Siop newydd yn agor yn Aberystwyth

Ddydd Sadwrn cafwyd agoriad swyddogol siop ddiweddaraf Aberystwyth, sef Poundland. Mae’n byw fel rhyw gyw gwcw yn hen adeilad Woolworth ac mae’n anodd dygymod gyda’r peth. Roedd y lle’n orlawn dros ŵyl y banc, a dim rhyfedd gan fod Sean Tully (Anthony Cotton) o Coronation Street wedi bod yno i’w hagor. Yr hyn wnes i [...]

Siop Spar, Llanwrtyd

Diolch yn fawr i gyfaill am y rhodd o’r llun trawiadol hwn o Siop Spar ddwyieithog yn Llanwrtyd, Powys.

Yr wythnos diwethaf fe fues hi heibio i bencadlys Spar ym Mhont-y-clun, ond ni lwyddais i dynnu llun. Bydd yn rhaid imi fynd yn ôl yno er mwyn tynnu’r lluniau.

(8 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.13 allan [...]

Cau siop lyfrau Galloways

Rhaid dweud fod clywed am y bwriad i gau siop lyfrau Galloways yn Heol y Wig, Aberystwyth yn dod ag ychydig o dristwch i mi. Dwi’n gwybod fod y siop wedi bod yno am ryw ganrif, ond mae wedi bod yno ers i mi adnabod Aberystwyth. Pan ddeuthum i’r dref ddiwedd yr 1970au i astudio [...]

Siopa yn Colruyt

2008-12-27
Nawr dwi’n siŵr fod llawer yn gweld mynd i archfarchnad a phrynu batris ar gyfer y camera fel rhywbeth y mae’n rhaid ei wneud. Ond i mi mae gwneud rhywbeth o’r fath yn eisin ar gacen gwyliau. Cyfle arall i dwyllo fy hun ac eraill fy mod yn Fflandrysyn o’r iawn ryw. Ac mewn sefyllfaoedd [...]

Rhestr o siopau Woolworths yng Nghymru

Bues i’n chwilio ar y rhyngrwyd am restr o siopau Woolworths yng Nghymru ond ni chefais un. Felly dyma ddarparu rhestr fy hun. Os yw un o ddarllenwyr Blog Dogfael yn sylwi ar gamgymeriad neu siop sydd heb ei chynnwys mae croeso iddynt roi gwybod i mi.

Aberdâr
Aberdaugleddau
Abergele
Aberhonddu
Abertawe
Aberteifi
Abertyleri
Aberystwyth
Bae Colwyn
Bangor
Bargod
Y Barri
Y Bermo
Caerdydd (Heol Albany)
Caerdydd (Heol Ddwyreiniol y [...]