Archifau tagiau: Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Fy nghais am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru

Dwi’n falch o gael dweud fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn fy nghais am wybodaeth yn ymwneud â phenderfyniad y Gweinidog Treftadaeth ar ariannu papur dyddiol Cymraeg. Bydd yn rhaid imi ddisgwyl tan ddechrau’r mis nesaf i gael ateb i’m cais gan fod gan adrannau’r Llywodraeth hyd at 20 diwrnod i chwilio am yr wybodaeth i [...]

Mwy am ryddid gwybodaeth

Yn ddiddorol iawn rhyddhawyd yr wybodaeth am Restr John Lewis yn dilyn cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac apêl at y Comisiynydd Gwybodaeth pan geisiodd yr awdurdodau ddadlau fod yr wybodaeth yn dod o dan yr esemptiadau a ganiateir o dan y ddeddf. A hynny sydd wedi f’atgoffa nad ydw i wedi cael [...]

Rhyddid gwybodaeth

Dwi’n gobeithio nad ydw i’n osbesd gyda’r peth, ond mae penderfyniad y Llywodraeth i beidio ag ariannu papur newydd dyddiol Cymraeg yn ddigonol yn dal i fy nghorddi. Dwi ddim yn deall yn iawn beth ddigwyddodd. Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddwyd llythyr oddi wrth y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, yn Golwg a’r Cymro, yn [...]