Archifau categorïau: Llyfrgell Genedlaethol

Cwrdd â Chris Needs

Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod arbennig oherwydd dyna’r tro cyntaf imi gwrdd â’r enwog Chris Needs. I’r rhai ohonoch nad ych chi’n gyfarwydd â Chris mae’n e’n cyflwyno rhaglen 3 awr bob nos ar Radio Wales. Ond nid darlledwr cyffredin mo Chris – mae’n sefydlu perthynas gref iawn gyda’i gynulleidfa ac maen nhw’n ei ffonio’n [...]

Penwythnos prysur (2)

Dwi heb orffen dweud hanes fy mhenwythnos prysur wythnos yn ôl a hynny wrth imi lwyddo i oresgyn penwythnos prysur arall! Wythnos yn ôl cefais y fraint o fynychu un o ddigwyddiadau pwysig y byd llyfrau yng Nghymru, ond y tro hwn nid yr awduron oedd yn cael eu cydnabod ond yn hytrach y cyhoeddwyr: [...]

Prif weinidog answyddogol Cymru

Roedd nos Wener yn noson ddiddorol oherwydd fy mod i’n cymryd rhan mewn noson i ddathlu cyhoeddi, neu lansio, Prif weinidog answyddogol Cymru: cofiant Huw T Edwards gan Gwyn Jenkins yn Nrwm y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r awdur yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol ac roedd e wedi gofyn imi gyfrannu at y noson. Er taw [...]

Teimlo’n well… er mwyn dathlu

O’r diwedd dwi’n ôl ar dir y byw a dwi’n teimlo’n dipyn yn well. Dwi wedi bod yn disgwyl digon er mwyn medru dweud hynny. Roeddwn i wedi dechrau poeni bod rhywbeth gwaeth na ffliw/annwyd arna i. Wrth edrych yn ôl nawr dwi’n ei chael hi’n anodd credu fy mod wedi bod mor sâl, ond [...]