Fe fues i’n hamddena ar y Prom yn Aberystwyth neithiwr ac fe dynnais i’r llun hwn o ffrindiau’n mwynhau’r haul ar ddiwedd dydd.
(2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.00 allan o 5)
Rhannu hyn
|
|||||
|
Fe fues i’n hamddena ar y Prom yn Aberystwyth neithiwr ac fe dynnais i’r llun hwn o ffrindiau’n mwynhau’r haul ar ddiwedd dydd. (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.00 allan o 5) Dydd Sadwrn fe fues i Ystâd Ddiwydiannol Glan-yr-afon yn Llanbadarn Fawr am y tro cyntaf ers amser maith. A’r hyn a welais oedd Swyddfa Ddosbarthu’r Post Brenhinol sydd wedi’i lleoli yno. Dyma’r swyddfa ddosbarthu ar gyfer Aberystwyth, a phan mae gan y Post Brenhinol bost sy’n rhy fawr i’r blwch post yn nrws Plas-yn-Dogfael dyma [...] Rhaid dweud fod clywed am y bwriad i gau siop lyfrau Galloways yn Heol y Wig, Aberystwyth yn dod ag ychydig o dristwch i mi. Dwi’n gwybod fod y siop wedi bod yno am ryw ganrif, ond mae wedi bod yno ers i mi adnabod Aberystwyth. Pan ddeuthum i’r dref ddiwedd yr 1970au i astudio [...] Fel y dywedais yn gynt er taw’r Trydydd Sul yr Adfent oedd hi ddydd Sul roeddem ni yn Eglwys y Santes Fair yn cynnal ein gwasanaeth carolau blynyddol. Mae hyn yn digwydd cyn y Nadolig ers i mi gofio. Holodd ffrind pryd ddechreuwyd gwneud hyn, sef “dathlu” Nadolig cyn y Nadolig. Mae’n siŵr gen i [...] Pan gerddais i heibio i Siop Woolworths yn Aberystwyth heddiw fe wnes i deimlo’n anghyfforddus o euog. Roeddwn i’n teimlo’n euog am fy mod yn ofni fod pobol eraill yn fy ngweld yn cerdded heibio fel rhywun sy’n mynd mas o’i ffordd i fynd heibio i safle trychineb neu ddamwain, dim ond er mwyn dweud [...] Drannoeth fy nghyflwyniad i ar Drysorau Cristnogol y Llyfrgell Genedlaethol roeddwn i mewn sgwrs arall, am Emynwyr Aberystwyth y tro hwn. Digwyddodd y sgwrs yn Eglwys y Santes Fair a’r un oedd yn traddodi oedd Delyth G Morgans. Ni allem ni fod wedi dod o hyd i neb gwell i wneud y gwaith hwn gan [...] Cyfarfod gwahanol iawn ei naws yr wythnos wedyn. Plaid Cymru oedd wedi trefnu unwaith eto, cangen Aberystwyth a Phenparcau y tro hwn. Ond roeddem ni’n cwrdd ym mwyty Ultracomida yn Aberystwyth. Y bwriad oedd ceisio codi arian ar gyfer gweithgaredd gwleidyddol trwy fwynhau. Ac fe wnes i fwynhau mas draw. Doedd y noson ddim yn [...] Fe wnes i gymryd prynhawn ddydd Gwener fel gwyliau er mwyn cyfarfod gyda Liesbeth ac fe fuon ni’n siarad am bob mathau o bethau trwy’r prynhawn. Aeth hi i siopa am ychydig ac wedyn fe es i ddangos Eglwys y Santes Fair iddi hi. Roedd yn rhaid imi geisio esbonio iddi hanes crefydd yng Nghymru, [...] Heno fe fues i mewn cyfarfod o Siambr Fasnach Aberystwyth. Roeddwn i wedi cael gwahoddiad yno fel cynghorydd tref oherwydd fod Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu rheoliadau ar gyfer rheoli dodrefn stryd yn unol ag adran 137 Deddf Priffyrdd 1980 (c.66) yn gwahardd atalfeydd ar briffyrdd (sy’n cynnwys palmentydd) a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) [...] Rhyw wythnos neu ragor yn ôl roedd yr awyr dros Aberystwyth yn rhyfeddol yn hwyr y prynhawn ac felly fe dynnais i gyfres o ffotograffau. Yn anffodus nid yw fy nghamera bach i yn gwneud chwarae teg â’r olygfa. I weld gweddill y ffotograffau. (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5) Wyt ti erioed wedi ystyried a oes ‘na ffordd sustematig a gwyddonol o ddyddio capel? Paid â phoeni dim mwyach oherwydd fe ffeindies i gopi o daflen a gyhoeddwyd gan Capel: cymdeithas treftadaeth y capeli yr wythnos diwethaf. Fe ddes i ar ei thraws yng Nghanolfan Fethodistaidd S. Paul pan oeddwn i yno ar gyfer [...] Wel heddiw fe fues i mewn piced a phrotest tu fas i gaffi Costa Coffee yn Aberystwyth yn brwydro yn erbyn cyfalafiaeth ryngwladol a globaleiddio. Agorodd siop goffi Costa Coffee yn Stryd Fawr Aberystwyth heddiw. Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi trefnu piced trwy’r tu fas i’r siop a phrotest gyda siaradwyr amser cinio. Es [...] |
|||||
|
Trwyddeir Blog Dogfael o dan drwydded Creative Commons Attribution-Non-Commercial-Share Alike 2.0 UK: England & Wales License. |
|||||
Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael