Archifau categorïau: Teledu

Gwylio’r teledu am ryw awgrym o ganlyniad

Mae CNN wedi esbonio sut mae’r exit polls yn gweithio gyda phleidleiswyr i bob pwrpas yn derbyn ffurflen bleidleisio ychwanegol yn union ar ôl pleidleisio er mwyn dweud sut maen nhw newydd bleidleisio. Ond mae’r newyddion yn adrodd am yr holl broblemau gyda phleidleisio mewn gwahanol ardaloedd yn y Taleithiau. Mae miloedd wedi ffonio [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-09-19 (8)

Roedd ‘na un rheswm arall pwysig dros ymweld â Thetford. Er gwaethaf y ffaith fod y dref ddegau o filltiroedd o’r môr dyma Walmington-on-Sea y gyfres deledu comedi sefyllfa Dad’s army. O 1968 tan ganol y 1970au ffilmiwyd degau o rifynnau o’r gyfres boblogaidd yma. I nodi hyn, rhywbeth sy’n denu llawer mwy o ymwelwyr [...]

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (6)

Er gwaetha’r glaw mae ‘na un llygedyn o heulwen wedi tywynnu i mewn i’n bywydau yn Neuadd Buddug. Mae brwydr y sianel wedi’i hennill! Wedi inni ddychwelyd o borfeydd gwlyb Caerffili fe aeth RO ati i weld beth oedd ar y teledu, ac O ryfeddod! ar sianel 15 roedd S4C Digidiol yn ei holl ogoniant. [...]

Eisteddfod yn y ddinas (4) 2008-08-02

Wrth i ni ddychwelyd i Neuadd Victoria roedd dau eisteddfodwr blinedig ond brwd yn disgwyl amdanom – DJP a DML. Wel, DJP oedd ynn disgwyl amdanom, a DML yn gorffwys wedi diwrnod caled o waith ar stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y maes. Roedd DJP yn gwylio criced ar y teledu yn y gegin. [...]

Mwy fyth o deledu

Er mawr gywilydd imi dwi newydd wylio rhaglen deledu arall. A hithau’n dymor y Garawys dylwn i fod yn osgoi temtasiynau o’r fath, ond mae arlwy S4C y dyddiau hyn yn gorfodi rhywun i wylio. Heno roedd ‘na raglen am Jennie Eirian Davies yn cael ei darlledu o dan y teitl syml Jennie (Cambrensis). Roeddwn [...]

Caeth i’r teledu?

Mae’n fisoedd bellach ers imi i bob pwrpas rhoi’r gorau i edrych ar y teledu yn rheolaidd. Ac mae hynny wedi bod yn brofiad rhyddhaol iawn. Roeddwn i wedi dod i’r casgliad fod teledu yn lladd y dychymyg ac yn pydru’r meddwl. Ond yn raddol dros y mis diwethaf dwi wedi dechrau teimlo fy hun [...]

Y Teulu

Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog, ac nid wrth y rhaglen gyntaf y mae beirniadu cyfres deledu, yn arbennig felly cyfres ddrama. Ond, dyna dwi am wneud! Fe wnes i weld y rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd ar S4C nos Sul, Y teulu (Boomerang). Mae’r ddrama hon wedi’i gosod yn Aberaeron, Ceredigion, gyda [...]

S.O.S. Galw Gari Tryfan

Newydd dreulio awr ddifyr yn gwylio’r ffilm SOS Galw Gari Tryfan (Boomerang) ar wefan S4C. Weithiau mae’n rhaid cyfaddef fy mod yn rhyfeddu at ddyfeisgarwch rhai awduron. Roedd hyn yn bendant yn wir am y rhaglen hon. Er nad ydw i wedi gweld cyfresi tebyg yn Saesneg yn mynd â ditectifs o gwmpas mewn amser [...]

Marian Delyth ‘Yr ail filltir’

Dwi wedi treulio’r nos yn lapio anrhegion Nadolig. Nid bod llawer i’w wneud ond mae lapio’n broses sy’n cymryd llawer o amser i’w wneud yn hanner iawn. Rhaid mesur y papur yn weddol ofalus ac osgoi ei dorri a rhaid dod o hyd i’r ffordd iawn o lapio anrhegion o’r siâp anghywir. Cymaint y gwaith [...]

Gwawr Casnewydd

Dwi newydd wylio rhaglen wych yn y gyfres Wynebau newydd (Telesgôp) ar wefan S4C. Roedd y rhaglen wyliais i yn adordd hanes pedair myfyrwraig o Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl, sy’n ymuno â changen Merched y Wawr Casnewydd. Roedd y rhaglen Gwawr Casnewydd yn rhoi cipolwg inni beth ar beth oedd effaith hynny ar Ferched y [...]

Chris Cope eto

Dwi’n gwylio rhaglen Chris Cope unwaith eto gan fod y rhaglen yn cael ei hailddarlledu heno ar S4C. Un peth sydd yn fy nharo i yw pa mor ddymunol y mae St Paul a Minnesota yn ymddangos ar y ffilm. Dwi ddim am ddweud fy mod i’n teimlo fel bod yn Finnesotwr ond mae’n fy [...]

Eurovision eto

Am ryw reswm neu’i gilydd cefais fy hun ar raglen Taro’r Post ar Radio Cymru amser cinio ddoe yn trafod Cystadleuaeth Cân Eurovision. Roedden ni’n trafod pwnc pwysig fel yr Eurovision oherwydd bod aelod seneddol LibDem, Richard Younger-Ross, wedi gofyn am newid y rheolau pleidleisio er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro rhwng pobloedd Ewrop. Y ddau [...]

Eurovision (9)

Wrth frigo’r we fe ddes i o hyd i fideo o’r ddwy gân yr oeddwn i’n credu a ddylai fod ar y brig yn y gystadleuaeth, sef caneuon Bwlgaria a Gwlad Groeg.
Cân Bwlgaria - ‘Dŵr’ gan Elitsa & Stoyan

Cân Gwlad Groeg - ‘Yassou Maria’ gan Sarbel

Eurovision (8)

Serbia sydd wedi ennill cystadleuaeth Eurovision, mae’n rhaid bod lesbiaid Beograd yn dathlu. Yn eironig ddigon bydd yn rhaid i’r sioe y flwyddyn nesaf o Beograd gael ei threfnu o’r ganolfan deledu a fomiwyd gan y Taleithiau Unedig ychydig flynyddoedd yn ôl gyda chydsyniad nifer o wladwriaethau gorllewin Ewrop. Ac yn fwy eironig fyth fe [...]

Eurovision (7)

Mae’r pleidleisio wedi ailddechrau. Latfia yn pleidleisio i Georgia. Mae Norwy yn pleidleisio i Sweden! Tybed a oedd y Dr Richard Wyn Jones wedi ffonio i mewn gyda’i bleidlais? Serbia yw’r ffefrynnau ar hyn o bryd; maen nhw’n bell ar y blaen ar hyn o bryd. Faint yn fwy o bleidleisio sydd i ddod? Mae [...]

Eurovision (6)

Mae’r pleidleisio ar droed ac mae Wcrain ar y blaen gyda’r lesbiad o Serbia yn ail ac mae Bwlgaria yn weddol agos i’r brig hefyd. Heblaw am ambell eithriad mae’r pleidleisio yn dilyn y drefn arferol. Mae Terry Wogan yn dal i gwyno, wel, cwyned! Y syndod mwyaf yn hyn i gyd yw bod pob [...]

Eurovision (5)

Wel mae trigolion Plas-yn-Dogfael wedi pleidleisio bellach. Rydw i wedi pleidleisio i Bwlgaria (a Gwlad Groeg!) ac fe wnaeth DML bleidleisio i Hwngari. Does dim troi ‘nôl nawr. Roedd y ddau ohonon ni’n cytuno taw cân fwyaf sili y gystadleuaeth heno oedd un Romania.

Eurovision (4)

Y Deyrnas Gyfunol sy’n cyrraedd y llwyfan nesaf wedi’u gwisgo fel gweithwyr ar fwrdd awyren. Maen nhw’n canu cân am hedfan, cân sy’n gwbl ddiystyr. Maen nhw’n canu mewn Saesneg. Dwi’n credu ddylen nhw ddewis iaith arall, buaswn i’n siŵr o gymryd sylw ohonynt wedyn. Dwi ddim yn gwybod a yw Romania yn mynd i [...]

Eurovision (3)

Dyw Latfia ddim yn canu yn Saesneg, ond ddim mewn Latfieg chwaith. Am ryw reswm maen nhw wedi dewis canu cân sy’n gwbl Eidalaidd yn eu harddull ac mewn Eidaleg. Siŵr o fod yn credu y gallan nhw fanteisio ar boblogrwydd rhyngwladol Pavarotti. Beth mae’r merched ‘ma o Rwsia yn ei wneud, maen nhw’n ymddangos [...]

Eurovision (2)

Hwre mae’r wlad gyda’r enw hiraf yn y gystadleuaeth FYROM yn canu mewn Macadoneg. Ond erbyn imi ysgrifennu hynny maen nhw wedi troi i ganu mewn Saesneg. Mae Slofenia yn canu mewn Slofeneg, ond O! mae’r arddull operatig yn ormod i mi o leia. Dwi’n credu fod cân y Ffindir wedi ymddangos yn dda, ond [...]