a dwi’n gadael ar y trên olaf yn ôl i brif ddinas. Yng Nghymru buasai gwneud rhywbeth o’r fath o wirfodd yn cael ei weld fel ffwlbri, ond yn Fflandrys maen nhw’n ymddiried yn eu trenau ac mae’r trên wastad ar amser. Y tro hwn roeddwn i’n mynd yn ôl yn gynt na’r arfer ac yn dal trên am ryw 23.00. Cefais lifft i’r orsaf gan Liesbeth ond y siom – roedd 20 munud yn hwyr! O’r diwedd fe ddaeth ac fe es i yn ôl i Frwsel yn saff. Roeddwn i wedi blino’n lân, a bellach dim ond diwrnod oedd gen i ar ôl yng Ngwlad Belg.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Wedi swper
2008-12-27

Wedi swper fe fuon ni’n siarad am y peth hyn a’r peth arall. Roedd pawb yn dal i synnu at y ffaith fod y brenin wedi gofyn i Wilfred Martens chwilio am brif weinidog. Roedd eistedd fan ‘na yn eu cwmni yn fy ngwneud yn fwy pendant byth yn fy nymuniad i fedru cyfathrebu’n well mewn Iseldireg. Trefnir cwrs haf ym Mhrifysgol Gatholig Leuven sy’n para trwy fis Awst a dwi’n cael fy nenu i fynd ar y cwrs hwnnw os yw’n bosib. Bydd hynny’n golygu colli’r eisteddfod, ond dwi’n teimlo os na wna i hyn nawr yna fe fydd hi’n rhy hwyr.

Dogfael, Liesbeth, Reinout a Kevin

Kevin sy’n gyfrifol am dynnu’r llun uchod, fe wnaeth hynny ar fy nghamera i gan ddefnyddio’r ffwythiant amseru. Dyna’r tro cyntaf imi erioed ei ddefnyddio. Dwi wrth fy mod gyda’r llun, er fy mod yn teimlo fy mod yn edrych yn hen yng nghwmni’r bobol ifainc hyn. Ond maen nhw’n oddefgar iawn ohonof a’m gwendidau gan gynnwys fy Iseldireg ofnadwy!

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Hugan Goch Fach
2008-12-27

Gyda’r nos roedd Liesbeth wedi trefnu fod ffrindiau iddi yn dod heibio i’w fflat i gael swper gyda mi. Ond cyn iddyn nhw ddod heibio a chyn dechrau paratoi swper cawsom gyfle i drafod fersiwn Gymraeg stori Hugan Goch Fach allan o Stori, stori, hen blant bach gan Helen Craig (addasiad Emily Huws) (Llandysul: Gomer, 2008). Mae Liesbeth yn dysgu Cymraeg ac mae’n cychwyn darllen trwy ddarllen straeon plant. Yn anffodus mae’r stori wreiddiol fel y’i cofnodwyd gan y Brodyr Grimm wedi’i newid yn fawr er mwyn ei gwneud yn dderbyniol i’n hoes ni, yn arbennig felly o ran materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch – lladd neiniau, eu bwyta, a thallu – a doedd hynny’n plesio’r un ohonom. Eto mae’n ffordd dda o ddysgu iaith darllen stori mae dyn yn ei gyfarwydd â hi yn barod gan bod hynny yn arbed llawer iawn o droi i’r geiriadur.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Cerdded lle cerddodd Erasmus
2008-12-27

Roedd siop Colruyt ychydig allan o ganol y ddinas ac yn weddol agos i’r hen farchnad bysgod, y Vismarket. Roeddwn i wedi bod yno o’r blaen oherwydd yno yr oedd olion (prin iawn) y coleg y cefnogodd Desiderius Erasmus (1466/69-1536) ei sefydlu yn Leuven ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Roedd Prifysgol Leuven ei hun wedi’i sefydlu yn 1425 ac roedd Erasmus, y diwygwyr crefyddol a llenyddol, yn darlithio yno. Dymuniad Jeroen van Busleyden (1470?-1517) oedd noddi  sefydlu Coleg Tairieithog, Collegium Trilingue, gyda’r bwriad o hyrwyddo amcanion diwygiad yn yr eglwys trwy astudio Hebraeg, Groeg a Lladin. Yn anffodus daeth protest a galwad llawer mwy radical Martin Luther am ddiwygiad crefyddol, ynghyd â marwolaeth van Busleyden ei hun, i roi stop ar y cynllun. Fe wnes i astudio hyn ar gyfer lefel A mewn hanes flynyddoedd maith yn ôl ond dwi’n dal i gael gwefr wrth feddwl am y cynnwrf a ysgogwyd gan syniadau Erasmus ar draws Ewrop. Fel y dywedais ychydig iawn o olion sydd i’w gweld – ond mae ‘na blac ­ar y wal i nodi’r fynedfa. Mae cerdded yn yr un lle ag y cerddodd ef yn brofiad.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Siopa yn Colruyt
2008-12-27

Nawr dwi’n siŵr fod llawer yn gweld mynd i archfarchnad a phrynu batris ar gyfer y camera fel rhywbeth y mae’n rhaid ei wneud. Ond i mi mae gwneud rhywbeth o’r fath yn eisin ar gacen gwyliau. Cyfle arall i dwyllo fy hun ac eraill fy mod yn Fflandrysyn o’r iawn ryw. Ac mewn sefyllfaoedd fel hyn y mae’r ffaith nad ydw i yn dod i’r amlwg. Sut hynny, onid yw  archfarchnadoedd yn yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio ac yn gwneud pethau yr un peth bobman. Ac mae hynny’n wir, heblaw am y pethau bach hynny lle mae pethau’n wahanol ac mae’n amhosib dyfalu beth sy’n digwydd.

Fe aethon ni i siop Colruyt ac fe wnaeth Liesbeth fy ngadael i chwilio am y batris yr oedd eu hangen arnaf tra’r oedd hi yn gwneud ei siopa ei hun. Roedden y batris i’w cael ger y tils. Des i o hyd i’r rhai yr oeddwn am eu prynu ac fe fues i’n gwylio’r tils am oesoedd i geisio deall yn iawn beth oedd yn digwydd. Roedd popeth yn debyg i’r arfer ar yr olwg gyntaf. Dod â’r nwyddau at y giât ac yna fe fyddai’r gweithiwr wrth y giât yn eu sganio. Ond wedyn roedd pethau’n wahanol. Doedd dim tils fel y cyfryw wrth y giât, roedden nhw y tu ôl iddi ac roedd yn rhaid mynd ymlaen i dalu. Wrth edrych yn ofalus fe welais i nad oedd neb yn talu gydag arian parod, ond yn hytrach yn defnyddio cerdyn o ryw fath. Ond nid cerdyn credyd arferol (fe ddysgais yn nes ymlaen fod Colruyt yn gweithredu sustem o fedru roi credyd ar eu cerdyn  hwy eu hunain a bod hynny’n rhoi gostyngiad pellach i gwsmeriaid). Ychydig bach o banig, doedd gen i ddim cerdyn o’r fath. Ond yna fe welais i rywun yn tynnu arian allan o’i bwrs a’i ddefnyddio i dalu. O dyna ryddhad! Wedyn fe aeth popeth yn iawn ac fe wnes i brynu fy matris.

Cwmni o Fflandrys yw Colruyt ac mae’n llwyddiannus iawn yn cynnig nwyddau am brisiau cystadleuol iawn. Dywedodd fy ffrind eu bod hwy a Lidl yn dadlau’n gyson am bwy sy’n cynnig y fargen orau. Yn ddiddorol iawn roedd mwyafrif llethol y nwyddau ar silffoedd Colruyt yn nwyddau cynhyrchwyr eraill, yn hytrach na’u label hwy eu hunain, yn wahanol i Lidl.

Un o uchafbwyntiau’r gwyliau mae’n siŵr.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Cyfarfod yn Leuven
Dydd Sadwrn 2008-12-27

Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod oer braf arall ym Mrwsel. Ond doeddwn i ddim yn mynd i aros ym Mrwsel am hir gan fy mod wedi trefnu cyfarfod gyda Liesbeth yn ninas Leuven. Rydw i wedi bod yn y ddinas sawl gwaith o’r blaen ond mae wastad yn bleser ymweld â’r lle. Bellach dwi’n deall fy ffordd o gwmpas y sustem fysus ac mae’n fwy o bleser byth neidio ar y bws a rhoi fy nhocyn aml-daith i mewn yn y peiriant fel petawn i’n medru siarad Iseldireg yn rhugl. Ac hyd nes bod dyn yn agor ei geg dyna yw’r sefyllfa. Ond wedyn, dyna’r adeg mae popeth yn mynd o’i le i mi.

Wrth gyrraedd canol y ddinas, ger y Satadhuis, roedd hi’n oer iawn. I ddweud y gwir roedd pibonwy yn dal i grogi oddi ar y cerflun enwog o fyfyriwr yn yfed o ffynnon gwybodaeth, fons sapientiae.

Roedd Liesbeth a minnau wedi trefn u i gyfarfod ger y Stadhuis er mwyn mynd i gael cinio gyda’n gilydd. Fe aethon ni i fwyty De Rector yn yr hen farchand, neu’r Oude Markt. Cefais i gawl tomato er mwyn ceisio adennill ychydig o wres.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau Awst 2007-08-28 (7)
Roedden ni wedi dod i Leuven i wneud mwy na dim ond gweld y golygfeydd, er roedd hynny’n ddigon o reswm ynddo’i hun. Fel mae’n digwydd mae Liesbeth yn byw yn Leuven ac Ivan mewn un o’r maestrefi, ac roedden ni wedi cael gwahoddiad i swper ati hi yng nghwmni Ivan. Y trefniant oedd ein bod yn ei gyfarfod ef ar Flochplein a’i fod yntau yn rhoi lifft inni i fflat Liesbeth a oedd yn weddol agos i Ysbyty’r Brifysgol, UZ Leuven. Yno mae ni’n gweithio fel anaesthetegydd. Fel mae’n digwydd gweithiodd y trefniant yn iawn. Dim ond wrth i’r siopau gau y cofiais y byddai’n syniad da i gael rhywbeth bach i fynd gyda ni ac felly fe aeth Ivan â ni heibio i archfarchnad ar y ffordd i brynu siocled i Liesbeth. O fewn dim roedden ni yn ei fflat bach – fi, RO, Ivan, Liesbeth a ffrind arall iddi, sef Geert.

Fe ddechreuon ni siarad am ryw hanner awr wedi saith gan orfod gorffen wrth iddi droi hanner nos ohewrydd yr oedd yn rhaid inni adael i ddal y trên olaf yn ôl i Frwsel. Beth wnaethon ni ei drafod? Popeth dan haul, ond roedd y rhan fwyaf o’n sylw yn mynd ar gyflwr Cymru a Fflandrys – y tebygrwydd a’r gwahaniaethau, a’r ffordd yr oedden ni’n gweld ein gilydd a’n hunain. Wrth inni siarad thrafod roedd Liesbeth wedi coginio swper Fflandrysaidd tipigol ar ein cyfer. Dywedodd hi ei bod wedi penderfynu ar y fwydlen wrth ddychmygu beth fuasai ei mam-gu wedi’i baratoi ar achlysur o’r fath. Yn ddiddorol iawn rodd Geert, er ei fod yn gweithio mewn banc bellach, wedi bod yn aelod o fyddin Gwlad Belg a’r pryd hynny wedi bod yn Swydd Efrog, Lloegr. Roedd ei Saesneg yntau yn berffaith hefyd.

Wrth siarad a siarad fe aeth yr amser yn ei flaen yn gyflym iawn ac yn y diwedd roedd yn rhaid inni frysio i ddal y trên olaf adref – diolch i yrru creadigol Ivan fe wnaethon ni ddal y trên. Yna rhuthr arall i ddal y trên tanddaearol o Brwsel Centraal i Sint-Katelijne. Ond yn y diwedd fe aeth popeth yn iawn ac roedden ni yn ôl yn ein gwesty yn saff i gysgu’n drwm ar ôl diwrnod arall llawn cyffro.

Yr holl luniau o 2007-08-28.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau Awst 2007-08-28 (6)
Mae’n ddiddorol fod ‘na arwyddion dwyieithog yn dal i fod yn Leuven. Dywed hanes fod Leuven wedi troi yn ddinas uniaith Iseldireg yn y 1960au. Ond er i’r Ffrangeg ddiflannu fel iaith weledol yma mae tafodiaith Leuven wedi llwyddo i ennill ei lle ar rai o arwyddion strydoedd y ddinas. Fe dynnais i luniau dau ohonynt.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau Awst 2007-08-28 (5)
Wedi inni ymlwybro trwy’r Groot Begijnhof roedden ni wedi cyrraedd gwaelod Naamsestraat. Ar hyd y stryd y mae llawer o hen golegau Prifysgol Babyddol Leuven yn gorwedd – dyma galon yr hen brifysgol a’r ardal sy’n teimlo’n weddol debyg i Rydychen neu Gaergrawnt ar lawer cyfrif. Bellach mae’r brifysgol wedi datblygu safleoedd newydd ar hyd a lled y ddinas, ac ar ei chyrion, ond yma y mae calon y sefydliad. Wrth gerdded yn ôl i fyny Naamsestraat roedd hi’n gyfle i RO a minnau bigo i mewn i gyrtiau nifer o’r colegau – y Coleg Americanaidd, Van Dalecollege, Atrechtcollege, Van Dalecollege – ac yna ymlaen i Sint-Michielsstraat a Maria-Theresiacollege a Paus Adriaan VI-College.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau Awst 2007-08-28 (4)
Mewn llawer o ddinasoedd a threfi Fflandrys ceir yr hyn a elwir yn Begijnhof, yn llythrennol “Pentre’r Beginesau”, sef ardal wedi’i neilltuo ar gyfer cymuned Gristnogol lleyg o fenywod, sef y Beginesau. Yn Fflandrys roedd y mudiad yn arbennig o boblogaidd. Byddai’r Beginesau hyn yn ymroi i weddi a gweithredoedd da a byw mewn cymuned ond nid mewn ffordd ffurfiol fel y byddai lleianod yn ei wneud. Oherwydd hynny yr oedden nhw’n rhydd i adael y gymuned a dychwelyd i’r byd ar unrhyw adeg. Daeth y mudiad i’r amlwg yn Fflandrys yn y drydedd a’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Fel arfer roedd y Begijnhof yn cynnwys nifer o dai o gwmpas cwrt ac yn aml iawn roedden nhw wedi’u neilltuo oddi wrth y dref neu’r ddinas â phyrth a gatiau. Mewn dinas fel Leuven roedd cannoedd ar gannoedd yn byw yn y Begijnhof, a’r menywod hyn oedd y dylanwad crefyddol pwysig yn y dinasoedd yn ystod y cyfnod hwn. Wedi cyfnod diwygiadol yr unfed ganrif ar bymtheg fe ddechreuodd y mudiad wanychu fel y gwnaeth y diwydiant gwlân a oedd wedi bod yn sylfaen i gyfoeth Fflandrys.

Bellach does dim Beginesau ar ôl; yn ôl yr hanes bu farw’r ddwy olaf ddechrau’r ugeinfed ganrif. Ond mae’r Begijnhoven eu hunain, yr adeiladau oedd yn gartref i’r cymunedau, yn dal i sefyll ac yn un o drysorau pensaernïaeth hanesyddol Fflandrys. Ers Hydref 1998 mae 26 Begijnhof yn Fflandrys wedi’u rhestru gan UNESCO fel safleoedd treftadaeth byd-eang, yn eu plith mae Groot Begijnhof (Begijnhof Mawr), Leuven. (Mae ‘na Begijnhof bychan yn Leuven hefyd!) Yno ceir rhyw 60 i 70 o dai sydd bellach yn eiddo i’r Brifysgol ac wedi’u hadfer.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.