Pwy ydw i?

Dogfael

Rydw i’n dderwydd sy’n byw yn Aberystwyth, Ceredigion ond yn dod yn wreiddiol o Sir Benfro. Er fy mod yn dod o Sir Benfro roedd fy rhieni â chefndiroedd gwahanol iawn.

Cluj-NapocaGanwyd fy mam yn Cluj-Napoca, Romania, neu Kolozsvár mewn Hwngareg; ond fe ddihangodd i Fynachlog-ddu ar ddiwedd Rhyfel Byd, 1939-1945, er mwyn osgoi gormes Comiwnyddol ac i wella ei Chymraeg. Yn rhyfedd, roedd fy mam wedi dechrau astudio’r ieithoedd Celtaidd ar ei phen ei hun ar ôl iddi ddarganfod copi o ramadeg John Morris-Jones mewn siop lyfrau ail-law yn Timisoara. Dair blynedd yn ddiweddarach fe gafodd gopi o eiriadur Gwyddeleg Dineen yn yr un siop. Yr oedd hi wedi’i hudo gan ramant y Celtiaid a dyna pam dwi’n siarad Cymraeg heddiw.

Haile SalassieRoedd fy nhad yn blentyn i ffoaduriaid o Abyssinia. Fe ddaethant i Gymru yn sgil concwest y wlad gan yr Eidalwyr gan ddilyn ôl troed yr ymerawdwr Haile Selassie. Dewisodd ei rieni yntau, fy nhad-cu a fy mam-gu, ddod i fyw ym Mynachlog-ddu ar ôl i fy nhad-cu ddod o hyd i waith mewn chwarel leol. Efallai y dylwn i esbonio er bod fy nhad-cu a fy mam-gu yn Affricaniaid roedd fy nhad yn ddyn gwyn - mab wedi’i fabwysiadu ydoedd. Roedd ei fam-geni yn wraig i genhadwr Cristnogol o Gymru a fu’n gweithio yn Abyssinia ond aethant adref i Gymru ar ôl darganfod bod brodorion y wlad yn Gristnogion yn barod. Ond, am ryw reswm na chafodd byth mo’i esbonio, fe adawson nhw fy nhad yn y wlad. Dyna pam roedd yntau hefyd yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Fy enw i? Wel, pan gefais fy urddo yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain fy gymerais yr enw Dogfael, fel teyrnged i’r efengylydd Gwyddelig a fu’n gweithio yn Sir Benfro yn y chweched ganrif.

Dwi’n gobeithio fod rhai o’r manylion hyn amdanaf yn help ichi ddeall Blog Dogfael yn well. Ond efallai y dylwn esbonio taw dyna’r cefndir teuluol egsotig yr hoffen i fod wedi’i gael. Mewn gwirionedd cafodd fy nhad a fy mam eu geni a’u magu ym Mynachlog-ddu fel finnau!

RHYBUDD: PEIDIWCH Â CHREDU POB DIM SYDD AR FLOG DOGFAEL.