Gadael Leuven

2008-12-27
Nôl â fi yn awr i Leuven a nos Sadwrn. Wedi swper a sgwrs fe ddaeth yr amser i droi tuag at Frwsel unwaith eto. Fel arfer wedi bod i fflat Liesbeth rydyn ni’n siarad yn hwyr iawn a dwi’n gadael ar y trên olaf yn ôl i brif ddinas. Yng Nghymru buasai gwneud rhywbeth [...]

Wedi swper

2008-12-27
Wedi swper fe fuon ni’n siarad am y peth hyn a’r peth arall. Roedd pawb yn dal i synnu at y ffaith fod y brenin wedi gofyn i Wilfred Martens chwilio am brif weinidog. Roedd eistedd fan ‘na yn eu cwmni yn fy ngwneud yn fwy pendant byth yn fy nymuniad i fedru cyfathrebu’n well [...]

Hugan Goch Fach

2008-12-27
Gyda’r nos roedd Liesbeth wedi trefnu fod ffrindiau iddi yn dod heibio i’w fflat i gael swper gyda mi. Ond cyn iddyn nhw ddod heibio a chyn dechrau paratoi swper cawsom gyfle i drafod fersiwn Gymraeg stori Hugan Goch Fach allan o Stori, stori, hen blant bach gan Helen Craig (addasiad Emily Huws) (Llandysul: Gomer, [...]

Cerdded lle cerddodd Erasmus

2008-12-27
Roedd siop Colruyt ychydig allan o ganol y ddinas ac yn weddol agos i’r hen farchnad bysgod, y Vismarket. Roeddwn i wedi bod yno o’r blaen oherwydd yno yr oedd olion (prin iawn) y coleg y cefnogodd Desiderius Erasmus (1466/69-1536) ei sefydlu yn Leuven ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Roedd Prifysgol Leuven ei hun wedi’i [...]

Siopa yn Colruyt

2008-12-27
Nawr dwi’n siŵr fod llawer yn gweld mynd i archfarchnad a phrynu batris ar gyfer y camera fel rhywbeth y mae’n rhaid ei wneud. Ond i mi mae gwneud rhywbeth o’r fath yn eisin ar gacen gwyliau. Cyfle arall i dwyllo fy hun ac eraill fy mod yn Fflandrysyn o’r iawn ryw. Ac mewn sefyllfaoedd [...]

Cyfarfod yn Leuven

Dydd Sadwrn 2008-12-27
Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod oer braf arall ym Mrwsel. Ond doeddwn i ddim yn mynd i aros ym Mrwsel am hir gan fy mod wedi trefnu cyfarfod gyda Liesbeth yn ninas Leuven. Rydw i wedi bod yn y ddinas sawl gwaith o’r blaen ond mae wastad yn bleser ymweld â’r lle. Bellach [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (7)

Roedden ni wedi dod i Leuven i wneud mwy na dim ond gweld y golygfeydd, er roedd hynny’n ddigon o reswm ynddo’i hun. Fel mae’n digwydd mae Liesbeth yn byw yn Leuven ac Ivan mewn un o’r maestrefi, ac roedden ni wedi cael gwahoddiad i swper ati hi yng nghwmni Ivan. Y trefniant oedd ein [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (6)

Mae’n ddiddorol fod ‘na arwyddion dwyieithog yn dal i fod yn Leuven. Dywed hanes fod Leuven wedi troi yn ddinas uniaith Iseldireg yn y 1960au. Ond er i’r Ffrangeg ddiflannu fel iaith weledol yma mae tafodiaith Leuven wedi llwyddo i ennill ei lle ar rai o arwyddion strydoedd y ddinas. Fe dynnais i luniau dau [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (5)

Wedi inni ymlwybro trwy’r Groot Begijnhof roedden ni wedi cyrraedd gwaelod Naamsestraat. Ar hyd y stryd y mae llawer o hen golegau Prifysgol Babyddol Leuven yn gorwedd – dyma galon yr hen brifysgol a’r ardal sy’n teimlo’n weddol debyg i Rydychen neu Gaergrawnt ar lawer cyfrif. Bellach mae’r brifysgol wedi datblygu safleoedd newydd ar hyd [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (4)

Mewn llawer o ddinasoedd a threfi Fflandrys ceir yr hyn a elwir yn Begijnhof, yn llythrennol “Pentre’r Beginesau”, sef ardal wedi’i neilltuo ar gyfer cymuned Gristnogol lleyg o fenywod, sef y Beginesau. Yn Fflandrys roedd y mudiad yn arbennig o boblogaidd. Byddai’r Beginesau hyn yn ymroi i weddi a gweithredoedd da a byw mewn cymuned [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (3)

Mae’n amlwg i drigolion dinas Leuven nad yw bodolaeth y colegau hanesyddol hyn i’w cymharu â’r ffaith fod corff y Tad Damien, neu Pater Damiaan, yn gorwedd yn Eglwys S. Antwn sydd ar sgwâr Pater Damiaanplein gan eu bod wedi’i enwi ar ei ôl. Efallai nad oes gan lawer o neb syniad pwy yw’r Tad [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (2)

Wedi cinio dyma droi o’r Oude markt i lawr i Parijsstraat a thuag at sgwâr Pater Damiaanplein. Yn sgwâr Pater Damiaanplein saif adeiladau dau o hen golegau Leuven a sefydlwyd ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, sef Coleg S. Antwn o Badua (neu’r Coleg Gwyddelig, Iers College) a Choleg S. Pulcheria (neu Goleg Holland, Hollands College).

Bu’r [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (1)

Doedd hi ddim yn gynnar iawn arnon ni’n gadael Brwsel fore Mawrth ar ein ffordd i Leuven ar y trên. Roedd Liesbeth wedi ein gwahodd ni i swper ac roedden ni wedi trefnu gyda Ivan iddo ef ein cyfarfod yng nghanol y ddinas tua rhyw 6.00pm er mwyn mynd â ni i’w fflat. Ond roedden [...]