Blog Dogfael» Aberteifi

Noson deyrnged Ceri Wyn Jones yn Aberteifi
Dwi newydd ddychwelyd o Aberteifi lle bues i mewn noson berffaith o ddiddanwch pur. Roedd y gymuned yn Aberteifi yn talu teyrnged i’r prifardd Ceri Wyn Jones am iddo ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn yr haf. Roedd yr ystafell fawr yng nghlwb rygbi Aberteifi yn llawn o feirdd a cherddorion a phobl gyffredin. Roeddwn i wedi mynd lawr am fy mod wedi cael cynnig lifft gan un o’r beirdd oedd yn cyfarch Ceri Wyn ar y noson, DJP. Fel mae’n digwydd roedd DJP yn un o’r beirniaid a ddyfarnodd y goron iddo yn yr eisteddfod.

Anodd crynhoi y noson yn hawdd iawn oherwydd yr amrywiaeth o gyfraniadau a gafwyd. Roedd y rhai oedd yn gwneud i ddyn chwerthin yn gofiadwy iawn, ond ar yr un pryd roedd ‘na adegau o ddwyster a difrifoldeb. Roedd hyn yn arbennig o wir am gyfraniad Ceri Wyn ei hun a ddarllenodd rai o’i gerddi buddugol. Roedd cyfraniad pawb yn ddi-ffuant; ond rhaid imi gyfaddef taw cyfraniadau Caryl Parry Jones ac Emyr Oernant wnaeth imi chwerthin fwyaf.

Arweiniwyd y noson gan Emyr Davies a Tudur Dylan Jones a oedd yn synnu i’m gweld yn tynnu cymaint o ffotograffau ar y noson. Pan fydda i’n mynd i ddigwyddiad fel hwnnw fy mod yn teimlo dyletswydd i gofnodi beth dwi’n ei weld ac yn ei brofi. A dyna pam bod tinc o hiraeth yn fy llais. Wrth edrych o’m cwmpas a rhyfeddu at weld cymuned yn dod at ei gilydd i ddathlu digwyddiad o’r fath, ac yn gwneud hynny yn y fath fodd, roeddwn i’n gwybod hefyd taw rhywbeth fydd yn diflannu fydd hyn. Mae cymunedau’n newid, mae pobol yn newid, mae’n diwylliant newid. Dwi’n gwybod efallai fod rhywbeth yn bod arna i, ond mae’r hiraeth am a fu yn codi ynof yn aml iawn y dyddiau hyn.

Rhagor o luniau o’r noson.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.