Blog Dogfael» Siopau

Siop newydd yn agor yn Aberystwyth
Ddydd Sadwrn cafwyd agoriad swyddogol siop ddiweddaraf Aberystwyth, sef Poundland. Mae’n byw fel rhyw gyw gwcw yn hen adeilad Woolworth ac mae’n anodd dygymod gyda’r peth. Roedd y lle’n orlawn dros ŵyl y banc, a dim rhyfedd gan fod Sean Tully (Anthony Cotton) o Coronation Street wedi bod yno i’w hagor. Yr hyn wnes i ei werthfawrogi am y siop oedd yr ymdrech deg tuag at arwyddion dwyieithog, gan gynnwys “Waw / Wow”. Mae’n grêt byw mewn gwlad ddwyieithog, on’d yw hi?

Gyda llaw, roedd ‘na erthygl ddiddorol yn y Guardian am Poundland yn ystod wthynos yr eisteddfod genedlaethol.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Siop Spar, Llanwrtyd
Diolch yn fawr i gyfaill am y rhodd o’r llun trawiadol hwn o Siop Spar ddwyieithog yn Llanwrtyd, Powys.

Yr wythnos diwethaf fe fues hi heibio i bencadlys Spar ym Mhont-y-clun, ond ni lwyddais i dynnu llun. Bydd yn rhaid imi fynd yn ôl yno er mwyn tynnu’r lluniau.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Cau siop lyfrau Galloways
Rhaid dweud fod clywed am y bwriad i gau siop lyfrau Galloways yn Heol y Wig, Aberystwyth yn dod ag ychydig o dristwch i mi. Dwi’n gwybod fod y siop wedi bod yno am ryw ganrif, ond mae wedi bod yno ers i mi adnabod Aberystwyth. Pan ddeuthum i’r dref ddiwedd yr 1970au i astudio Cymraeg, Hanes Cymru a Drama roedd nifer go dda o fyfyrwyr yn dal i fod yn y dref. Roedd Ystafelloedd Cynnull yn dal i fod yn gartref i Undeb y Myfyrwyr ac yn darparu cinio a swper am bris gostyngol.

Roedd Galloways bryd hynny yn lle bywiog a phrysur. A’r drws nesaf safai siop lyfrau ail-law Galloways a oedd yn cael ei rhedeg gan ddyn serchog ond cwbl echreiddig, yn union fel y buasai dyn yn dychmygu rheolwr siop lyfrau ail-law. Dyna lle prynais i fy nghopi personol o Chwedlau Odo (golygwyd gan Ifor Williams, 1926). Ond yn raddol fe ddechreuodd mwy a mwy o fyfyrwyr gilio o’r dref, fe gaeodd y siop lyfrau ail-law ac fe aeth siop lyfrau Galloways ei hun yn dawel. Dwi’n cael yr argraff na wnaethon nhw ddygymod gyda’r newid oedd yn digwydd o’u cwmpas.

Bellach mae amser wedi dal i fyny gyda Galloways. Y cwestiwn mawr yw beth fydd yn digwydd nesaf wrth i’r adrannau gweinyddol y Brifysgol baratoi i symud o’r Hen Goleg i Gampws Penglais. A beth fydd effaith cau swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion a symud i Barc-y-llyn ar y dref? A fydd  rhai o gaffis a bariau coffi y dref yn mynd yr un ffordd â Galloways?

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Siopa yn Colruyt
2008-12-27

Nawr dwi’n siŵr fod llawer yn gweld mynd i archfarchnad a phrynu batris ar gyfer y camera fel rhywbeth y mae’n rhaid ei wneud. Ond i mi mae gwneud rhywbeth o’r fath yn eisin ar gacen gwyliau. Cyfle arall i dwyllo fy hun ac eraill fy mod yn Fflandrysyn o’r iawn ryw. Ac mewn sefyllfaoedd fel hyn y mae’r ffaith nad ydw i yn dod i’r amlwg. Sut hynny, onid yw  archfarchnadoedd yn yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio ac yn gwneud pethau yr un peth bobman. Ac mae hynny’n wir, heblaw am y pethau bach hynny lle mae pethau’n wahanol ac mae’n amhosib dyfalu beth sy’n digwydd.

Fe aethon ni i siop Colruyt ac fe wnaeth Liesbeth fy ngadael i chwilio am y batris yr oedd eu hangen arnaf tra’r oedd hi yn gwneud ei siopa ei hun. Roedden y batris i’w cael ger y tils. Des i o hyd i’r rhai yr oeddwn am eu prynu ac fe fues i’n gwylio’r tils am oesoedd i geisio deall yn iawn beth oedd yn digwydd. Roedd popeth yn debyg i’r arfer ar yr olwg gyntaf. Dod â’r nwyddau at y giât ac yna fe fyddai’r gweithiwr wrth y giât yn eu sganio. Ond wedyn roedd pethau’n wahanol. Doedd dim tils fel y cyfryw wrth y giât, roedden nhw y tu ôl iddi ac roedd yn rhaid mynd ymlaen i dalu. Wrth edrych yn ofalus fe welais i nad oedd neb yn talu gydag arian parod, ond yn hytrach yn defnyddio cerdyn o ryw fath. Ond nid cerdyn credyd arferol (fe ddysgais yn nes ymlaen fod Colruyt yn gweithredu sustem o fedru roi credyd ar eu cerdyn  hwy eu hunain a bod hynny’n rhoi gostyngiad pellach i gwsmeriaid). Ychydig bach o banig, doedd gen i ddim cerdyn o’r fath. Ond yna fe welais i rywun yn tynnu arian allan o’i bwrs a’i ddefnyddio i dalu. O dyna ryddhad! Wedyn fe aeth popeth yn iawn ac fe wnes i brynu fy matris.

Cwmni o Fflandrys yw Colruyt ac mae’n llwyddiannus iawn yn cynnig nwyddau am brisiau cystadleuol iawn. Dywedodd fy ffrind eu bod hwy a Lidl yn dadlau’n gyson am bwy sy’n cynnig y fargen orau. Yn ddiddorol iawn roedd mwyafrif llethol y nwyddau ar silffoedd Colruyt yn nwyddau cynhyrchwyr eraill, yn hytrach na’u label hwy eu hunain, yn wahanol i Lidl.

Un o uchafbwyntiau’r gwyliau mae’n siŵr.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Rhestr o siopau Woolworths yng Nghymru
Bues i’n chwilio ar y rhyngrwyd am restr o siopau Woolworths yng Nghymru ond ni chefais un. Felly dyma ddarparu rhestr fy hun. Os yw un o ddarllenwyr Blog Dogfael yn sylwi ar gamgymeriad neu siop sydd heb ei chynnwys mae croeso iddynt roi gwybod i mi.

Aberdâr

Aberdaugleddau

Abergele

Aberhonddu

Abertawe

Aberteifi

Abertyleri

Aberystwyth

Bae Colwyn

Bangor

Bargod

Y Barri

Y Bermo

Caerdydd (Heol Albany)

Caerdydd (Heol Ddwyreiniol y Bontfaen)

Caerdydd (Stryd Clifton)

Caerffili

Caerfyrddin

Caergybi

Caernarfon

Cas-gwent

Casnewydd

Castell-nedd

Coed-duon

Conwy

Cwmbrân

Dinbych

Dinbych-y-pysgod

Doc Penfro

Y Drenewydd

Y Fenni

Y Fflint

Glyn Ebwy

Hwlffordd

Llandudno

Llanelli

Maes-teg

Merthyr Tudful

Penarth

Pen-y-bont ar Ogwr

Pontypridd

Port Talbot

Y Porth

Porthcawl

Porthmadog

Prestatyn

Pwllheli

Rhydaman

Y Rhyl

Shotton

Tonypandy

Y Trallwng

Tredegyr

Treffynnon

Treforys

Trefynwy

Wrecsam

Yr Wyddgrug

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.