‘Nôl i Aberystwyth
Mae teithio adref o’r eisteddfod yn medru bod yn antur ynddo’i hun. Ond gan ein bod yn byw yn Aberystwyth mae’n rhaid gwneud antur allan o’r peth. I rywrai o ben draw Ynys Môn sy’n mynd i eisteddfod yng Nghasnewydd, neu vice versa, mae’r daith yn un anturus. Ond os ydych chi’n byw [...]
Cyrri
Wedi bwyta cocos yn gynharach yn yr wythnos fe ddaeth tro bwyta un arall o ddanteithion traddodiadol Abertawe, sef cyrri. Wedi i bawb setlo i lawr yn Singleton, ac wedi i DML ddod yn ôl o dynnu stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i lawr (yn gyfreithlon!) ar faes yr eisteddfod yr oedd yn rhaid mynd [...]
Diwedd yr wythnos
Wedi cynnwrf a chyffro y blog-gwrdd doedd dim rhyw lawer ar ôl i edrych ymlaen ato. Roeddwn i wedi gwneud popeth yr oeddwn wedi breuddwyio am ei wneud - Bro Gŵyr, Marchnad Abertawe, Pontardawe, Banwen, Pontneddfechan, maes yr eisteddfod, Tabernacl, &c. Yr unig siom oedd methu mynd i chwilio am gofeb Hopcyn ap [...]
Blog-gwrdd
Efallai taw colli’r cwis oedd yr artaith yr oedd yn rhaid ei ddioddef er mwyn cyrraedd y fan honno yn yr wythnos lle’r oeddwn i am fod. Yn union ar ôl y cwis dyma fynd ar draws y cae i stondin Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg ohewrydd yno yr oedd un o’r cyfarfodydd pwysicaf yn hanes y [...]
Cwis
Does dim chwerwder, ond roedd colli y cwis o hanner marc yn ergyd anodd i’w goddef. Dwi ddim yn un chwaith sy’n ymddiddori nac yn ymhyfrydu mewn damcaniaethau cynllwyn, ond mae’r ffaith fod y gwisfeistres yn chwaer i un o aelodau’r tîm buddugol wedi bod yn mynd trwy fy meddwl a dechrau gwneud imi amau [...]
Addewid yn dod adref i glwydo!
Mae pawb wedi cael y profiad o addo rhywbeth yn ddi-hid fisoedd ymlaen llaw, ac yna’n sydyn mae’r hyn oedd yn rhith yn troi yn realiti byw. Dyna ddigwyddodd i fi heddiw. Oherwydd imi ddweud ‘ie’ i gais i gymryd rhan mewn cwis yn y Babell Lên heddiw mae hynny’n [...]
Pam coginio?
Mae rhywun yn siŵr o ofyn pam fy mod yn fodlon treulio mwy o amser yn coginio yn yr eisteddfod nag ydw i ar y maes ei hun. Wel y gwir amdani yw fy mod yn mwynhau coginio, ond wrth goginio i fi fy hun dwi ddim yn cael y pleser o weld rhywun [...]
Ffarwél i Hendrefoelan
A dyna’r wythnos drosodd heb imi sylwi bron. Dau ddiwrnod o eisteddfota, tri diwrnod o deithio o gwmpas, a dau ddiwrnod o wneud dim byd. A dyma fi’n codi’n fore am fod yn rhaid inni adael ‘pentref’ Hendrefoelan cyn inni droi am y diwrnod olaf yn yr eisteddfod. Sut le oedd Hendrefoelan i [...]
Pen blwydd hapus i fi!
Rwy’n chwech a deugain oed heb unrhyw chwant priodi… Roedd ‘na adeg pan roeddwn i’n anwybyddu fy mhen blwydd, doedd e ddim yn bwysig imi. Ond ers imi ddathlu fy neugeinfed flwyddyn ar y byd hwn dwi’n gweld pob blwyddyn arall yn gyflawniad sy’n werth dathlu bellach. Roedd fy nathliad heddiw [...]
Pontneddfechan
Weithiau mae’n syndod i mi cymaint y mae’n bosib i’w wneud mewn diwrnod. Buasech chi’n tybio buasai ymweliad â’r Banwen wedi bod yn gopsi ar ddiwrnod fel hwn, ond roedd mwy eto i’w wneud. Yn y Banwen roedden ni ond tafliad carreg o Bontneddfechan a gwlad y rhaeadrau ac roedd RO yn benderfynol os nad [...]
Glaw, meini hirion a Phadrig Sant
Yn raddol roedden ni’n rhedeg mas o Gwm Tawe wrth inni ddringo trwy Abercraf, Ynyswen a Chraig-y-nos. Daeth ein taith i’r gogledd i ben wrth inni gyrraedd Bwlch Bryn-rhudd ar y A4067 yn edrych i lawr dros gronfa Crai. Yn sydyn dyma’r glaw yn peidio ac wrth inni droi yn [...]
Ysgol Gyfun Ystalyfera / Ysgol Gyfun Ystalyfera
Nid dyna ddiwedd ein taith. Roedden ni am gyrraedd Glyntawe a hyd yn oed tu hwnt. Ond y lle cyntaf inni alw heibio iddo oedd Ystalyfera, ar y ffin bellach rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Lle arall muthig, oherwydd bodolaeth Ysgol Gyfun Ystalyfera. Pan roeddwn i’n y coleg [...]
Salad couscous ym Mhontardawe
Dyw Pontardawe ddim yn lle mawr iawn, ond fe lwyddodd RO a finnau i dreulio rhyw awr a hanner yn crwydro’r strydoedd ac yn bwyta. Fe welsom ni’r gamlas ac Afon Tawe, y ganolfan celfyddydau a’r cofebau, ambell i siop fan hyn a fan ‘co, ac wrth gwrs tai bach digon safonol [...]
Pontardawe
O fewn dim roedden ni wedi cyrraedd Pontardawe. Doeddwn i ddim wedi bod yno ers canol yr 1980au, ond doedd gen i ddim rhyw gof cryf iawn am y lle. Heddiw yr oedd hi’n bwrw, dwi’n gwybod taw dim ond glaw mân oedd e, ond roedd hi’n bwrw a finnau wedi bod mor ffôl â [...]
Llyfr Coch a fan Somerfield
Roedd hi’n dechrau pigo glaw wrth inni adael Treforys, o fewn dim a ninnau’n gyrru trwy Ynysforgan y tu ôl i fan Somerfield yr oedd hi’n bwrw’n eithaf trwm. Gyda’r glaw fe ddaeth niwl, ac ni chawsom y daith yr oeddem wedi disgwyl ei chael i fyny Cwm Tawe a mynd [...]
Treforys, Tabernacl a thoiledau
Mae Treforys wedi bod yn lle ‘chwedlonol’ i mi hyd heddiw: wedi clywed amdano, wedi darllen amdano, ond heddiw yw’r tro cyntaf imi gerdded ei strydoedd. Fe fues i drwy’r lle mewn car ac heibio i’r Tabernacl cyn hyn, ond dyma’r tro cyntaf imi fedru gweld y siopau a’r eglwysi, a’r bobol [...]
Cocos a chapeli
Bore arall, a dim ond dau i fynd yn Hendrefoelan, a heddiw rydyn ni’n troi ein cefnau ar yr eisteddfod unwaith eto a mynd i deithio – fi ac RO, hynny yw. Heddiw rydyn ni’n bwriadu mynd tua’r gogledd ar hyd Cwm Tawe ond gan ddechrau yn Nhreforys. A dyna fi’n dod i [...]
Glenda Slagg a chnau pîn
Wedi galw i mewn i babell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i weld DML a phawb oedd yno dyma fynd yn ôl tuag stondin Cyngor Llyfrau Cymru i gwrdd â DJP ac RO ar gyfer cael lifft ‘nôl i ‘bentref’ Hendrefoelan. Yr oedd pawb yn trafod enillydd y Fedal Ryddiaith, sef Fflur [...]
Y gawell unwaith eto
Fel y dywedais y tu fas i’r Lle celf roedd ‘na gawell fawr a thu mewn i’r gawell roedd Catrin Dafydd a Rowley Clay yn perfformio. Yn anffodus fe gollais i berfformiad olaf y dydd, ond roedd Catrin yn dal i fod y tu fewn a Rowley y tu fas. Roedd hi’n [...]
Y Lle Celf
Dwi ddim rhoi amser go iawn i’r Lle celf ar faes yr eisteddfod ers blynyddoedd, felly gyda rhyw dair awr ar ôl ar y maes fe wnes i ddweud y buaswn yn treulio’r hyn oedd ei angen yno. Wrth gerdded i mewn i’r arddangosfa fe sylwais ar hysbyseb am deithiau tywys deongliadol o [...]