Dydd Mawrth 2003-12-23
Er gwaethaf eu ceidwadaeth naturiol mae ‘na rai gwrthryfelwyr ymhlith y Fflandryswyr sy’n gwrthod derbyn y drefn fel y mae hi wedi’i gosod i lawr. Fe welson ni brawf o hynny ar un o strydoedd Gent. Mae’r arwydd yn dweud yn gwbl eglur: Verboden fietsen te stallen, sef ‘Llwyrwaherddir gadael beiciau yma!’”
(Dim [...]
Dydd Sul diwethaf fe welais i soffa ar y stryd yn Aberystwyth. Roedd hi tua 11.30am ac roeddwn i’n cerdded ar hyd Heol y Wig. Dyna ryfedd!
Myfyrwyr!
Rhagor o luniau o’r soffa ar y stryd.
(1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Dwi newydd wrando ar Gwilym Owen yn adolygu’r wasg wythnosol ar raglen Post cyntaf BBC Radio Cymru ac mae un cwestiwn wedi codi yn fy meddwl: oes ‘na gymal yng nghytundeb Gwilym Owen gyda’r BBC sy’n golygu ei fod yn gorfod cynnwys y gair sanhedrin mewn pob cyfraniad? Mae’n ymddangos felly i mi gan ei [...]
Jyst cyn y Nadolig fe gyhoeddodd y swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, National Statistics, eu rhestrau blynyddol o enwau plant mwyaf poblogaidd y flwyddyn yn ôl cofrestriadau genedigaethau. Ym mhlith y restrau mae rhai ar gyfer Cymru, yn gosod allan y 30 enw gwrywaidd a benywaidd mwyaf poblogaidd i’w rhoi ar fabis yn ystod y flwyddyn. Diddorol [...]
Un peth arall diddorol wnes i ddarllen yn yr Indpendent, ond mae’n siŵr fod yr hanes ym mhob papur a chyfrwng arall gan ei fod mor hynod o ddifyr. A’r hanes hwnnw yw bwriad tref yn y Taleithiau Unedig i weithredu deddf yn gwahardd pobol rhag dangos eu dillad isaf yn gyhoeddus. Yn ôl y [...]
Rhyw fis neu ddau yn ôl cafwyd cyfres o lythyron yn y cylchgrawn Golwg ynglŷn â dyfodol Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Wrth i’n prifysgol ‘genedlaethol’ fynd lawr y tiwb mae ‘na ddadlau wedi bod am beth ddylai ddigwydd i un o’r ychydig bethau gwerthfawr mae’n gadael er ei hôl. Fe wnes i ddarllen yr [...]
Mae un o ffenestri lliw Eglwys y Santes Fair wedi’i thorri ac felly mae’n rhaid ei thrwsio. Ond mae hynny wedi gadael rhywbeth hynod ar ei ôl, sef y Forwyn Fair heb ei hwyneb! Petawn yn byw mewn gwlad mwy ofergoelus mae’n debyg y gallai cwlt dyfu o gwmpas hyn, sef y Fair Ddiwyneb o [...]
Dwi’n ffaelu’n deg â chredu’r peth. Digwydd bod yn brigo’r we roeddwn i pan ddes i ar draws rhestr o eiddo oedd ar werth yn ardal Llandysilio a Chlunderwen. A fusech chi’n talu £200,000 am hwn hyd yn oed gyda chanitâd cynllunio.
Llandissilio, Clynderwen, Pembrokeshire SA66 7HL
£ 200,000
* Property type: other
[...]
Dwi wedi pleidleisio dros Glyn Wise!
Dwi’n ofni fy mod i wedi syrthio i’r rhwyd o roi fy arian prin i yng nghyfrifon banc gorlawn y cwmni sy’n cynhyrchu Big Brother trwy ffonio i bleidleisio dros Glyn Wise. Mae’n wirioneddol ddrwg gen i ddweud hynny mewn ffordd o siarad, ond nawr dwi wedi’i gael y peth [...]
Ceir stori wych ar wefan Newyddion BBC Cymru ynglŷn â chyfieithu carbwl ym Mro Morgannwg lle mae ‘Cyclists dismount’ wedi troi yn ‘Llid y bledren dymchwelyd’. Dwi’n hoff iawn o’r esboniad mae’r BBC yn ei gynnig: “Credir i’r camgymeriad ddigwydd wedi i rywun ddefnyddio system arlein i gyfieithu’r neges a bod y system honno wedi [...]
Mae’r stori am y strip-tîs a ddigwyddodd mewn digwyddiad wedi’i drefnyd gan Gymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig wedi ennyn fy niddordeb i mewn amaethyddiaeth am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Anodd gen i gredu fod y peth wedi digwydd yn y lle cyntaf ac mae gwefan y BBC wedi llwyddo i sicrhau fod y disgrifiadau [...]
Mae’r profiad o ymweld ag amgueddfa newydd yn un llawn disgwyliadau annisgwyl. Dyna yw fy mhrofiad i. A doedd ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Kelvingrove yn Glasgow ddim yn wahanol. Kelvingrove yw un o amgueddfeydd mwyaf poblogaidd Ynys Prydain ac yn eiddo i Gyngor Dinas Glasgow. Cafodd ei hagor am y tro cyntaf yn 1901, [...]
Diolch i IMJ dwi wedi dod ar draws un o’r blogiau mwyaf gwreiddiol ers tipyn. Mae’n werth ymweld ag ef, http://hitlercats.motime.com/. Dylai’r teitl roi ryw gliw ichi o’i gynnwys, sef ffotograffau o gathod sy’n edrych yn debyg i arweinydd yr Almaen o 1933 hyd at 1945. Mae pawb yn gwirioni ar bethau gwahanol a diolch [...]
Cael paned ar ôl gwaith gydag RO oeddwn i pan ddechreuodd yntau sôn am y diwinydd piwritanaidd Walter Cradoc. RO yw un o’r ychydig fyddai’n taflu enw Walter Cradoc i mewn i drafodaeth, a diolch byth amdano a’i genhadaeth i ddwyllio ac addysgu.
Yn anffodus doeddwn i ddim ar yr un donfedd, a’r peth cyntaf a [...]
Ni ddylai neb anghofio taw heddiw, 24 Ionawr, yw diwrnod diflasa’r flwyddyn ac mae hynny’n swyddogol yn ôl y boffiniaid ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd, neu, Prifysgol Caerdydd.
Felly er mwyn cefnogi ein hacademyddion peidiwch â mwynhau heddiw!
A dyma’r fformiwla yn ei grynswth:
1/8W+(D-d) 3/8xTQ MxNA
Lle mae :
W=Tywydd
D= Dyledion
d=Arian sydd i ddod yng [...]
Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael