Archifau categorïau: Undebau llafur

Gwyliau yn Norwich 2008-08-19 (3)

Nid heddiw oedd y diwrnod inni fynd i’r afael â’r awdurdodau oherwydd yr oeddem yn bwriadu ymweld â dau le yn Norfolk gyda chysylltiadau pwysig gyda mudiadau radicalaidd ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r ugeinfed ganrif.
Dylai’r lle cyntaf fod yn llawer enwocach, sef pentref Burston, ger Diss, rhyw 35km i’r de o Norwich. Yn [...]

Cynhadledd Prospect 2008 a phethau eraill

Mae’r dyddiau’n diflannu a finnau a chymaint i’w adrodd ar y blog a dim amser i’w wneud. Roeddwn i’n bwriadu dweud ychydig am gynhadledd flynyddol fy undeb llafur, Prospect, yn Torquay, ond os na wna i hynny cyn bo hir mae’n edrych yn debyg y bydd yn mynd yn angof. Fe es i lawr i [...]

Penwythnos prysur (1)

Darlith yr Archif Wleidyddol Gymreig
Cefais benwythnos prysur, pan ddylwn i fod wedi gorffwys. Nos Wener es i i ddarlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol. Llynedd roeddwn i wedi bod yno i wrando ar yr Arglwydd Crucywel yn ailysgrifennu hanes yn null yr hen Undeb Sofietaidd. Eleni rhywun oedd wedi cydweithio gyda [...]

Eisteddfod 2007-08-07 (2)

Gallai rhywun dybio taw dyna fyddai uchafbwynt ein hymweliad â’n hetifeddiaeth ddiwydiannol ac ôl-ddiwydiannol. Ond roedd gwell i ddod sef pentrefi Sandycroft, Queensferry (Y Fferi Isaf), Mancot, Shotton a Chei Connah. Creadigaethau digon diweddar yw’r llefydd hyn, gyda nifer ohonynt wedi’u codi adeg y Rhyfel Mawr fel anheddau ar gyfer gweithwyr yn y ffatrïoedd oedd [...]

Newid enwau

Dwi’n ei chael hi’n anodd iawn credu bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Dywysoges Anne newid ei theitl i’r Dywysoges Frenhinol. Dwi’n gwybod nad yw hyn o unrhyw arwyddocâd, ond digwyddodd y newid fis Mehefin 1987. Mae’n ymddangos fel ddoe i mi. Mae pethau fel ‘na yn ennyn fy chwilfrydedd. Pam oedd angen [...]

Fferi ar draws afon Mersey

Y flwyddyn nesaf Lerpwl fydd dinas diwylliant Ewrop. Eleni hi yw dinas adeiladwyr Ewrop. Doedd dim ots ble’r oeddech i yn mynd yng nghanol y ddinas roedd ”na waith adeiladu yn mynd yn ei flaen. Fel mae’n digwydd fe wnaeth DJP a finnau gyrraedd y ddinas yn ddigon cynnar yn y dydd i gael ychydig [...]

‘Nôl o Lerpwl

Fe wnes i gyrraedd yn ôl o Lerpwl neithiwr. A’r newyddion mawr sydd gen i o’r daith yw fod y trenau wedi teithio ar amser ar y ffordd lan a’r ffordd ‘nôl. Doeddwn i ddim yn medru credu’r peth, ond heblaw am adael Amwythig bum munud yn hwyr am Aberystwyth (ac wrth gwrs dyw pum [...]

Annwyl DJ

Dwi newydd ddechrau darllen cyfrol a gyhoeddwyd rhyw fis neu ddau yn ôl. Yn Annwyl D.J.: llythyrau D.J., Saunders a Kate (Y Lolfa) mae Emyr Hywel wedi golygu detholiad o’r ohebiaeth rhwng tri o brif lenorion Cymru – Saunders Lewis, Kate Roberts a D. J. Williams(Abergwaun). Ond roedd y tri hefyd yn ogystal â bod [...]

Cwrs hyfforddi mewn gwaith undeb llafur

Dwi newydd dreulio dau ddiwrnod buddiol iawn yn gwella fy sgiliau fel cynrychiolydd undeb llafur. Mae unrhyw un sy’n f’adnabod i yn gwybod fy mod yn aelod gweithgar o undeb Prospect, sy’n cynrychioli gweithwyr mewn meysydd arbenigol yn y gwasanaeth sifil ac mewn rhannau’r o’r gwasanaeth sydd wedi’i breifateiddio ar hyd y blynyddoedd. Mae’n cynrychioli [...]

Pwy sy’n deall beth?

Roedd ‘na erthygl ddiddorol iawn yn y rhifyn diweddaraf o’r New statesman gan y golygydd gwleidyddol Martin Bright o dan y pennawd ‘Ministers no speaky nothing’. Roedd yn dadlau taw’r rheswm fod y llywodraeth Lafur Newydd yn edrych tuag at y Taleithiau Unedig am ddulliau newydd o ddelio gyda throseddau yw am nad yw’r rhan [...]

Cynhadledd Prospect 2006, Scarborough

Dwi newydd ddod yn ôl o ogledd Lloegr lle bues i yng nghynhadledd yr undeb Prospect yn Scarborough. Dwi wedi bod yno rhyw ddwy neu dair gwaith o’r blaen ar yr un perwyl ac yn mwynhau’n fwy bob tro. Eleni, yn wahanol i’r arfer, fe gefais gwmni dau gydweithiwr ac felly roeddwn yn teimlo’n fwy [...]

Ymlaen â’r gweithwyr!

Heddiw fe fues i yn Rhaeadr Gwy ar gyfer cyfarfod o Fforwm Cymru yr undeb llafur dwi’n perthyn iddo - Prospect. Pwyllgor Cymru yr undeb yw’r fforwm gan fod yr undeb yn un Prydeinig, a dwi wedi bod yn gadeirydd y pwyllgor hwn ers iddo gael ei sefydlu rhyw bum mlynedd yn ôl. Ond heddiw [...]

Byw gyda siom

Heddiw fe fues i ar faes y sioe yn Llanelwedd ar gyfer cyfarfod o fforwm Cymru yr undeb Prospect. Cynhaliwyd y cyfarfod yn yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel Pafiliwn Llywodraeth y Cynulliad. Er fy mod i wedi bod yn y lle nifer o weithiau o’r blaen, mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod yn [...]

Cyfarfod yn Llandrindod

Yr wyf fi’n perthyn i undeb llafur o’r enw Prospect a heddiw roedd RP a finnau yn mynd i gyfarfod o Gangen Cymru sef gweithwyr proffesiynol ac arbenigol yn y sefydliadau canlynol: Gwasanaeth Sifil Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol, Amgueddfa Werin Cymru, Comisiwn Henebion, Arolygwyr Safonau Gofal. Mae’r undeb [...]

Beth ddigwyddodd ddoe?

Roedd y peth yn annisgwyl i fi, ond roedd cael rhywun yn gofyn beth ddigwyddodd i’r blog ddoe yn dipyn o sioc. Ydy fy mywyd diflas i, bywyd dwi’n ceisio ei gofnodi’n reit fanwl, o ddiddordeb i unrhyw un arall. Dwi’n gweld cynnal y blog hwn fel rhyw fath o wasanaeth i helpu pobol sydd [...]