Roedd y cyfarfod roeddwn ynddo yn cael ei gynnal mewn gwesty ar gyrion Rhydychen. Gwesty modern a chymharol newydd (neu o leiaf wedi’i adnewyddu) oedd hwn wedi’i adeiladu o gwmpas a chan addasu hen ysguboriau – felly roedd y lle yn drofa o goridorau ac ystafelloedd bychain. Yn y rhan o’r gwesty lle roeddwn i’n [...]
Dwi’n ysgrifennu’r cofnod hwn ar Flog Dogfael yn bell o Blas-yn-Dogfael. Dwi ar hyn o bryd yn aros tros nos ar gyrion dinas Rhydychen. Dwi yma i gyfarfod yn ymwneud gyda fy ngwaith. Dwi’n bell o ganol y ddinas felly dwi ddim yn credu y bydd unrhyw gyfle i chwarae’r twrist. Un o’r rhesymau dros [...]
Efallai y dylwn ddweud taw fy hoff gydymaith i ar gyfer teithio yn Lloegr yw’r Blue guide: England gan Ian Ousby. Bydda i’n defnyddio’r degfed argraffiad (1989) a brynais yn 1992. Dwi wedi cael gwerth fy arian o’r gyfrol. Yn y lle cyntaf bydda i’n ei defnyddio fel llawlyfr ymarferol pan yn ymweld â lle [...]
Pan ddes i yn ôl i’r fflat roedd RO a DML yn ymbaratoi i ymadael, ac ar ôl cwpanaid o goffi bant â ni ar ein taith. Neu o leia dyna roedden ni’n ei fwriadu. Wrth edrych o ffenest y fflat, wrth ddisgyn ar hyd y grisiau, fe sylwais i fod un o olwynion car [...]
Codais i’n fore iawn; mae’n rhaid bod y daith wedi bod yn foddion ennyn cwsg iachus gan fy mod ar fy nhraed ychydig cyn 6.00am yn teimlo fel ebol. Doeddwn i ddim yn disgwyl i DML na RO i fod ar eu traed, felly fe dreuliais beth amser yn darllen cyn mynd ati i ysgrifennu [...]
Diwrnod hir o deithio heddiw wrth inni fynd o Aberystwyth i Norwich. Mae’n siŵr fod y daith hon gyda’r hiraf y gellir ei gwneud yn union ar draws Ynys Prydain – hynny wrth aros bron â bod ar yr un llorwedd heb wyro i’r gogledd na’r de. Doedd dim llawer o ddewis ynglŷn â bod [...]
Yn wahanol i’r arfer daeth fy eisteddfod i ben ddydd Sadwrn. Fel arfer bydda i’n aros tan fore Sul, ond eleni roedd pethau’n wahanol. Felly roedd hi’n dipyn o sioc i weld DML a DJP yn ymadael am yr eisteddfod fel arfer a finnau ac RO yn pacio yn barod i fynd am adref. Roedd [...]
Beth ydych chi’n ei wneud pan ei bod yn bwrw glaw yng Nghaerdydd? Mynd i Gaerffili i weld a yw hi’n bwrw yno. Wel o leia dyna beth benderfynon ni ei wneud. Roeddwn i am weld Capel a Phlas Watfford ar gyrion Caerffili oherwydd ei gysylltiad gyda’r Methodistiaid cynnar. Ond doedd dim pall ar y [...]
Rhyw ddwy flynedd yn ôl bues i yng Nghaeredin a’r pryd hynny cefais gyfle i ymweld â Senedd yr Alban yn Holyrood. Roedd hwnnw’n brofiad gwych, ond er nad oedd cymaint o ffws yn cael ei wneud yn y Senedd yng Nghaerdydd, rhaid dweud fod y pleser o weld y siambr a’r ystafelloedd pwyllgora a [...]
Roeddem ni wedi bwriadu galw heibio i Bethesda’r Fro a’r Bont-faen wedi cinio, ond roedd hi’n edrych fel petai’n mynd i fwrw glaw. Ond cyn gwneud dim o hynny roeddwn wedi addo mynd i lan y môr i ddangos pa mor agos oeddem ni i’r arfordir. Un o’m hoff lefydd i yw Aberddawan a’r ffordd [...]
Wrth inni ddod mas o’r Old Swan Inn fe welson ni fod torf fechan wedi ymgasglu’r tu fas i Neuadd y Dref. Roedden nhw i gyd wedi’u gwisgo yn barchus ac yn eu plith rai yn cario baneri. Fel mae’n digwydd roeddem ni wedi dod i Lanilltud Fawr ar y dydd Sul pan roedd gwasanaeth [...]
Roedd tafarn The Old Swan Inn yn ddigon cyfeillgar a chartrefol. Roedd y byrddau a’r cadeiriau wedi’u gwasgu’n weddol agos at ei gilydd yn y bar, ond roedd y staff yn ddigon serchog a’r bwyd yn flasus dros ben. Dwi ddim yn un am y cinio dydd Sul traddodiadol – cafodd fy nghyfeillion un yr [...]
Dywedodd DJP ei fod wedi cyfarfod â rhywun ar faes yr eisteddfod ddydd Sadwrn oedd yn darllen Blog Dogfael ac yn siomedig nad oedd lluniau o siopau Spar yn ymddangos yn gyson ar y blog bellach. Diolch byth fod Spar lleol Illtud Sant yn dal i sefyll yn Llanilltud a bod gyrrwr y car yn [...]
Fe aethon ni i Lanilltud Fawr ar gyfer ein cinio, gan fwyta mewn hen dafarn, The Old Swan Inn, gyferbyn â Neuadd y Dref. Yn ôl y plac ar y wal roedd y lle’n dafarn cyn i’r Esgob William Morgan ddechrau meddwl am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o brif nodweddion Llanilltud Fawr [...]
Er y gallwn i fod wedi aros yn Llan-fair am oriau, roedd gennym nodau eraill i’w cyflawni, a llefydd eraill Ioloaidd i ymweld â hwy. Erbyn hyn roedd rhai yn galw am eu cinio, ond cyn troi tuag at Lanilltud Fawr i chwilio am le i fwyta, roedd yn rhaid galw heibio i Drefflemin. Roeddwn [...]
Wedi brecwast hamddenol fe wnaethon ni groesi’r ddinas a mynd tuag at y Bont-faen a’r Fro. Cyn dod i’r Bont-faen ei hun dyma droi oddi ar y ffordd fawr a thrwy Sant Hilari tuag at Llan-fair, neu St Mary Church. Roeddwn i wedi ymweld â’r fan hon ryw ugain mlynedd yn ôl er mwyn gweld [...]
Dwi’n siŵr y dylwn i fel eglwyswr da fod wedi bod yn y Pafiliwn ar y maes y bore ‘ma er mwyn gwrando ar bregeth Archesgob Cymru a’i apêl ar i’n gofal dros ein hunaniaeth Gymreig a’r Gymraeg beidio â gwneud ni yn bobol gul yn mynnu cau rhai allan nad ydyn ni’n credu eu [...]
O’r diwedd dwi’n cael cyfle i ysgrifennu pwt ar gyfer y blog. Am amryw resymau dwi wedi bod yn hynod brysur dros yr wythnosau diwethaf; yn rhy brysur i droi at ysgrifennu’r blog yn gyson. Dwi’n siŵr i Oscar Wilde ddweud unwaith os yw rhywun yn rhy brysur i flogio ei fod yn rhy brysur! [...]
Ddydd Llun diwethaf, gŵyl y banc Calan Mair, cefais gynnig gwibdaith i ogledd Powys gan gyfaill, sef DJP. Gadawsom Aberystwyth cyn 1.00pm a bwyta cinio yng nghanolfan ymwelwyr Cwm Nant yr Arian. Wedyn aethon ni ymlaen i Drefaldwyn a threulio cwpwl o oriau yno cyn gwneud ein ffordd yn ôl trwy Ddyffryn Banw i Aberystwyth. [...]
Dim ond nodyn bach byr yw hwn i ddweud fy mod i ar fy ffordd i Frwsel y bore ‘ma. Dwi’n gadael Aberystwyth ar y trên 9:27am gan newid yng ngorsaf Birmingham Stryd Newydd a chyrraedd Llundain Euston erbyn 2:00pm. Wedyn mae’n rhaid inni ddisgwyl tan 4:35pm i’r trên Eurostar am Frwsel adael St Pancras [...]