Blog Dogfael» Aalst

O gwmpas Aalst
2008-12-28

Yn ôl Liesbeth mae hanes Eglwys Sint-Martinuskerk yn adlewyrchiad gwych o ddinas Aalst ei hun – sef hanes yr hyn a oedd bron â bod.  Fe’i bwriadwyd hi i fod yn fwy nag eglwys gadeiriol Antwerpen ac i fod yn goron ar ddinas Aalst ac yn cadarnhau ei lle fel y cyntaf ymhlith dinasoedd Fflandrys. Yn anffodus ni lwyddwyd i orffen yr adeilad. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1480 ond o fewn rhyw hanner can mlynedd roedd yr arian wedi’u gwario a’r awydd wedi pylu i raddau helaeth a gadawyd yr adeilad fel yr oedd. Wrth gwrs, Fflandrys yw hyn ac mae’r anghyflawn yn llawer cyfoethocach na dim sydd gennym ni mewn gwlad dlawd fel Cymru – y tu fewn ceir paentiad gan Rubens, ‘S. Roch yn erfyn ar Grist i roi terfyn ar y pla yn Aalst’, nad oedd neb wedi sylwi beth oedd e tan yn ddiweddar iawn. Yn yr eglwys hefyd ceir bedd Dirk Martens, argraffydd cyntaf yr Isel Diroedd a ddechreuodd argraffu yn Aalst yn 1473.

Wedi treulio rhyw awr yn eistedd, myfyrio a thrafod yn Eglwys Sint-Martinuskerk aeth Liesbeth a minnau tuag at y Begijnhof. Yn Aalst mae’r tai wedi’u troi yn dai cymdeithasol a does dim mo’r bensaernïaeth nodweddiadol a welir mewn llefydd eraill. Ond fe geir eglwys draddodiadol yno a chapel bach. Wedyn yn ôl i ganol y dref i gaffi ar sgwâr y Grote markt.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Ymlwed ag Aalst
2008-12-28

Cefais fore tawel ym Mrwsel ddydd Sul gan fynd i’r eglwys gadeiriol unwaith eto ar gyfer gwasanaeth 10.00. Wedi’r gwasanaeth troi tuag at yr orsaf gan fy mod yn teithio heddiw eto. Y tro hwn i Aalst, cartref Liesbeth. Roeddwn wedi trefnu i gyfarfod â hi yno ar ôl cinio ac i dreulio’r prynhawn yn crwydro o gwmpas y dref.

Roeddwn wedi bod yn Aalst flwyddyn yn ôl ac wedi gweld llawer o bethau bryd hynny. Ond roedd Eglwys Sint-Martinuskerk ar glo ac roedd hi’n rhy dywyll i weld ardal y Begijnhof yn glir iawn. Y tro hwn roeddem yn bwriadu ymweld â’r ddau le hwnnw.

Roedd y ffair Nadolig yn dal i fod yn eu hanterch yn Aalst ac fe welais i stondinau yn gwerthu dau o ddanteithion yr ardal, sef Geraardsbergse mattentaarten (cacennau o dref Geraardsbergen wedi’u gwneud o faidd) a’r enwog smoutbollen (neu, smoutebollen; yn lythrennol, peli lard, ond bellach yn fwy tebyg i gnau toes). Wnes i ddim cael yr un o’r ddau y tro hwn ond roedden nhw’n boblogaidd iawn gyda’r torfeydd.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Swper yn Aalst
Dydd Mawrth, 2008-12-23

Wrth iddi nosi yn Gent fe aethon ni yn ôl i’r orsaf ar y tram. Ond doeddwn i ddim yn mynd yn ôl i Frwsel eto. Ar y ffordd yr oeddem yn mynd i aros yn Aalst, y dref lle cafodd Liesbeth ei geni a’i magu. Roeddem nid i gyd yn mynd yn ôl yno i gael pryd o fwyd yng nghwmni chwaer Liesbeth, Segliende, a ffrind arall iddi, sef Karel. Roedd ganddi ddiddordeb i gyflwyno Karel i mi gan ei fod ef wedi bod yn byw am gyfnod yng Ngwlad y Basg ac wedi dysgu’r iaith. Roedd e’n dipyn o gymeriad ac efallai nid yn ffitio’r darlun arferol o drigolion Fflandrys o wneud y peth synhwyrol a bod yn barchus. Roedd e’n dwlu ar sut roedd y Basgwyr yn ymroi yn llwyr i fwynhau eu gwyliau lleol ac yn ymroi yn llwyr i wleidydda. Doedd dim arlliw o’r dal-yn-ôl sydd yn fy nhyb i yn nodweddi cymaint o drigolion y wlad.

Ar ddiwedd y noson roeddwn i wedi blino’n lân ac edrych ymlaen i fynd i’r gwely. Ond cyn gwneud roedd yn rhaid cyfnewid anrhegion Nadolig. Cyfle i mi roi llyfrau am hanes Cymru ac am y Gymraeg i bawb. Ac wedyn fe wnes i gael blwch o dri DVD gan Liesbeth o gyfres deledu i blant mewn Iseldireg a gynhyrchwyd gan gwmni darlledu cyhoeddus Fflandrys ganol y 1960au – Johan en de alverman. Dyna beth yw ffrindiau.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Ymweld ag Aalst (5)
Wedi diwrnod llawn iawn yn Aalst daeth yn amser i fynd yn ôl i Frwsel ac felly cyn gadael dyma alw am goffi ym mar Bergenhof gyferbyn â’r orsaf. Roeddwn i wedi dod â llyfr yn anrheg i Liesbeth, gramadeg y Gymraeg, ac wrth imi estyn y llyfr iddi fe sylwodd y rheolwr arno a dyma hi’n dechrau rhaffu brawddegau Cymraeg! Roedd Micheline Campas wedi bod ar ei gwyliau yng Nghaerdydd a Sir Benfro – ffrindiau yn byw yno – ond fel y dywedodd hi ei hun roedd hi’n credu ei bod hi’n siarad mwy o Gymraeg na hwythau. Esiampl arall o siarad iaith arall yn ennyn diddordeb mewn ieithoedd eraill. Cefais i ddim cyfle i siarad yn hir gyda hi, ond roedd hi’n serchog iawn, a byddwn i’n annog pawb sy’n darllen y blog os ydyn nhw byth yn Aalst i alw heibio cafe Bergenhof.

Rhagor o luniau o’r diwrnod yn Aalst.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Ymweld ag Aalst (4)
Holl bwynt y belfort a’r schepenhuis oedd dweud wrth y byd fod Aalst yn bwysig. Mae’r belfort a’r schepenhuis yn dal i fod yno, ond mae pethau wedi newid a dyw Aalst ddim mor bwysig ag yr oedd yn arfer bod. I ddweud y gwir fe wnaeth hynny newid cyn iddyn nhw orffen adeiladu eglwys Sint-Martinuskerk. Yr oedd honno i fod yn fwy ac yn well nag eglwys gadeiriol Antwerpen, ond yn anffodus fe ddaeth yr arian i ben cyn yr eglwys. Fuodd hi byth yn eglwys gadeiriol, ni chodwyd y meindwr arfaethedig, ac ni chodwyd corff yr eglwys chwaith, ac eto i gyd mae’r hyn a gyflawnwyd yn enfawr, ond mae fel rhyw fath o sumbol o’r gogoniant oedd yn eiddo i’r ddinas.

Mae amgueddfa’r ddinas yn dathlu hanes ac enwogion y dref i’r eithaf. Gellid crynhoi’r cyfan o dan bum pennawd – awdur, gwleidydd, argraffydd, arlunydd a charnifal – a phob un ohonynt yn cynrychioli mwyaf amlwg ym mywyd Fflandrys.

Yr awdur (a’r newyddiadurwr) yn gyntaf, Louis Paul Boon (1912-1979). Cafodd ei eni yn Aalst a bu’n byw yno’r rhan fwyaf o’i fywyd. Yn ôl Liesbeth gellid crynhoi ei yrfa mewn dau osodiad: roedd yn gomiwnydd, ac roedd ganddo obsesiwn gyda rhyw. Fel y dywedais i mae’r ddau beth yna bron â bod yn sylfaen berffaith ar gyfer awdur da. Ac roedd hi’n fodlon cyfaddef ei fod yn awdur ac yn storïwr celfydd iawn. Cyhoeddodd doreth o lyfrau ond efallai ei nofelau y mwyaf enwog yn Fflandrys yw De Kapellekensbaan (cyfieithwyd i Saesneg fel Chapel Road) a Zomer te Ter-Muren (Saesneg, Summer in Termuren). Yn ei waith fe ddefnyddio lawer o iaith leol Aalst fel rhan o’i Iseldireg. Ond mae’n rhaid i nofelydd fyw ac fe ysgrifennodd lyfrau comics a nofelau poblogaidd iawn, un ohonynt am fywyd brawd gwleidydd enwog Aalst, Pieter Daens.

Y gwleidydd ei hun oedd Adolf Daens (1839-1907), neu Priester Daens, fel mae’n cael ei alw’n fwyaf cyffredin. Offeiriad pabyddol oedd wedi’i gorddi gan sefyllfa echrydus bywyd gweithwyr y diwydiant brethyn yn Aalst fel yr aeth ati i ymgyrchu dros y gweithwyr a’u hannog i ffurfio undebau llafur a plaid wleidyddol. Yn y diwedd fe ddaeth yn aelod seneddol dros y blaid honno. Ond doedd hyn ddim yn ennill iddo unrhyw ffrindiau o fewn i’r eglwys Babyddol a oedd yn llaw’r perchnogion, ac yn y diwedd tynnwyd ei hawl i weithio fel offeiriad oddi arno. Ond doedd e ddim yn sosialydd chwaith, roedd eu hanffyddiaeth hwy ddim yn gymeradwy ganddo. Roedd ei fudiad yn un asgell chwith, ond heb yr anffyddiaeth – felly yn y canol, ac yn y man mwyaf hawdd i gael eich taro o bob ochr. Roedd hefyd yn brwydro dros hawliau’r Iseldireg o fewn i’r sustem addysg a’r weinyddiaeth.

Yr argraffydd yw Dirk Martens (1446 neu 1447-1534). Ef oedd argraffydd cyntaf de’r isel diroedd ac yn ddiweddarach yn athro ym Mhrifysgol Leuven. Mae ei gerflun yn sefyll o flaen y belfort a’r schepenhuis yn y Grote Markt.

Yr arlunydd yw Valerius de Saedeleer (1876-1946) a anwyd yn Aalst ac yn bwysig ymysg y sumbolwyr. Yn ddiddorol iawn bu’n byw yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac hyd 1921. Yma fe dderbyniodd nawdd gan chwiorydd Davies Gregynog. Arddangosodd ei waith yn Aberystwyth ar fwy nag un achlysur ac bu’n dysgu yn yr Adran Gelf yn y Brifysgol. Roedd yn byw mewn tŷ o’r enw Tŷ’n-lôn, a phan ddychwelodd i Fflandrys i fyw fe enwodd ei dŷ yn Villa Tynlon.

Yn olaf y carnifal. Carnifal Aalst sy’n digwydd am y tri diwrnod cyn Dydd Mercher y Lludw bob blwyddyn yw carnifal mwyaf lliwgar, bywiog, amharchus, difrifol, a mwyaf o sbort Fflandrys i gyd. Wel, dyna beth mae pawb yn Aalst yn ei ddweud wrthych chi. Mae’n cael ei ddarlledu’n fyw ar y teledu ac ar un o’i diwrnodau mae trawswisgo yn norm, gyda’r diwrnod yn cael ei alw yn ddiwrnod y Voil Jeanetten (Sionedau bowlyd). Mae ‘na ganu, mewn tafodiaith yn unig. Mae ‘na wneud sbort ar ben gwleidyddion. Oherwydd bod trigolion Aalst yn cael eu hadnabod fel y Winwns, un rhan o’r dathliadau yw taflu winwns i mewn i’r dorf ac mae un ohonynt yn winwnsyn aur ac yn werth ffortiwn i’r un sy’n ei gael.

Mae Liesbeth a’i chwaer yn daer ei bod hi’n rhaid dod yn ôl i Aalst ar gyfer y carnifal!

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Ymweld ag Aalst (3)
Efallai y dylwn fod wedi troi fy sylw yn gyntaf nid at y Geraardsbergse mattentaart, ond yn hytrach at y trysorau sydd mor bwysig fel eu bod wedi’u rhestru fel rhan o’n hetifeddiaeth fyd-eang gan UNESCO, sef y Belfort a’r Schepenhuis, neu’r Tŵr clychau a Thŷ’r henaduriaid. Mae’n anodd gor-bwysleisio pwysigrwydd hanesyddol y ddau adeilad. Dim ond yn 1830 y sefydlwyd gwladwriaeth Gwlad Belg ond mae gan ei threfi sefydliad sy’n ymestyn yn ôl am gannoedd o flynyddoedd,ac felly’n rheswm pam bod cymaint o deyrngarwch lleol yma. Sefydlwyd Aalst yn y nawfed ganrif, ac mae’r schepenhuis yn dyddio o 1225; er ei fod wedi’i ail-godi’n rhannol ddwywaith ers hynny – o ganlyniad i ryfel yn 1380 a damwain tân gwyllt yn 1879. Golyga hyn taw schepenhuis Aalst yw stadhuis, neu neuadd y dref, hynaf yn yr gwledydd isel. Codwyd y belfort yn 1460 ac mae ynddo 52 o glychau sy’n cael eu canu trwy carillon. Mae’r adeiladau wedi’u codi yn null gothig Fflandrys. Byddai dim ond bodolaeth y belfort a’r schepenhuis yn ddigon o reswm ynddo’i hunan i ymeld ag Aalst, ond roedd mwy i ddod.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Ymweld ag Aalst (2)
Ar ôl cyfarch a holi hynt a helynt iechyd a theithio fe aeth Liesbeth a Sieglinde â mi i’r prif sgwâr, neu’r Grote Markt (mae un i gael ym mhob tref, nid dim ond ym Mrwsel). Wrth gwrs doedd hi ddim yn bosib imi weld holl ogoniant y sgwâr gan fod ffair Nadolig fawr ar ei ganol, yn cuddio rhai o’r prif drysorau. Ond roedd yn gyfle imi brofi trysor bwyd o Fflandrys, sef y Geraardsbergse mattentaart, neu darten geulion Geraardsbergen. Ers Chwefror 2007 mae’r darten hon wedi’i chofrestru gan yr Undeb Ewropeaidd fel na ellir ei chynhyrchu yn unman ond yn Geraardsbergen, Protected geographical indication (PGI). Mae’n weddol debyg i gacen gwas wedi’i lapio mewn crwst. Roedd hi’n iawn, ond mae’n amlwg fod pobol yr ardal yn dwlu arnyn nhw.

Fel y dywedais i y mae’r Geraardsbergse mattentaart wedi’i chofrestru gan yr Undeb Ewropeaidd fel nad yw’n medru cael ei phobi mewn unrhyw le on ardal Geraardsbergen. Dyma ran o’r rheoliadau Ewropeaidd sy’n disgrifio’r darten.

4. Specification

(summary of requirements under Article 4(2)):

4.1. Name: ‘Geraardsbergse mattentaart’

4.2. Description: ‘Matten’ tarts are small round tartlets measuring 8 cm to 10 cm in diameter. They are made of flaky pastry, filled with ‘matten’ paste [cheese curd], brown in colour and with a dark brown crust.

4.3. Geographical area: The production area comprises the town of Geraardsbergen (which, apart from the centre of Geraardsbergen, also covers the following districts: Goeferdinge, Grimminge, Idegem, Moerbeke, Nederboelare, Nieuwenhove, Onkerzele, Ophasselt, Overboelare, Schendelbeke, Smeerebbe-Vloerzegem, Viane, Waarbeke, Zandbergen and Zarlardinge) and the adjacent municipality of Lierde (which includes Deftinge, Hemelveerdegem, Sint-Maria-Lierde and Sint-Martens-Lierde).

4.4. Proof of origin:

The ‘matten’ are produced on farms in the geographical area described above. The farms are listed in a register kept by the Broederschap. Copies of the registrations and amendments to the register are sent to the relevant inspection body. The ‘matten’ are farmhouse dairy products which have to meet the requirements of the Royal Decree of 10 January 2001, under which the milk used to produce the ‘matten’ must originate from the farm producing them. The farms must also comply with the HACCP standards. The tarts are sold directly by the farmer to the baker.

The Geraardsbergse mattentaart bakers are listed in a second register kept by the Broederschap. Here, too, copies of the registrations and amendments to the register are sent to the relevant inspection body.

The bakers buy the tarts direct from the registered farms and keep a purchase record.

The final seller will always be able to prove that the Geraardsbergse mattentaarten come from a registered baker.

4.5. Method of production:

The production method must be fully in accordance with the product file. The ‘matten’ are made using fresh raw milk, farmhouse buttermilk and possibly a little vinegar. The raw milk must originate from the farms in the geographical area. The ‘matten’ must be prepared on the farms. Geraardsbergse mattentaart comprises finely-ground ‘matten’, eggs, sugar, possibly almond extract and flaky pastry.

Geraardsbergse mattentaart must be prepared only by bakers within the specified geographical area. Only the actual baking does not have to be done within the geographical area: it is possible to send the finished but unbaked and deep-frozen Geraardsbergse mattentaarten to bakers or specialist outlets outside the geographical area where they can be baked in ovens for consumption.

Diolch byth fod yr Undeb Ewropeaidd ar gael i wneud y gwaith pwysig hwn. Ar hyn o bryd dim ond dau o gynnyrchion Cymru sydd wedi’u hamddiffyn fel hyn – Cig eidion Cymru a Chig oen Cymru.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Ymweld ag Aalst (1)
Dydd Sul (2007-12-23). Heddiw roeddwn i wedi cael gwahoddiad i ymweld â dinas Aalst. Bydd darllenwyr cyson Blog Dogfael yn gwybod fy mod yn adnabod cwpwl o bobol yn Fflandrys – daethon nhw i’r Eisteddfod Genedlaethol fis Awst ac fe es i ac RO i’r IJzerbedevaart yn eu cwmni rhyw bythefnos yn ddiweddarach. Liesbeth a’i chwaer Sieglinde oedd wedi fy ngwahodd i Aalst. Er bod Liesbeth yn gweithio yn ysbyty’r brifysgol yn Leuven, o Aalst y daw’n wreiddiol ac mae ei theulu yn dal i fyw yno. Mae ei chwaer Sieglinde yn astudio twristiaeth a hamdden mewn coleg ym Mechelen ac roedd hi wedi addo bod yn dywysydd personol imi am y dydd.

Cychwynnodd y daith braidd yn annisgwyl. Roeddwn wedi cerdded o Roberts-Jonesstraat i fyny i safle Cavell lle’r oedd hi’n bosib dal tram rhif 23 i orsaf Brwsel Zuid. Y bwriad o fan ‘ny oedd cymryd y trên cyflym i Gent a disgyn yn Aalst. Roeddwn i wedi gobeithio cyrraedd yno tua 12.30pm. Ond wrth imi ddisgwyl am y trên i ddod am 11.56am yn sydyn fe ddiflannodd yr holl sôn am y trên oddi ar yr hysbysfwrdd. Dyw hyn ddim yn arfer digwydd i drenau Gwlad Belg, ond roedd ‘na ryw sôn fod na streiciau answyddogol yn digwydd ar y lein i Gent, Antwerpen ac Oostende ac mae’n bosib taw dyna oedd y bai. Wrth i’r trên hwnnw ddiflannu fe ymddangosodd un arall ar y bwrdd yn mynd i Aalst am 12.06pm, ond fod hwn yn drên lleol ac fe gymrodd bron i awr i gyrraedd.

Roedd Liesbeth a Sieglinde yn disgwyl amdanaf wrth yr orsaf sy’n edrych yn debyg i gastell ac yn cael ei hailadeiladu ar hyn o bryd – fel nifer fawr o orsafoedd trên Fflandrys. Roedd eu brwdfrydedd i ddangos y ddinas imi yn afieithus. I ddweud y gwir doeddwn i erioed wedi clywed am y lle hyd nes imi ddod i adnabod Liesbeth. Ond mae hynny’n rhyfedd oherwydd y mae i’r ddinas hon drysorau lawer a fyddai’n denu twristiaid o bell ac agos oni bai ei bod yn gorfod cystadlu gydag holl drysorau eraill Fflandrys, megis Brugge, Gent, Antwerpen, a Brwsel ei hun. Mae’n anodd dychmygu pa mor gyfoethog oedd yr ardal hon yn y canol oesoedd.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.