Blog Dogfael http://blogdogfael.org Sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd a chynghorydd o Aberystwyth, Ceredigion / Comments on life and other things by a druid-councillor from Aberystwyth, Wales Sun, 05 Oct 2008 13:54:09 +0000 http://wordpress.org/?v=2.6.1 en Cyfarfod blynyddol Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru, 2008-10-04 http://blogdogfael.org/2008/10/05/cyfarfod-blynyddol-cyfeillion-cyngor-llyfrau-cymru-2008-10-04/ http://blogdogfael.org/2008/10/05/cyfarfod-blynyddol-cyfeillion-cyngor-llyfrau-cymru-2008-10-04/#comments Sun, 05 Oct 2008 13:54:09 +0000 Dogfael http://blogdogfael.org/?p=1754 Mae wedi bod yn gwpwl o ddiwrnodau eithaf prysur i ddweud y gwir. A doedd dydd Sadwrn ddim yn wahanol. Dwi’n aelod o Gyfeillion y Cyngor Llyfrau; sef grŵp sy’n cefnogi ac yn hybu gwaith y Cyngor sydd yn ei dro yn cefnogi pob agwedd ar y diwydiant llyfrau yng Nghymru ac yn hybu diddordeb mewn llyfrau. Yn ogystal â bod yn aelod rydw ar y Pwyllgor Llywio. Mae’ Cyfeillion yn gymdeithas gyfeillgar a’u haelodau yn rhannu dileit mewn llyfrau. Ac mae bod yn aelod yn porthi’r deleit hwnnw’n wych trwy gysylltu’n rheolaidd â’r Cyfeillion, mae’r Cyngor Llyfrau yn gallu cyflwyno iddynt yr wybodaeth ddiweddaraf am y byd llyfrau yng Nghymru, yn ogystal â hynny mae aelod yn derbyn tocyn mantais o £2.50 i’w wario ar lyfrau Cymraeg a Chymreig deirgwaith y flwyddyn, yn ogystal â gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol lle mae cyfle i glywed yr Athro M Wynn Thomas yn siarad gyda rhai o’n llenorion ac awduron amlycaf. A’r cyfan am dâl aelodaeth o £15 y flwyddyn.

Yr Athro M Wynn Thomas a'r Athro Hywel Teifi Edwards

Eleni yr awdur a wahoddwyd i siarad oedd Hywel Teifi Edwards. Yr oeddwn i wedi tybio y byddem yn clywed yr hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl am ei waith academaidd – ei astudiaethau o ddiwylliant, llenyddiaeth a bywyd Cymru oes Victoria. Mewn geiriau eraill doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd newydd. Cefais fy siomi ar yr ochr orau, oherwydd yr hyn a gafwyd oedd hanes ei fagwraeth a’i llencyndod yn Aberarth, Ceredigion, hyd iddo fynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (fel yr oedd bryd hynny) i astudio Cymraeg. Does dim angen imi ddweud wrth neb am y ddawn sydd gan Hywel Teifi i adrodd stori, mae ei allu i gofio yn ddihareb. Os wnewch chi roi’r ddau beth hynny at ei gilydd mae awr yn hedfan a dyna a ddigwyddodd. Un o’r pethau diddorol wnaeth e ei ddweud oedd am ei allu i gofio ac i ddysgu cerddi ar ei gof mewn mater o awr neu ddwy. Dywedodd sut y gwnaeth ei athrawes Gymraeg yn Ysgol Sir Aberaeron danio ei gariad at y Gymraeg: cariad sydd yn amlwg wedi aros gydag ar hyd ei oes.


Gweld map mwy o faint

Prynhawn hyfryd o ddifyrrwch reit bur.

Rhagor o luniau a fideos o’r cyfarfod.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. ]]>
http://blogdogfael.org/2008/10/05/cyfarfod-blynyddol-cyfeillion-cyngor-llyfrau-cymru-2008-10-04/feed/
Lansio llyfr ffotograffau John Thomas http://blogdogfael.org/2008/10/04/lansio-llyfr-ffotograffau-john-thomas/ http://blogdogfael.org/2008/10/04/lansio-llyfr-ffotograffau-john-thomas/#comments Sat, 04 Oct 2008 21:52:43 +0000 Dogfael http://blogdogfael.org/?p=1749 Hen ffordd Gymreig o fywRoedd nos Wener yn noson arbennig gan fy mod i wedi cael gwahoddiad i gadeirio noson lansio llyfr am y ffotograffydd John Thomas (1838-1905). Ef yw un o ffotograffwyr pwysicaf ac arloesol Cymru. Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yn Lerpwl, ond cafodd ei eni a’i fagu yng Nghellan, ger Llanbedr Pont Steffan, ac yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru yn gwnaeth y rhan fwyaf o’i waith. Mae ei gasgliad o ryw 3,000 o negyddion gwydr yn rhan o’r Casgliad Ffotograffau Cenedlaethol yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ysgrifennwyd y llyfr, Hen ffordd Gymreig o fyw: ffotograffau John Thomas, gan Iwan Meical Jones. Ef oedd fy rheolwr cyntaf i yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yno y cefais i’r fraint o drosglwyddo cofnodion catalog am y casgliad o gardiau catalog i gronfa ddata electronig. Yn ddiweddarach cefais y fraint ychwanegol o fod yn rhan o’r tîm wnaeth ddigido’r casgliad er mwyn ei osod ar wefan y Llyfrgell i bawb fedru ei chwilio a’i werthfawrogi.

Y dorf yn Drwm y Llyfrgell Genedlaethol

Mae’r llyfr yn un rhagorol sy’n gwneud tri pheth. Yn gyntaf mae’r ffotograffau wedi’u hatgynhyrchu i safon uchel iawn ac yn gwneud tegwch a’r gwreiddiol. Yn ail y mae’r awdur yn darparu nodiadau defnyddiol ar bob ffotograff. Yn drydydd ceir rhagymadrodd meistrolgar sy’n crynhoi hanes bwyd a gwaith John Thomas, ond sydd hefyd yn ceisio mynd i’r afael â deall ei waith yn ei gyd-destun cymdeithasol. Dwi’n credu fod John Thomas wedi cael y llyfr y mae’n ei haeddu, ond byddwn i’n gobeithio y bydd y llyfr yn sbardun i eraill i fynd ati i edrych ar ei waith. Gan bod y llyfr yn un dwyieithog – Cymraeg a Saesneg - dwi’n gobeithio y bydd cynulleidfa ryngwladol yn cael eu cyflwyno i’w waith ac y bydd haneswyr ffotograffiaeth yn bwrw eu llinyn mesur drosto. Yn fy nhyb i mae ei weledigaeth ffotograffig yn un sy’n haeddu ei lle ochr yn ochr â meistri eraill y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y derbyniad wedi'r lansiad

Fel y dywedais i cefais i’r fraint o gadeirio’r noson lansio. Cyhoeddir y llyfr ar y cyd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Gwasg y Lolfa a’r cyntaf i siarad ar y noson oedd Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell. Fe’i dilynwyd gan gynrychiolydd y Lolfa, Lefi Gruffudd. Wedyn fe siaradodd yr Athro Hywel Teifi Edwards, prif ddehonglydd Cymru Oes Victoria yng Nghymru ac felly oes John Thomas. Roedd ei gyfraniad yntau yn un meddylgar ac emosiynol wrth iddo sôn am rai o’r delweddau penodol, yn arbennig felly y llun o’r bardd a’r pensaer Talhaiarn – llun a dynnwyd gan John Thomas ychydig cyn marwolaeth y bardd trwy’i law ei hun.

Talhaiarn

Yr olaf i siarad oedd yr awdur, Iwan Meical Jones, ac yn ei gyflwyniad fe wnaeth yr achos yn gryf iawn dros ystyried John Thomas yn un o ffotograffwyr mawr y byd. Siaradodd gyda’r un brwdfrydedd dros ei bwnc ag y gwnaeth pan wnes i gwrdd ag e am y tro cyntaf bron i ugain mlynedd yn ôl. Diolch am hynny!

Rhagor o luniau o’r noson lansio.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. ]]>
http://blogdogfael.org/2008/10/04/lansio-llyfr-ffotograffau-john-thomas/feed/
Cwis yr Adran Gymraeg 2008 http://blogdogfael.org/2008/10/04/cwis-yr-adran-gymraeg-2008/ http://blogdogfael.org/2008/10/04/cwis-yr-adran-gymraeg-2008/#comments Sat, 04 Oct 2008 20:38:19 +0000 Dogfael http://blogdogfael.org/?p=1746 Dwi ddim yn gwybod a ydw i wedi bod yn cynnal noson gwis i staff a myfyrwyr blwyddyn gyntaf yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddigon hir i’r peth gael ei ystyried yn draddodiad. Ond dwi’n credu taw eleni oedd fy mhedwerydd cwis a dwi wedi dysgu wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau nad y cwis yw’r peth pwysig, ond y cyfle i’r myfyrwyr a’r staff i ddod i adnabod ei gilydd yn well. Felly mae natur y cwestiynau wedi newid gyda’r pwyslais yn fwy ar y math o gwestiynau a fyddai’n gofyn i bobol drafod gyda’i gilydd a chytuno (neu anghytuno!) ar atebion.

Cwis yr Adran Gymraeg 2008

Eleni roedd y cwis yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth – ac roedd hi’n noson ddifas iawn o ran tywydd. Eto i gyd daeth nifer go dda at ei gilydd yn fyfyrwyr a staff. Fel arfer roeddwn i’n ceisio dod o hyd i fyfyrwyr oedd yn dod o Sir Benfro. Fues i ddim yn llwyddiannus yn fy nghais, ond fe wnes i gwrdd â rhai o Gaerdydd, Y Barri, ardal Wrecsam, Caerfyrddin, Casnewydd, Cwmafan, Penegoes, a San Clêr. Eleni roedd ‘na newid bach yn y drefn gyda’r staff yn newid byrddau hanner ffordd trwy’r gystadleuaeth.

Cwis yr Adran Gymraeg 2008

Cafwyd chwe rownd i gyd: Cyffredinol 1, Llefydd, Pwy ydw i?, Anagramau awduron, Ffilmiau a Chyffredinol 2. Golygai hyn 98 o gwestiynau i’w hateb a pharodd y cwis am ryw awr a chwarter.

Dyma’r anagramau awduron i ddarllenwyr Blog Dogfael eu datrys. Maen nhw i gyd yn awduron Cymraeg, mae tri yn dal i fod yn fyw, dau o’r ugeinfed ganrif, un o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dau o’r ddeunawfed ganrif, un o’r cyfnod modern cynnar, ac un o’r canol oesoedd.

  1. BREAK OTTERS
  2. DADDY FLAG WIMPY
  3. JAWS DIM ILL
  4. NEON ORGY WOW
  5. LEADEN WINO
  6. NANNY ELF ME
  7. DID WHOOPER MORE
  8. AIRMAIL BUY SWELLS
  9. FARTHINGS FIN
  10. A SNOWMOBILE WRITER

Rhagor o luniau o’r noson gwis.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. ]]>
http://blogdogfael.org/2008/10/04/cwis-yr-adran-gymraeg-2008/feed/
Derbyn anrheg am yr eildro http://blogdogfael.org/2008/10/02/derbyn-anrheg-am-yr-eildro/ http://blogdogfael.org/2008/10/02/derbyn-anrheg-am-yr-eildro/#comments Thu, 02 Oct 2008 17:56:38 +0000 Dogfael http://blogdogfael.org/?p=1739 Bro a bywyd Waldo WilliamsDerbyniais anrheg heddiw yr oeddwn i wedi ei derbyn unwaith o’r blaen dros ddeng mlynedd yn ôl. Yn 1996 roedd cyfaill annwyl wedi rhoi anrheg i mi, sef copi o lyfr James Nicholas ar Waldo Williams yn y gyfres Bro a bywyd. Roeddwn i wedi dwlu ar y llyfr ac wedi’i ddarllen a’i ail-ddarllen drosodd a thro. Roedd yn ddiddordeb i mi oherwydd fy nghysylltiad i â Waldo, Mynachlog-ddu a Sir Benfro. Yn ychwanegol at hynny dyma efallai y peth agosaf at fywgraffiad Waldo sydd ar gael. Ond am ryw reswm fe aeth y llyfr ar goll. Roeddwn i wedi credu ei fod ar goll ym Mhlas-yn-Dogfael – ar ryw silff, neu mewn rhyw gwpwrdd lle nad oeddwn i yn medru ei weld – ond ar ôl chwilio a chwilio roeddwn i wedi ildio. Credwn nad oeddwn yn mynd i ddod o hyd iddo eto hyd nes y byddwn yn symud ac i ddweud y gwir roeddwn i wedi dechrau edrych mewn siopau llyfrau ail-law yn y gobaith o ddod o hyd i gopi newydd. Felly nid oes unrhyw ffordd imi ddisgrifio fy llawenydd heddiw wrth ddod i’r gwaith y bore ‘ma a chael amlen trwy’r post mewnol yn cynnwys fy nghopi colledig o’r llyfr. Am ryw reswm roeddwn wedi dod â’r llyfr i’r gwaith flynyddoedd maith yn ôl ac o dipyn i beth roeddwn i a’r llyfr wedi symud yn bellach ac yn bellach oddi wrth ein gilydd nes imi anghofio yn llwyr lle’r oedd e. Diolch yn fawr iawn, Anne, am ddod o hyd i’r llyfr a’i anfon yn ôl ata i! A diolch yn fawr, gyfaill, am roi y fath drysor o lyfr i mi yn y lle cyntaf!

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. ]]>
http://blogdogfael.org/2008/10/02/derbyn-anrheg-am-yr-eildro/feed/
Soffa ar y stryd http://blogdogfael.org/2008/09/30/soffa-ar-y-stryd/ http://blogdogfael.org/2008/09/30/soffa-ar-y-stryd/#comments Tue, 30 Sep 2008 21:38:13 +0000 Dogfael http://blogdogfael.org/?p=1734 Dydd Sul diwethaf fe welais i soffa ar y stryd yn Aberystwyth. Roedd hi tua 11.30am ac roeddwn i’n cerdded ar hyd Heol y Wig. Dyna ryfedd!

Soffa ar y stryd

Myfyrwyr!

Rhagor o luniau o’r soffa ar y stryd.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. ]]>
http://blogdogfael.org/2008/09/30/soffa-ar-y-stryd/feed/
Deg gorchymyn ar gyfer blogwyr http://blogdogfael.org/2008/09/30/deg-gorchymyn-ar-gyfer-blogwyr/ http://blogdogfael.org/2008/09/30/deg-gorchymyn-ar-gyfer-blogwyr/#comments Mon, 29 Sep 2008 23:04:43 +0000 Dogfael http://blogdogfael.org/?p=1727 Dros y penwythnos trefnodd y Gynghrair Efengylaidd gymanfa ar flogio Cristnogol yn Llundain. Un o’r pethau a ddaeth allan o’r gymanfa oedd deg gorchymyn ar gyfer blogwyr. Bwriad y gorchmynion yw ceisio gwneud blogwyr yn ymwybodol o effaith posib eu blogio. Mae’r Gynghrair yn croesawu ymateb ac awgrymiadau ynglŷn â’r gorchmynion hyn. Dyma fy ymgais i i’w cyfieithu i’r Gymraeg.

  1. Na osod dy flog o flaen gwneud yr hyn sy’n iawn.
  2. Na wna iti ddelw gerfiedig o’th flog.
  3. Na chamddefnyddia dy enw sgrîn a’r ffaith dy fod yn anhysbys fel cyfle i bechu.
  4. Cofia’r Saboth trwy roi’r gorau i flogio am un diwrnod yr wythnos.
  5. Anrhydedda dy gyd-flogwyr yn fwy na thi dy hun a phaid â thynnu gormod o sylw i’w camgymeriadau hwy.
  6. Na ladd anrhydedd, enw da na theimladau neb arall.
  7. Na ddefnyddia’r we i odinebu ac na odineba yn dy feddwl.
  8. Na ladrata gynnwys neb arall.
  9. Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gyd-flogiwr.
  10. Na chwennych safle dy gymydog yn siart y blogwyr. Bydd fodlon gyda’th gynnwys dy hun.
Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. ]]>
http://blogdogfael.org/2008/09/30/deg-gorchymyn-ar-gyfer-blogwyr/feed/
Nofelau C J Sansom http://blogdogfael.org/2008/09/29/nofelau-c-j-sansom/ http://blogdogfael.org/2008/09/29/nofelau-c-j-sansom/#comments Mon, 29 Sep 2008 22:28:33 +0000 Dogfael http://blogdogfael.org/?p=1721 RevelationDwi’n llawn cynnwrf oherwydd heddiw fe fues i yn Siop Lyfrau Oxfam yn Aberystwyth a chael copi o’r bedwaredd nofel, Revelation, yng nghyfres Shardlake yr awdur C J Sansom. Dechreuais i ddarllen nofelau’r gyfres ‘nôl ar ddechrau mis Awst ac fe wnes i orffen y drydedd nofel rhyw bythefnos yn ôl. Dwi wedi cael blas mawr ar y nofelau, sy’n beth rhyfedd imi achos taw nofelau ditectif ydyn nhw mewn gwirionedd. Ond yr hyn sy’n fy nenu i atyn nhw yw eu bod wedi’u gosod yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn ystod teyrnasiad Henry VIII. Cyfreithiwr yw’r prif gymeriad, Matthew Shardlake ac mae’r nofelau yn dod â’r cyfnod yn fyw iawn, ond mae’r awdur hefyd yn storïwr penigamp sy’n gwneud hyd yn oed i rywun fel fi fynnu troi’r tudalennau nes ei fod yn gwybod beth sy’n digwydd. Roedd eu darllen yn Norfolk yn arbennig o amheuthun.

Dyma nofelau’r gyfres.

Dissolution – Cefndir y nofel hon yw diddymu’r mynachlogydd. (Wedi’i darllen)
Dark fire – Cwymp Thomas Cromwell fel prif weinidog i’r brenin Henry VIII yw cefndir y nofel hon. (Wedi’i darllen)
Sovereign – Gwrthryfel a chynllwyn yng ngogledd Lloegr a chwymp pumed gwraig Henry VIII, Catherine Howard, yw cefndir y nofel hon. (Wedi’i darllen)
Revelation – dyma beth mae’r broliant yn ei ddweud am y nofel hon.

Spring, 1543. King Henry VIII is wooing Lady Catherine Parr, whom he wants for his sixth wife. Archbishop Cranmer and the embattled Protestant faction at court are watching keenly, for Lady Catherine is known to have reformist sympathies. Matthew Shardlake, meanwhile, is working on the case of a teenage boy who has been placed in the Bedlam insane asylum, before his terrifying religious mania leads to him being burned as a heretic. When an old friend is horrifically murdered Shardlake vows to bring the killer to justice. His search leads him to Cranmer and Catherine Parr - and to the dark prophecies of the Book of Revelation. As London’s Bishop Bonner prepares a purge of Protestants Shardlake, together with his assistant, Jack Barak, and his friend, Guy Malton, investigate a series of horrific murders which are already bringing frenzied talk of witchcraft and demonic possession - for what else would the Tudor mind make of a serial killer …?

Dwi’n edrych ymlaen i’w darllen, yr unig drafferth yw na fydda i’n medru rhoi’r llyfr lawr i fynd i gysgu hyd yn oed.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. ]]>
http://blogdogfael.org/2008/09/29/nofelau-c-j-sansom/feed/
Diolchgarwch am y cynhaeaf yn Ystrad Meurig 2008 http://blogdogfael.org/2008/09/29/diolchgarwch-am-y-cynhaeaf-yn-ystrad-meurig-2008/ http://blogdogfael.org/2008/09/29/diolchgarwch-am-y-cynhaeaf-yn-ystrad-meurig-2008/#comments Mon, 29 Sep 2008 22:05:04 +0000 Dogfael http://blogdogfael.org/?p=1715 Nos Sul fe fues i’n pregethu mewn gwasanaeth Diolchgarwch am y Cynhaeaf yn Eglwys S Ioan Fedyddiwr yn Ystrad Meurig. Roeddwn i wedi derbyn gwahoddiad oddi wrth yr eglwys trwy law’r ficer, y Parchg Philip Wyn Davies. Roedd Philip, cyn iddo fynd i’r weinidogaeth ordeiniedig, yn gyd-weithiwr. Daeth ef i Aberystwyth i fynd â fi mas i Ystrad Meurig a dod â fi ‘nôl ar ôl y gwasanaeth. Roedd ef ei hun ar ei ffordd i Walsingham ar bererindod yn y bore.

Egwys S Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig

Testun fy mhregeth oedd Iesu yn cael ei wrthod ym mhentref Nasareth, ac roeddwn i’n ceisio dangos fod y rhesymau dros ei wrthod yn debyg mewn rhai ffyrdd i resymau pobl dros beidio â diolch. Dyma’r darn allan o’r Beibl lle mae S Mathew (pennod 13) yn adrodd yr hanes.

Pan orffennodd Iesu’r damhegion hyn, aeth oddi yno. Ac wedi dod i fro ei febyd, yr oedd Iesu yn dysgu yn eu synagog hwy, nes iddynt synnu a dweud, “O ble y cafodd y ddoethineb hon a’r grymusterau hyn? Onid mab y saer yw hwn? Onid Mair yw enw ei fab ef, ac Iago a Joseff a Simon a Jwdas yn frodyr iddo. Ac onid yw ei chwiorydd i gyd yma gyda ni? O ble felly y cafodd hwn yr holl bethau hyn?” Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt. Dywedodd Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac yn ei gartref.” Ac ni wnaeth lawer o wyrthiau yno o achos eu hanghrediniaeth.

Wedi’r gwasanaeth roedd swper cynhaeaf ar gael yng Nghanolfan Edward Richard, yr hen Ysgol Ramadeg sydd bellach yn ganolfan gymunedol wych. Roedd gwledd wedi ei darparu ar ein cyfer. Roedd hi’n dda iawn gweld nifer o bobl yr oeddwn i yn eu hadnabod yn y gynulleidfa.

Swper cynhaeaf

Rhagor o luniau.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. ]]>
http://blogdogfael.org/2008/09/29/diolchgarwch-am-y-cynhaeaf-yn-ystrad-meurig-2008/feed/
Barddas Rhifyn 299/300 Awst/Medi/Hydref 2008 http://blogdogfael.org/2008/09/29/barddas-rhifyn-299300-awstmedihydref-2008/ http://blogdogfael.org/2008/09/29/barddas-rhifyn-299300-awstmedihydref-2008/#comments Mon, 29 Sep 2008 21:15:18 +0000 Dogfael http://blogdogfael.org/?p=1710 Barddas Rhifyn 299/300 Awst/Medi/Hydref 2000“Barddas newydd – cyfnod newydd” – dyna’r neges ar glawr rhifyn diweddaraf Barddas sydd newydd gyrraedd Plas-yn-Dogfael. Fel arfer dyma un o rifynnau mwyaf difyr y flwyddyn wrth i’r golygydd ac aelodau eraill y Gymdeithas Gerdd Dafod fwrw golwg dros gynnyrch yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r eisteddfod yn bwrw ei chysgod yn drws dros y rhifyn, fel y buasai dyn yn ei ddisgwyl. Ar y clawr mae llun lliw hyfryd o enillydd y goron, Hywel Griffiths.

Ond mae’r rhifyn hwn yn arbennig hefyd am ei fod y cylchgrawn wedi cael ‘gwneuthuriad-drosodd’. Mae’r clawr yn dwyllodrus o adnabyddus, ond y tu mewn mae rhywun wedi mynd yn wyllt gyda’r ffontiau a’u meintiau a chyda’r gosod! Y rheswm dros y newid radical yw nodi’r ffaith fod Barddas wedi cyrraedd rhifyn 300. Rhaid llongyfarch y cylchgrawn ar gyflawni’r gamp honno, ac yn fwy na dim rhaid llongyfarch y golygydd, Alan Llwyd. Mae llawer yn Barddas sy’n fy nifyrru ac yn fy nghythruddo, ond nid yw byth yn fy niflasu, ac mae hynny’n deyrnged i’r golygydd bid siŵr. Yn ei olygyddol mae yntau yn esbonio cymaint o waith yw hyn i un dyn.

Teimladau cymysg sydd gen i ar gyrraedd rhifyn 300, mae’n rhaid i mi gyfaddef… Mae’r teimladau cymysg yn deillio o’r ffaith mai trwy chwys fy wyneb y cynhyrchaf bob rhifyn o Barddas, ac fe wnaf hynny rhwng pyliau llethol o drymwaith, golygu cyfrol ar ôl cyfrol, a llawer ohonyn nhw yn gyfrolau swmpus a chryn dipyn o waith arnyn nhw. Ac ar ben hynny, rwy’n mynnu mynd ymlaen â’m llyfrau personol i – llawer ohonyn nhw yn cael eu cyhoeddi gan Barddas, ond nid pob un. Hoffwn weithiau pe bai rhai pobl yn ystyried faint y mae hyn oll yn ei olygu i un dyn o ran adnoddau corfforol a meddyliol. Nid ar chware bach y cyflawnwyd hyn oll.

Dyma gynnwys y rhifyn hwn.

  • Y golofn wadd gan Dai Rees Davies
  • Eisteddfod Gadeiriol Lewis’s Lerpwl gan D Ben Rees
  • Awdl Pedr (Gwynn ap Gwilym) o Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch
  • Ceri Wyn Jones yn sôn am Iobs Cymrâg
  • Awdl Kong (Eurig Salisbury) o Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch
  • Gwynfor ab Ifor y trafod arbrofi gyda’r gynghanedd
  • Trafod digido mae Grahame Davies yn ei golofn
  • Dafydd Islwyn sy’n cofio R J Rowlands, Y Bala
  • Mae Angharad Rhys Williams yn olrhain hanes mam David Ellis, Penyfed, sef Elizabeth Alice Ellis
  • Mae Bobi Jones yn adolygu cyfrol Saunders Lewis ar Williams Pantycelyn (1927)
  • Ceir detholiad o englynion i gofio’r ddiweddar Anwen Tydu
  • Adroddir pwy oedd buddugwyr Tlysau Barddas 2008 – Iwan Rhys (Tlws Coffa W D Williams), Tudur Dylan Jones (Tlws Coffa Roy Stephens), T James Jones (Tlws y Gerdd Rydd), Llŷr Gwyn Evans (Tlws Coffa D Gwyn Evans), Marged Tudur (Tlws Cerdd yr Ysgolion Uwchradd), Teleri Fflur Evans (Tlws Pat Neill)
  • Gair o’r Gadair yw ail gyfle Dai Rees Davies i gael dweud ei ddweud
  • Pigion o ymryson Eisteddfod 2008 (ynghyd â thudalen cyfan o luniau o 22 ymrysonwr – dylid cynnig gwobr am eu hadnabod i gyd yn llwyddiannus!)
  • Siôn Aled sy’n dweud wrthon ni sut mae e’n gweld pethau
  • Trafodir cerddi’r gadair gan Iwan Rhys a Ceri Wyn Jones
  • Trafodi’r cerddi’r goron gan Gwynn ap Gwilym, Iwan Llwyd a Cen Williams
  • Ceir detholiad o gerddi gan Myrddin ap Dafydd sydd yn mynd i ymddangos yn ei gyfrol Bore newydd
  • Barack Obama oedd testun cystadleuaeth yr englyn a’r buddugol yw Ffenics
  • Mae Donald Evans yn parhau i drafod traddodiad a chyfoesedd 1950-1999
  • Ceir adolygiadau o Lyfr Glas Eurig (Idris Reynolds), Cyfansoddiadau a beirniadaethau eisteddfod Caerdydd a’r cylch 2008 (John Glyn Jones), Yr odliadur newydd (Norman Closs Parry) a Bro a bywyd Kyffin Williams (Rheinallt Llwyd)
  • Ac yma thraw rhwng ac ynghanol yr erthyglau ceir cerddi gan Huw Meirion Edwards, Norman Closs Parry, Alan Llwyd, R O Williams, Iwan Rhys, Osian Rhys, John Pinion Jones, Ithel Rowlands, Elwyn Edwards, Bobi Jones, Cen Williams, Dafydd Pritchard, Emrys Roberts, Christine James, Cynan Jones.

Digon i gadw rhywun yn dawel am ddeufis o leiaf… tan y rhifyn nesaf.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. ]]>
http://blogdogfael.org/2008/09/29/barddas-rhifyn-299300-awstmedihydref-2008/feed/
Siopau Spar yn Tavistock http://blogdogfael.org/2008/09/27/siopau-spar-yn-tavistock/ http://blogdogfael.org/2008/09/27/siopau-spar-yn-tavistock/#comments Sat, 27 Sep 2008 15:33:14 +0000 Dogfael http://blogdogfael.org/?p=1709 Mae dwy siop Spar yn Tavistock, Dyfnaint a diolch i Rob P mae lluniau o’r ddwy ohonynt gen i i’w rhoi ar y blog. Gobeithio y bydd pawb arall yn mwynhau’r lluniau hefyd. Diolch unwaith eto Rob!

Siop Spar, Tavistock

Siop Spar, Tavistock

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it. ]]>
http://blogdogfael.org/2008/09/27/siopau-spar-yn-tavistock/feed/