Blog Dogfael» Balti

Birmingham 2009-04-14 (4)
Ddaeth ein hantur ddim i ben gyda’n hymweliad â Mosg Canolog Birmingham. Gyda’r nos fe aethon ni ar y bws unwaith eto, y tro hwn i ganol y Triongl Balti, Balti Triangle, yn ardal Sparkhill Birmingham. Mae hwnnw’n gorwedd i’r de-ddwyrain o’r canol ac yn gartref i ddwsinau ar ddwsinau o dai bwyta yn arbenigo mewn bwydydd o’r is-gyfandir Indiaidd. Daeth yr ysbrydoliaeth am y balti o Bacistan, ond yn Birmingham y cafodd y saig ei chreu. Mae’n cyfuno blas India, Pacistan a Bangladesh gydag effeithlonrwydd y diwydiant bwytai Tsieineaidd. Dyna esbonio pam fod y bwytai gorau yn fargen o ran prisiau.

Aethon ni i Ladypool Road i chwilio am dŷ bwyta balti. Ac ar ôl tipyn o gerdded fe ddaethon ni o hyd i fwyty Al Frash. Er na wyddem ar y pryd, mae Al Frash yn cael ei ystyried yn un o’r tai bwyta balti gorau yn Lloegr. Wedi inni eistedd lawr a dechrau bwyta, roedd hynny’n amlwg. Byddwn i’n argymell unrhyw un sy’n mynd i Birmingham i fynd i chwilio am Al Frash er mwyn cael pryd o fwyd. Roedd safon y cynhwysion yn arbennig yn fy marn i, a’r blas o’r herwydd yn gyflawn.

Cawsom bapadomau a siytnis i ddechrau.

Wedyn fe gefais i dikka cyw iâr.

Fy mhrif gwrs oedd balti pysgodyn.

Roedd y cyfan yn flasus iawn iawn.

Gweld Alfrash ar fap mwy o faint

Erbyn inni orffen bwyta roedd hi wedi dechrau bwrw ac fe gawsom dacsi yn ôl i ganol y ddinas. Roedd gyrrwr y tacsi â diddordeb mawr ein bod yn siarad Cymraeg. Roedd ef yn dod o Sylhet ac yn siarad Bengaleg, ac  roedd yn synnu ein bod yn gwybod ‘cymaint’ am Fengaleg – Rabindranath Tagore a’r ymgyrchu ieithyddol hyd at farw yn Nwyrain Pacsitan i gael cydnabyddiaeth i Fengaleg. Erbyn inni rannu hynny i gyd roedd y daith ar ben a ninnau nôl yn ei gwesty i gysgu’n dawel ar ôl diwrnod llawn iawn.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.