Archifau tagiau: Brwsel Nadolig 2007

Coffi di-fwg

Wedi crwydro trwy ffair y Winter Pret roedd y ddau ohonom yn teimlo braidd yn oer ac yn chwilio am rywle i gynhesu. Felly dyma alw mewn i gaffi i gael coffi. Dewisodd Ivan un o gaffis Fflandrysaidd yr ardal, sef Café Monk yn Sint-Katelijnestraat. Ar yr olwg gyntaf yr oedd hwnnw yn edrych yr [...]

Mynd gydag Ivan i’r Winter Pret, Brwsel

Doedd fy niwrnod i ddim ar ben gyda fy ymweliad â Drogenbos gan fy mod wedi trefnu i gyfarfod gyda chyfaill o Fflandrys yng nghanol Brwsel gyda’r nos. Ein bwriad oedd mynd i’r ffair oedd yn cael ei chynnal yno, y Winter Pret. Roeddwn i wedi cwrdd ag Ivan am y tro cyntaf tua’r un [...]

Drogenbos

Wedi bod yn Linkebeek roedd yn rhaid bwrw yn ôl i Frwsel er mwyn dal y tram allan i Drogenbos, fy mhumed cymuned gydag adnoddau ieithyddol i siaradwyr Ffrangeg ar gyrion Brwsel. Roeddwn i’n mynd i fynd ar dram 82 o orsaf Brwsel Zuid hyd at neuadd cyngor Drogenbos. Mae’r tram ei hun yn mynd [...]

Linkebeek (3)

Tra bo’r ddadl fawr ieithyddol yn Fflandrys/Brwsel ynglŷn â’r Ffrangeg a’r Iseldireg, mae ‘na iaith arall yn prysur ennill tir y tu ôl i’w cefnau. Does dim angen imi ddweud taw Saesneg yw’r iaith honno. Ar sgwâr y pentref o flaen y gemeentehuis yn Linkebeek roedd ‘na siop gyda’r enw ‘Once upon a time’! Mae’n [...]

Linkebeek (2)

Dyw hi ddim yn syndod fod pobol am fyw yn Linkebeek. Mae’n beth od i’w ddweud ond mae canol y dref bron â bod yn atgoffa dyn o bentref yn Lloegr oherwydd yr hyn sydd yno i bob pwrpas yw “village green”. Ar ganol hwnnw mae cofeb ryfel. O gwmpas y mae tai, siopau, gorsaf [...]

Linkebeek (1)

Dydd Gwener (2007-12-28). I rywun sy’n digwydd taro ar draws y blog yn ‘oer’ bydd y diwrnod heddiw yn swnio’n arbennig o debyg i ddoe. Y rheswm dros hynny wrth gwrs yw fy mod yn ceisio cyrraedd yr un fath o nod heddiw â ddoe, sef ymweld â rhai o’r cymunedau ar gyrion dinas Brwsel [...]

Kraainem (3)

Yr hyn oedd yn gwneud imi gyfeirio at awyrgylch tebyg i bentref yn Kraainem oedd sefyllfa neuadd y cyngor, y gemeentehuis, gyferbyn ag eglwys Sint-Pancratiuskerk, Kraainem. Ac wrth gwrs beth arall oedd yno ond tafarn The New Inn! Ac wrth gwrs yn y stryd fawr roedd ‘na fwyty Tsieineaidd, Bwyty Fu Lai. A dyma’r unig [...]

Kraainem (2)

Roedd y daith o Roodebeek hyd at Kraainem yn mynd â mi trwy gymuned cymharol gyfoethog Sint-Lambrechts-Woluwe, er roedd ‘na dai digon tlodaidd yr olwg i’w gweld o’r bws. Aethon ni heibio hefyd i gampws Université catholique de Louvain ym Mrwsel, sy’n bennaf yn gartref i ysbyty’r brifysgol, sef UCL St Luc. Ond wrth i’r [...]

Kraainem (1)

Roedd hi’n dal i fod yn fore a’m bwriad i oedd mynd o Wezembeek-Oppem i Kraainem erbyn amser cinio. Ond roedd y daith ar drafnidiaeth gyhoeddus yn un reit gymhleth i ddweud y gwir. Yn gyntaf roedd yn rhaid dychwelyd ar dram 39 i Stokkel; yn Stokkel cymryd metro 1B hyd at orsaf Roodebeek; o [...]

Wezembeek-Oppem (2)

Mae rhyw 14,000 yn byw yn Wezembeek-Oppem ac, yn dilyn Kraainem, dyma’r mwyaf Ffrengig o gymunedau cyrion Brwsel sydd yn Fflandrys. Efallai y dylwn ail-eirio hynny fel un o’r llefydd lleiaf Iseldireg, oherwydd un o’r ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddenu rhai nad ydynt yn siarad Iseldireg i’r ardal yw presenoldeb Internationale Deutsche Schule Brüssel [...]

Wezembeek-Oppem (1)

Mae teithio ar y tram 39 neu 44 allan o orsaf Montogmery ym Mrwsel wastad yn gyffrous gan fod y tram yn mynd allan o’r ddinas i ardaloedd gwledig. Mae tram yn mynd i gyfeiriad Tervuren ac Amgueddfa Affrica sydd yno. I fynd i Tervuren mae’n rhaid mynd trwy goedwig Zoniënwoud. Nid yw’r daith ar [...]

Dwy gymuned arall ar gyrion Brwsel

Dydd Iau (2007-12-27). Wedi ymweld â Vilvoorde ddoe dyma droi yn ôl heddiw at y faciliteitengemeenten, sef y cymunedau hynny ar gyrion Brwsel sydd yn Fflandrys Iseldireg ond sydd yn cynnig rhai hawliau i siaradwyr Ffrangeg. Fel y mae’n amlwg, canlyniad i gyfaddawdu ddechrau’r 1960au yw’r cymunedau hyn – nid ydyn nhw’n plesio neb. Mae’r [...]

March Brabant

Er mor bwysig yr oedd Vilvoorde yn gynnar yn ei hanes, cafodd ei siarter yn 1192, lleihau wnaeth ei safle yn hanes Fflandrys dros y blynyddoedd hyd nes i’r wlad ddechrau gael ei diwydiannu o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y cyfamser yr oedd wedi dod yn ganolfan bwysig i brynu a gwerthu [...]

William Tyndale

Yn rhyfedd iawn mae i Vilvoorde ran yn hanes crefyddol Lloegr a’r Beibl Saesneg yn benodol. Hyd yn oed cyn i Martin Luther lansio’i brotest yn Wittenberg roedd galw wedi bod am sicrhau fod ysgrythurau sanctaidd yr Hen Destament a’r Newydd ar gael mewn iaith heblaw am Ladin. Fe aeth rhai ati i ddechrau cyfieithu [...]

Basilica Mair Arglwyddes Cysuron, Vilvoorde

Wrth gerdded i mewn i’r dref o’r orsaf dyma fynd heibio i adeilad trawiadol iawn sef Basiliek van Onze Lieve Vrouw van Troost, Basilica Mair Arglwyddes Cysuron. Fel mae’n digwydd dyma un o sefydliadau cynnar y mudiad y Carmeliaid, ac yma o hyd y mae ‘na leiandy’r urdd. Sefydlwyd y lleiandy rhywbryd rhwng 1450 ac [...]

Cougnou

Dydd Mercher (2007-12-26). Mae’r diwrnod wedi’r Nadolig yn medru bod yn ddi-ddim iawn wedi’r holl gynnwrf a’r paratoi ar gyfer dydd Nadolig ei hun. Er mwyn osgoi’r ymdeimlad hwnnw roeddwn i wedi cadw rhywbeth arbennig ar gyfer brecwast fore Gŵyl Steffan. Wrth i’r byd fynd yn fwy ac yn fwy tebyg ar draws y gwledydd, [...]

Cinio Nadolig

Dwi ddim am i bobol feddwl fy mod wedi anghofio sut i wneud pethau, felly mae cael cinio Nadolig yn rhan bwysig o’r drefn. Wrth gwrs, doedd y cinio ei hun yn ddim byd mawr ac uchelgeisiol iawn. Roedd y rhan fwyaf wedi’i brynu wedi’i baratoi yn barod a dim ond ei goginio neu ei [...]

Dydd Nadolig yn yr Eglwys Gadeiriol

Dydd Mawrth (2007-12-25).Dwi ddim am i neb feddwl fod gen i syniadau amdanaf fy hun sy’n ymdebygu i Tony Blair, ond i’r eglwys gadeiriol Babyddol y penderfynais i fynd fore dydd Nadolig. Mae dyn yn gwybod beth i’w ddisgwyl mewn gwasanaeth eglwys gadeiriol. Mewn rhyw ffordd mae’n golygu peidio bod yn rhan weithredol o’r addoli [...]

Ymweld ag Aalst (5)

Wedi diwrnod llawn iawn yn Aalst daeth yn amser i fynd yn ôl i Frwsel ac felly cyn gadael dyma alw am goffi ym mar Bergenhof gyferbyn â’r orsaf. Roeddwn i wedi dod â llyfr yn anrheg i Liesbeth, gramadeg y Gymraeg, ac wrth imi estyn y llyfr iddi fe sylwodd y rheolwr arno a [...]

Ymweld ag Aalst (3)

Efallai y dylwn fod wedi troi fy sylw yn gyntaf nid at y Geraardsbergse mattentaart, ond yn hytrach at y trysorau sydd mor bwysig fel eu bod wedi’u rhestru fel rhan o’n hetifeddiaeth fyd-eang gan UNESCO, sef y Belfort a’r Schepenhuis, neu’r Tŵr clychau a Thŷ’r henaduriaid. Mae’n anodd gor-bwysleisio pwysigrwydd hanesyddol y ddau adeilad. [...]