Dydd y Pasg 2009

Dwi’n dechrau ysgrifennu hyn yn Eglwys y Santes Fair wrth ddisgwyl i’r gynulleidfa gyrraedd ar gyfer gwasanaeth y Cymun Bendigaid am 8. Roedd y dref yn dawel iawn y bore ‘ma wrth gerdded i’r eglwys – dim ond yr adar a pheiriant glanhau y cyngor.

Mae’r eglwys wedi’i haddurno gyda blodau ac mae eu gwynt [...]

Gwasanaeth carolau 2008

Fel y dywedais yn gynt er taw’r Trydydd Sul yr Adfent oedd hi ddydd Sul roeddem ni yn Eglwys y Santes Fair yn cynnal ein gwasanaeth carolau blynyddol. Mae hyn yn digwydd cyn y Nadolig ers i mi gofio. Holodd ffrind pryd ddechreuwyd gwneud hyn, sef “dathlu” Nadolig cyn y Nadolig. Mae’n siŵr gen i [...]

Paratoi i ddathlu’r Nadolig

Yn swyddogol nid yw’r eglwys yn dathlu’r Nadolig tan 25 Rhagfyr, ond mae’n gwneud hynny gyda steil gyda chyfnod estynedig o wyliau yn gorffen gyda Gŵyl yr Ystwyll ar 6 Ionawr. Cyn hynny mae’r eglwys yn cadw Tymor yr Adfent sydd yn draddodiadol yn gyfnod tebyg i’r Garawys lle mae edifeirwch a hunan ymholi yn [...]

Emynwyr Aberystwyth

Drannoeth fy nghyflwyniad i ar Drysorau Cristnogol y Llyfrgell Genedlaethol roeddwn i mewn sgwrs arall, am Emynwyr Aberystwyth y tro hwn. Digwyddodd y sgwrs yn Eglwys y Santes Fair a’r un oedd yn traddodi oedd Delyth G Morgans. Ni allem ni fod wedi dod o hyd i neb gwell i wneud y gwaith hwn gan [...]

Diolchgarwch am y cynhaeaf 2008

Roedd y penwythnos diwethaf yn benwythnos Diolchgarwch am y Cynhaeaf yn Eglwys y Santes Fair. Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fyddwn yn neilltuo amser i ystyried haelioni Duw tuag atom ac i ddiolch iddo am hynny trwy fawl, addoliad a dathlu.

Dechreuodd y dathlu nos Sadwrn 11 Hydref gyda Swper Cynhaeaf yn Neuadd y plwyf. Roedd [...]

Mwy na dim ond gwleidyddiaeth

Wrth gwrs mae bywyd wedi mynd yn ei flaen, er gwaethaf gwleidydda. Roedd yr wythnos a aeth heibio yn eithaf prysur yn grefyddol. Nos Lun fe fues i mewn gwasanaeth i sefydlu ficer newydd yn Eglwys y Drindod, sy’n rhan o blwyf Aberystwyth. Cefais i’r fraint o ddarllen y darlleniad Cymraeg yn y gwasanaeth; eglwys [...]

Pleidleisiwch i fi!

“Ble mae dy flog di wedi mynd?” yw’r cwestiwn dwi’n ei gael amlaf y dyddiau hyn. Wel, dwi’n ofni i ddweud taw cyfuniad o brysurdeb, salwch, crefydd a gwleidyddiaeth sy’n gyfrifol am dawelu fy llais blogaidd. Yn y lle cyntaf bues i’n teimlo’n dost gyda chric yn fy ngwddf am dri neu bedwar diwrnod. Roedd [...]

Newid gwefan Eglwys y Santes Fair

Un rheswm dros fy nhawelwch cymharol ar y blog dros y diwrnodau diwethaf yw fy mod wedi bod yn ail-lunio gwefan Eglwys y Santes Fair. Dwi wedi bod yn arbrofi ers tipyn gyda’r ffordd orau i wneud hynny. Yn y diwedd dwi wedi dilyn llwybr newydd o ddefnyddio’r feddalwedd flogio yr ydw i’n ei defnyddio, [...]

Dydd y Pasg 2008

Wedi’r holl weithgaredd mae’n debyg y gallai Dydd y Pasg fod wedi bod ychydig yn fflat. Ond nid fel ‘na oedd hi o gwbwl. Bues i yn y gwasanaeth am 10.00am yn Eglwys y Santes Fair, Cymun teuluol. Roedd ‘na nifer go dda yno yn rhieni, plant ac eraill. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y rheithor [...]

Blodau’r Pasg

Roeddwn i yn ôl yn Eglwys y Santes Fair fore Sadwrn ar gyfer defod arall yn gysylltiedig gyda’r Pasg – addurno’r eglwys gyda blodau. Mae’n draddodiad yn Eglwys S Mair bod blodau yn cael eu gosod dros y lle i gyd er mwyn dathlu’r Pasg. Yn ystod tymor y Garawys does dim blodau o gwbl [...]

Parhau i ddathlu

Doedd y dathlu ddim drosodd eto. Gyda’r nos roedd Eglwys y Santes Fair yn cynnal swper agape i ddathlu Gŵyl Dewi sef cyfuniad o bryd o fwyd gyda gwasanaeth y Cymun Bendigaid. Mae hyn wedi dod yn dipyn o draddodiad bellach, ac mae’n ffordd arbennig iawn o gymuno ac o rannu cymdeithas o fewn [...]

Penwythnos yn yr eglwys

Dydd Sadwrn roeddwn i yn Eglwys y Santes Fair ar gyfer gwasanaeth angladd un o’r aelodau. Fore Sul yr oeddwn yn ôl yn yr eglwys ar gyfer gwasanaeth y Cymun Bendigaid. Yn y nos yr oeddwn i’n pregethu yno hefyd, ond nid fi oedd yn arwain y gwasanaeth; Adrian Morgan, myfyriwr ymchwil yn yr Adran [...]

Gwasanaeth carolau yn Eglwys y Santes Fair

Er nad yw calendr yr eglwys yn dweud ei bod hi’n Nadolig eto – yn swyddogol mae’n dal i fod yn dymor yr Adfent – cynhaliwyd y Gwasanaeth carolau blynyddol yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth ddydd Sul (2007-12-16) am 3.00pm. Gyda chymaint o unigolion a theuluoedd yn mynd ar eu gwyliau dros y Nadolig [...]