Terry Wogan ac Eurovsion

Dwi’n troi yn ôl at gystadleuaeth cân Eurovision ar ôl clywed fod Syr Terry Wogan wedi pwdu yn dilyn canlyniad nos Sadwrn. Mae’r Guardian yn adrodd yr hanes heddiw o dan y teitl “Eurovision contest voting is no laughing matter, says Wogan”. Yn yr erthygl mae Wogan a Bruce Forsyth yn cwyno taw dim ond [...]

Eurovision 2008 (8)

Mae canlyniadau y pleidleisio yn cael eu cyhoeddi. Mae’r diwedd yn dod yn nes. Dim llawer o obaith fod Bosnia yn mynd i ennill. Ond dwi’n synnu i weld Groeg a Rwsia ar y brig. Dyna ni dwi ddim yn meddwl yr un peth â gweddill poblogaeth Ewrop mae’n amlwg. O leia roedd y dyn [...]

Eurovision 2008 (7)

Mae canlyniadau y pleidleisio yn cael eu cyhoeddi. Mae’r diwedd yn dod yn nes. Dim llawer o obaith fod Bosnia yn mynd i ennill. Ond dwi’n synnu i weld Groeg a Rwsia ar y brig. Dyna ni dwi ddim yn meddwl yr un peth â gweddill poblogaeth Ewrop mae’n amlwg. O leia roedd y dyn [...]

Eurovision 2008 (6)

Dyna drueni nad oedden nhw wedi canslo’r gystadleuaeth cân Eurovision a llenwi’r amser gyda chyngerdd gan Goran Bregović a’i fand! Am fywiogrwydd. Prin oedd hwnnw yn y gystadleuaeth ei hun.

(Dim pleidlais eto)

Eurovision 2008 (5)

Pa fodd y syrthiodd y cedyrn! Dyma sgandal ieithyddol y noson. Ffrainc yn canu eu cân yn rhannol mewn Saesneg. Beth fyddai France Gall yn ei ddweud? Er taw yn enw Luxembourg yr enillodd hi y gystadleuaeth dwi’n credu y byddai hi’n poen rhyw ychydig. Ac ar ôl hynny i gyd doedd y gân ddim [...]

Eurovision 2008 (5)

Portiwgal. Du a gwyn, Portiwgaleg. Cymysgedd dda, ond ddim yn taro deuddeg.

Latfia. Môr ladron. Disco. Cymysgedd anhyfryd. Roedd mwy o siâp ar Barti Ddu nag ar y rhain. Dwi ddim yn rhy siŵr pam roedd y wlad am ei hannibyniaeth er mwyn gwneud hyn ar y llwyfan rhyngwladol. Efallai taw dyma’r gwaethaf hyd yn hyn.

Sweden. [...]

Eurovision 2008 (4)

Mae’r grŵp nesaf o ganeuon yn dechrau gydag Israel. Cân hanner mewn Hebraeg ond gyda chyffyrddiad o Saesneg. Pam?

Mae’r gân nesaf yn fwy tebyg iddi. Y Ffindir mewn Ffineg ac yn canu cân sydd yn gwbl groes i’r diddimrwydd rydyn ni wedi clywed yn gyffredinol tan hyn.

Croatia. Mae hon yn bendant mewn Croateg. Ond [...]

Eurovision 2008 (3)

Mae’r darllediad wedi dechrau ar y we yn fyw o Beogradska Arena gyda lle i gynulleidfa o ryw 23,000. Maen nhw’n agor gyda chân mewn Serbeg gan enillydd llynedd, Marija Šerifović, yna mae’n troi at Saesneg. Yn ei thro mae’n cyflwyno’r cyflwynwyr ffantastig yn siarad Saesneg Canol Ewrop gyda’r gorau. Ac oherwydd fy mod yn [...]

Eurovision 2008 (2)

Nid fi yw’r unig un sydd wedi dwlu ar gân Bosnia gan Elvir Laković Laka, dyma beth sydd gan HecklerSpray ddweud ar ei flog.

Without a trace of exaggeration, Pokusaj might just be the best Eurovision song by any country in five years. It’s incredible – a kind of statacco Tropicalia opening that bursts into a [...]

Eurovision 2008 (1)

Wel, mae’r noson wedi dod pan fydd cyfandir cyfan yn dathlu eu diwylliant cyffredin a’u hamrywedd trwy gyfrwng yr iaith ryngwladol, sef cerddoriaeth. Heno yw noson rown derfynol Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008. Dwi wedi paratoi ar gyfer y noson wrth wylio’r ddau ragbrawf ar y we. Mae’n amlwg fod Serbia yn taflu adnoddau at y [...]

Eurovision ar y ffordd

Bues i ar raglen Radio Cymru Taro’r Post heddiw yn amddiffyn Cystadleuaeth Cân Eurovision yn erbyn eu beirniaid. Daeth yn hynod o ffasiynol i chwerthin ar ben y gystadleuaeth ond dwi’n wyliwr ffyddlon ac wedi bod ers yn grwt 5 mlwydd oedd bochgoch ym Mynachlog-ddu. Cystadleuaeth Eurovision oedd yn dod â glam a selebrwydd i [...]