Archifau tagiau: IJzerbedevaart

Gwyliau Awst 2007-08-26 (6)

IJzerbedevaart 4Canu’r anthem tu fas i farbiciw’r N-VA
Wedi holl gyffro’r IJzerbedevaart roedd angen cinio ac fe awgrymodd Liesbeth ac Ivan ein bod yn croesi i lan arall afon IJzer er mwyn mynd i farbiciw wedi’i drefnu gan blaid Nieuw-Vlaamse Alliantie (N-VA). Mae Ivan yn aelod o’r blaid ac wedi sefyll etholiadau lleol yn ei henw. [...]

Gwyliau Awst 2007-08-26 (5)

Datganiad yr IJzerbedevaart
Ar ddiwedd yr IJzerbedevaart a chyn canu’r anthem fe wnaeth pawb godi i gyd-adrodd datganiad. Dyma ddatganiad o bwrpas yr IJzerbedevaart a’i nod triphlyg o hybu heddwch, rhyddid a goddefgarwch. Dyma’r datganiad.

Ein sylfaen yw Cyfamod IJzer:
Dim rhyfel byth eto, hunan-benderfyniad, tangnefedd Duw.
Gweithiwn dros heddwch a fydd yn para
trwy gyfiawnder cymdeithasol,
cydweithredu rhyngwladol,
cyd-ffrwythloni diwylliannol
a hawl [...]

Gwyliau Awst 2007-08-26 (4)

Cynhelir yr IJzerbedevaart yn yr awyr agored wrth droed yr IJzertoren ar lan afon IJzer. Mae’r cae yn ddigon mawr i ryw 10,000 o bobol ond erbyn hyn dim rhyw 3,000 neu 4,000 sy’n dod ynghyd i’r IJzerbedevaart – mae’r oes euraidd drosodd. Llynedd roedd mwy o bobl wedi mynd i’r IJzerwake, y seremoni a [...]

Gwyliau Awst 2007-08-26 (2)

Fel y dywedais i roedd ein taith i Diksmuide yn dechrau gyda mynd o ganol Brwsel i orsaf Zaventem. Roeddem i gyrraedd yno erbyn 9.00am er mwyn cwrdd ag Ivan. Roedd dau drên yn gadael gorsaf Brwsel Centraal ar ôl 8.00am y gallem eu cymryd er mwyn cyrraedd Zaventem mewn pryd. Aethon ni ar yr [...]

Gwyliau Awst 2007-08-26 (1)

Dwi’n siŵr fod rhai o ddarllenwyr y blog yn dechrau dioddef effeithiau gor-wybodaeth am bethau yn Fflandrys, ond mae’n siŵr fod na eraill sydd am wybod beth yw’r IJzerbedevaaart. I’r rhaid nad ydyn nhw am wybod mwy am Fflandrys nid dyma’r cofnod ichi oherwydd dwi am esbonio rhywbeth am gefndir yr IJzerbedevaart a’i arwyddocâd. Gan [...]