Archifau tagiau: Eglwysi pabyddol

Basilica Mair Arglwyddes Cysuron, Vilvoorde

Wrth gerdded i mewn i’r dref o’r orsaf dyma fynd heibio i adeilad trawiadol iawn sef Basiliek van Onze Lieve Vrouw van Troost, Basilica Mair Arglwyddes Cysuron. Fel mae’n digwydd dyma un o sefydliadau cynnar y mudiad y Carmeliaid, ac yma o hyd y mae ‘na leiandy’r urdd. Sefydlwyd y lleiandy rhywbryd rhwng 1450 ac [...]

Erthygl am John Fitzgerald yn Golwg

Roedd ‘na erthygl am John FitzGerald yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon. Doedd hi ddim yn erthygl hir iawn, ond yr hyn oedd yn ddiddorol am yr erthygl oedd sylwadau Daniel Huws oedd yn cael eu dyfynnu fel rhan o’r erthygl. Mae pawb yn gwybod fod John, ar ôl bod yn Aberystwyth am ddeugain [...]

Eisteddfod 2007-08-05 (2)

Wedi ymweld â Phen-y-bryn neu Top of the Hill er mwyn DML, a Mecca Methodistiaeth Galfinaidd Sir y Fflint yn Licswm ar gyfer RO, doedd hi ond yn deg ac yn synhwyrol inni fynd gyda DJP ar bererindod i Ffynnon Gwenfrewi yn Nhreffynnon. Erbyn heddiw ychydig yw’r rhai sy’n ymweld â’r ffynnon o’u cymharu â’r [...]

Eglwys Gadeiriol S. Giles

Wedi cinio fe ddylsen i fod wedi cymryd hoe, ond roedd gen i ormod o bethau i’w gwneud a dim digon o amser ar eu cyfer. Felly dyma godi o’r bwrdd a throi i’r chwith i fyny’r Filltir Frenhinol tuag at Eglwys Gadeiriol S. Giles . Sefydlwyd yr eglwys wreiddiol ar y safle yn [...]