Archifau categorïau: Spar

Siopau Spar yn Tavistock

Mae dwy siop Spar yn Tavistock, Dyfnaint a diolch i Rob P mae lluniau o’r ddwy ohonynt gen i i’w rhoi ar y blog. Gobeithio y bydd pawb arall yn mwynhau’r lluniau hefyd. Diolch unwaith eto Rob!

Bookmark and ShareClose Bookmark and Share This Page Save to Browser Favorites / BookmarksAskbackflipblinklistBlogBookmarkBloglinesBlogMarksBlogsvineBuddyMarksBUMPzee!CiteULikeco.mmentsConnoteadel.icio.usDiggdiigoDotNetKicksDropJackdzoneFacebookFarkFavesFeed Me LinksFriendsitefolkd.comFurlGoogleHuggJamespotJeqqKaboodlekirtsylinkaGoGoLinkedInLinksMarkerMa.gnoliaMister WongMixxMySpaceMyWebNetvouzNewsvineoneviewOnlyWirePlugIMPropellerRedditRojoSegnaloShoutwireSimpySlashdotSphereSphinnSpurlSquidooStumbleUponTechnoratiThisNextTwitterWebrideWindows LiveWorlds MoviesYahoo!Email This [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (8)

A dyna ni, wrth ymadael â Pointon a Sempringham roedd ein gwyliau ar ben. Yr unig beth oedd o’n blaenau bellach oedd y daith hir yn ôl i Aberystwyth. Digwyddodd dau beth ar y ffordd. Fe aethon ni yn y lle cyntaf trwy gyrion Grantham ac fe wnes i gymryd hynny fel ein teyrnged ni [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-24 (4)

Yn Yarmouth fe dynnais lun siop Spar. Roedd hi’n sefyll yng nghysgod canolfan siopa enfawr Market Gates.

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (5)

Dywedodd DJP ei fod wedi cyfarfod â rhywun ar faes yr eisteddfod ddydd Sadwrn oedd yn darllen Blog Dogfael ac yn siomedig nad oedd lluniau o siopau Spar yn ymddangos yn gyson ar y blog bellach. Diolch byth fod Spar lleol Illtud Sant yn dal i sefyll yn Llanilltud a bod gyrrwr y car yn [...]

Siopau Spar

Yn fy mhrofiad i mae siopau Spar yn debyg i fysus. Gallwch ddisgwyl am oriau am un, a bydd dwy yn ymddangos yr un pryd. Dyna sydd wedi digwydd i fi heddiw. Heb yn wybod i mi dyma ddwy siop Spar yn ymddangos yn fy e-bost. Mae’r cyntaf o Fetws-y-coed ac yn dangor rhai o [...]

Siop Spar yn Nulyn

Mae fy niolch yn fawr i’m cyd-flogiwr Rhys Llwyd am y ffotograff hwn o siop Spar yn Nulyn. Mae’n ymddangos i mi fod y siop yng nghysgod Gorsaf Pearse, Stáisiún Phiarsach, reit yng nghanol y ddinas. Agorwyd yr orsaf yn 1834 fel yr orsaf derfyn ar lein y Dublin & Kingstown Railway fel y lein [...]

Pam Spar?

Diolch yn fawr i Rhys Llwyd a anofnodd lun o siop Spar Rufeinig ata i. Buodd e a chyfeillion ar ymweliad â’r ddinas dragwyddol yn ddiweddar a dyma anrheg hyfryd a gefais yn ôl ganddo. Fe holodd Linda mewn sylw ar fy mlogiad blaenorol “Pam siopau Spar?” ac felly dyma ymgais i’w hateb. Dwi’n meddwl [...]

Siop Spar arall ar gyfer fy nhgasgliad

Diolch yn fawr i GJ a FJ am feddwl amdana i wrth chwilio am le i wneud llungopïau am 5.00 o’r gloch y bore yn Puerto de Mogan ar ynys Gran Canaria a thynnu’r llun hwn o Siop Spar y dref. Dwi jyst yn gobeithio nad oedd y lle yn llawn myfyrwyr meddw yn prynu [...]

Siopau Spar

Dwi’n teimlo braidd yn euog fy mod heb gydnabod na rhannu gyda’r blog ambell i anrheg hyfryd o dramor ar lun lluniau o Siopau Spar. Bu RhJ yn garedig iawn i anfon llun i mi o siop Spar yn nhref Monkontour, Llydaw yn yr haf (2006!).

Wedyn jyst cyn Nadolig fe gefais ddau lun o siopau [...]

Anrhegion o Rufain

Diolch IapD am yr anrhegion hyn o luniau o siopau Spar o Rufain. Mae’r siop yng ngolau dydd yn sefyll yn y Corso Vittorio Emanuele II a’r siop liw nos yn y Via del Bufalo. Mae’n dda gwybod bod hyd yn oed trigolion y ddinas dragwyddol yn gorfod meddwl am bicio i’r siop i brynu [...]

Anrheg o Awstria

Mae caredigrwydd pobol yn fy rhyfeddu bob amser. Dyna pam dwi mor ddiolchgar am anrhegion fel yr anrheg hon o Awstria. Mae meddwl am ferch ifanc fel GRB yn mynd i’r drafferth o gael ei llun wedi’i dynnu o flaen i Siop Spar Gourmet yn ninas Fiena er mwyn bodloni fy obsesiynau i yn cyffwrdd [...]

Anrheg o Gernyw

Dwi’n synnu at ddycnwch cyfeillion i ddod o hyd i siopau Spar pan ar eu gwyliau a’r drafferth o ddod â’r ffotograff yn ôl fel anrheg. Dyma ffotograff o siop Spar Ryskammel, neu Camelford, yng Nghernyw. Diolch yn fawr RP, dwi’n gwerthfawrogi’r anrheg ac am gofio amdanaf. Mae’n rhyfedd sut mae Spar yn medru cyrraedd [...]

Siop Spar yn Corte, Corsica

Dwi’n methu credu’r peth. Dwi wedi cael llun arall o Siop Spar o Gorsica, o Corte i fod yn fanwl gywir. Dyma gartref Università di Corsica Pascal Paoli a sefydlwyd gan Pascal Paoli yn y G18 a’i chau yn fuan wedyn. Fe’i hailagorwyd yn 1981. Mae hanes Corsica yn hanes sydd wedi’i guddio oddi wrth [...]

Siop Spar arall

Ychydig amser yn ôl fe dderbyniais anrheg hyfryd gan gyfeillion o’u gwyliau ar ynys Corisca. Yr hyn sydd o wir ddiddordeb, fodd bynnag, yw’r Siop Spar sy’n cuddio yn y cefndir. Diolch AT am yr anhreg. Dwi’n gwerthfawrogi’r peth yn fawr iawn. Diolch am feddwl amdanaf ar dy wyliau.

Anrheg o Denerife

Beth fusech chi’n dod ‘nôl fel anrheg i rywun o wyliau yng ngwladwriaeth Sbaen? Asyn yn gwisgo sombrero, lamp bwrdd ar ffurf menyw yn dawnsio fflamenco, neu ffotograff o Siop Spar? Rydych chi’n gwybod nawr beth ges i. Diolch GJ a FJ! Dwi’n gwerthfawrogi’r rhodd yn fawr iawn.

Rhagor o luniau o siopau Spar ar draws [...]