Fe adawodd Liesbeth y bore ‘ma ar y trên i Gaerdydd. Wedi wythnos yn Aberystwyth mae hi’n mynd i’r brif ddinas am wythnos arall a hynny er mwyn dilyn cwrs byr i ddysgu Cymraeg sylfaenol. Roedd yn chwith ei gweld hi’n mynd, ond dwi’n gobeithio y byddaf yn medru mynd i Frwsel dros y Nadolig [...]
Derbyniais anrheg heddiw yr oeddwn i wedi ei derbyn unwaith o’r blaen dros ddeng mlynedd yn ôl. Yn 1996 roedd cyfaill annwyl wedi rhoi anrheg i mi, sef copi o lyfr James Nicholas ar Waldo Williams yn y gyfres Bro a bywyd. Roeddwn i wedi dwlu ar y llyfr ac wedi’i ddarllen a’i ail-ddarllen drosodd [...]
Ers sawl blwyddyn bellach mae’r papur newydd The Independent on Sunday wedi bod yn cyhoeddi’r “pink list”, sef rhestr o ddynion hoyw a lesbiaid mae’r papur hwnnw yn eu hystyried fel y rhai mwyaf dylanwadol. A heddiw mae rhestr 2008 wedi’i chyhoeddi. Ac yno yn rhif mae Nigel Owens y dyfarnwr rygbi rhyngwladol o Fynyddycerrig. [...]
¶
Postiwyd 22 Mehefin 2008
† Dogfael
§
‡
°
Dwi newydd wrando ar Gwilym Owen yn adolygu’r wasg wythnosol ar raglen Post cyntaf BBC Radio Cymru ac mae un cwestiwn wedi codi yn fy meddwl: oes ‘na gymal yng nghytundeb Gwilym Owen gyda’r BBC sy’n golygu ei fod yn gorfod cynnwys y gair sanhedrin mewn pob cyfraniad? Mae’n ymddangos felly i mi gan ei [...]
Mae fy mag ysgwydd wedi torri oddi ar fy ymweliad â Brwsel dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd ac ers hynny dwi wedi bod yn cario fy mhwts arian, camera, llyfr nodiadau, &c. o gwmpas mewn sach archfarchnad o Frwsel y gellir ei hail-ddefnyddio. Ond roeddwn i’n gweld eisiau fy mag ysgwydd yn fawr ond [...]
Er mawr gywilydd imi dwi newydd wylio rhaglen deledu arall. A hithau’n dymor y Garawys dylwn i fod yn osgoi temtasiynau o’r fath, ond mae arlwy S4C y dyddiau hyn yn gorfodi rhywun i wylio. Heno roedd ‘na raglen am Jennie Eirian Davies yn cael ei darlledu o dan y teitl syml Jennie (Cambrensis). Roeddwn [...]
Dwi wedi cael dwy neu dair noson ddiflas dros yr wythnos sydd wedi mynd heibio. Dwi wedi dihuno yng nghanol y nos a methu mynd yn ôl i gysgu. A’r un hen bethau sydd wedi bod yn mynd trwy fy meddwl sef yr holl achlysuron yna yn fy mywyd pan dwi wedi dweud y pethau [...]
¶
Postiwyd 18 Chwefror 2008
† Dogfael
§
‡
°
Heddiw fe fues i yn ngwasanaeth coffa, neu offeren requiem, y Tad John FitzGerald. Fe wnes i ysgrifennu pwt am John pan bu farw ‘nôl ddiwedd mis Tachwedd 2007. Cynhaliwyd ei angladd yr ochr draw i Lundain, yn Aylesford, swydd Caint. Dyna gartref Urdd y Carmeliaid ym Mhrydain ac yn draddodiadol dyna lle y caiff [...]
Dydd Mercher (2008-01-09). Heno fe fues i’n annerch cyfarfod o Ferched y Wawr yn Llanfarian, ger Aberystwyth. Roeddwn i wedi cael gwahoddiad ers misoedd i ddod yno er mwyn siarad am ddathlu’r flwyddyn newydd. Fe wnes i siarad wrth gwrs am y traddodiad yng Nghwm Gwaun o gadw’r Hen Galan, 12 Ionawr. Mae’r arfer hwn [...]
Mae ‘na lawer o bobl sy’n credu taw dim ond esgus am hunan-hyrwyddiad hunan-ganolog ac egotistaidd yw gweflog. Ac er mwyn profi’r beirniaid hynny’n gywir dyma 12 hunan bortread y tynnais i yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth heno gan ddefnyddio’r camera ar fy ffôn symudol.
Rhagor o luniau o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Roedd ‘na erthygl am John FitzGerald yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon. Doedd hi ddim yn erthygl hir iawn, ond yr hyn oedd yn ddiddorol am yr erthygl oedd sylwadau Daniel Huws oedd yn cael eu dyfynnu fel rhan o’r erthygl. Mae pawb yn gwybod fod John, ar ôl bod yn Aberystwyth am ddeugain [...]
Dwi wedi cael fy anrhegion Nadolig cyntaf eleni, sef dau far o siocled o’r Almaen. Dwi’n ofni fy mod hefyd wedi’u hagor a’u bwyta – roedden nhw’n flasus dros ben. Roedd y siocled yn arbennig am ei fod wedi’i lapio mewn papur gyda golygfeydd o Mannheim yn yr Almaen arnynt. Roedd un yn dangos Schloss [...]
Ddydd Iau fe glywais fod John Fitzgerald, neu Y Tad John Fitzgerald O.Carm, wedi marw ac fe gadarnhawyd hynny ddoe. Bu farw’n weddol sydyn, ac fe ddaeth yn dipyn o sioc i glywed y newyddion. Ond mae’r tristwch wedi’i gymysgu gyda llawenydd gan fy mod yn gwybod am ffydd gadarn John a’i dystiolaeth bendant a [...]
Mae unrhyw un sy’n adnabod Dogfael yn dda yn gwybod taw ‘rhagfarn’ yw ei gyfenw. Mae ‘na bethau mewn bywyd sy’n fy nghythruddo’n lân, pethau y dylen i sylweddoli fod bywyd yn llawer yn rhy fyr i wneud hynny. Dyma restr fer iawn o rai o’r pethau hynny:
cynorthwyydd wedi’i sillafu cynorthwy-ydd;
trafod patios a ffenestri dwbwl;
criced;
seiclo [...]
Llynedd fe ges i’r pleser o gael gwahoddiad i drefnu cwis ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf yr Adran Gymraeg. Digwyddodd yr un peth eleni eto a wn i ddim am y myfyrwyr a’r staff oedd yno, ond mae’n rhaid imi ddweud fy mod wedi mwynhau mas draw. Mae rhywbeth yn gyffrous am gwrdd â myfyrwyr [...]
¶
Postiwyd 15 Hydref 2007
† Dogfael
§
‡
°
Mae’n rhaid fy mod i’n teimlo’n well gan fy mod wedi gweld rhywbeth heddiw a wnaeth fy nghythruddo i’r fath raddau fel fy mod wedi anghofio am fy annwyd. Wedi tri diwrnod yn y gwely yn yfed fy ‘Lemsip’ generig o Superdrug a lemwn a mêl mewn dŵr poeth fe wnes fentro mas i’r byd [...]
Dwi ddim am swnio fel darllenydd y Daily mail, ond roedd gweld beth welais i fore Sul diwethaf (2007-07-08) yn dipyn o sioc, ac yn fy ngwneud i deimlo’n grac. Roedd rhywun neu rywrai wedi cymryd un o’r addurniadau blodeuog chwaethus oedd ar strydoedd Aberystwyth a cheisio ei daflu trwy ffenest siop goffi y Caban. [...]
¶
Postiwyd 15 Gorffennaf 2007
† Dogfael
§
‡
°
Mae ‘na un hanes dwi wedi bod yn disgwyl am wythnosau i’w adrodd ar Flog Dogfael, sef hanes y gwasanaethau bedydd a chonffyrmasiwn a gynhaliwyd yn Eglwys y Santes Fair yn ddiweddar - ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf. Nid ydym yn cael gwasanaethau bedydd yn aml iawn, ond roedd cael pump o bobol yn cael [...]
Tra roeddwn i yn yr Ysgol Haf ym Mangor fe gefais gyfle i fwynhau un o’m pleserau dirgel, sef crwydro o gwmpas “tŷ” rhywun arall yn pipo o gwmpas ac yn gweld beth welwn i. Oherwydd yr Ysgol Haf roedd hi’n bosib mynd i mewn i rai ystafelloedd na fyddai ar agor fel arfer. Un [...]
Dyma un arall o’r ffotograffau hynny sydd wedi fy nilyn trwy fy mywyd. Tynnwyd y llun mewn stiwdio yn Aberteifi fis Awst 1961 (dwi’n credu) i nodi fy mhen blwydd – roeddwn i’n un flwydd oed ar y pryd. Dwi’n cofio edrych ar y llun hwn droeon gyda fy mam ac fe fyddai hi [...]