Archifau categorïau: Ymgyrchu

Mwynhau gwleidydda

Dwi wedi newid fy meddwl am wleidyddiaeth. Yn lle troi fy nghefn ar y cyfan dwi’n dwlu ar wleidyddiaeth bellach. Pam? Am fy mod i newydd gwrdd â rhywun sy’n siarad Iseldireg a gafodd ei magu yn Fflandrys ac sy’n un o ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth – cydymgeisydd gyda fi. Roeddwn [...]

Na i globaleiddio yn Aberystwyth!

Wel heddiw fe fues i mewn piced a phrotest tu fas i gaffi Costa Coffee yn Aberystwyth yn brwydro yn erbyn cyfalafiaeth ryngwladol a globaleiddio. Agorodd siop goffi Costa Coffee yn Stryd Fawr Aberystwyth heddiw. Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi trefnu piced trwy’r tu fas i’r siop a phrotest gyda siaradwyr amser cinio. Es [...]

Thomas Cook eto

Mae’r ymgyrch i gael cwmni Thomas Cook i newid eu polisi iaith yn dal i fynd yn ei blaen. Ddydd Gwener nesaf, 15 Mehefin 2007, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio tu fas i siop y cwmni ym Mangor. Os nad wyt ti’n siwr ble mae’r siop dylai’r map hwn fod o help. Dyma [...]

Rhai sylwadau pellach ar brotest ‘Dim israddio Bronglais’

Fe dynnais i nifer o fideos byr o brotest yn y castell ac yn cerdded i lawr y Stryd Fawr yn Aberystwyth. Ar y blaen roedd grŵp Samba yn cadw reiat ac yn bywiogi’r holl. Roedd hi’n ddiddorol iawn sylwi ar y manŵfrio gwleidyddol oedd yn digwydd yno. Roedd y Dem Rhyddiaid a Phlaid Cymru [...]

Protest ‘Dim israddio Bronglais’, Aberystwyth

Y bore ‘ma bues i mewn protest wedi’i threfnu gan ABer, grŵp sy’n ymgyrchu i gadw gwasanaethau hanfodol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Mae ymgynghoriad ar droes a allai olygu israddio’r gwasanaethau yn yr ysbyty a gofyn i gleifion deithio i Gaerfyrddin neu’n bellach. Mae hyn yn effeithio gogledd Ceredigion, de Gwynedd a rhannau o ogledd [...]