Wel mae rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2010 Academi wedi’i chyhoeddi. Y beirniaid y tro hwn yw Aled Lewis Evans, Branwen Gwyn, a John Gwilym Jones. Mae eu dewis yn ddiddorol.
Cymru gan John Davies (Lolfa) (roedd gan Marian Delyth rywbeth i’w wneud â’r lluniau hefyd!)
Banerog gan Hywel Griffiths (Lolfa)
Naw mis gan Caryl Lewis (Lolfa)
Llwybrau gan [...]
Dwi newydd ysgrifennu adolygiad o lyfr diweddaraf Hafina Clwyd ar gyfer gwefan gwales.com. Prynu lein ddillad yw’r detholiad diweddaraf o’i dyddiaduron sydd wedi’u cyhoeddi. Dyma ddywedais i yn fy adolygiad.
Os ydych chi’n dwlu ar Hafina Clwyd yna rydych chi’n mynd i ddwlu ar y gyfrol ddiweddaraf o ddetholion o’i dyddiadur. Ond hyd yn oes os [...]
Codais i’n gynnar heddiw eto o gofio ei bod hi’n ddydd Sadwrn. Wrth godi fe sylweddolais fod gen i ben tost a thrwyn llawn! Mae wedi bod yn wythnos brysur iawn a dwi’n credu fy mod i wedi ymlacio ryw ychydig brynhawn ddoe a pheidio â chymryd y gofal dyladwy i amddiffyn fy hun rhag [...]
Bues i yn stiwdio’r BBC yn Aberystwyth heddiw. Roeddwn i’n gwneud pwt ar gyfer dwy raglen radio. Yn y lle cyntaf roeddwn i’n recordio darn ar gyfer y rhaglen Blas yn ymwneud â thraddodiadau Dydd Mawrth Ynyd, yn benodol yr arfer o fwyta crempogau fel ffordd o waredu unrhyw fwyd ‘gwaharddedig’ o gypyrddau’r gegin ar [...]
Efallai taw’r noson honno yn Newcastle y cefais y pryd gorau yn ystod y gwyliau ym mwyty Sbaenaidd El Torero. Wedi diwrnod cyfan o gerdded a theithio ac ymweld fe wnes i fwynhau hamdden croesawgar y bwyty cymaint â’r bwyd ei hun.
Wrth gwrs doedd pawb ddim yn meddwl am fwyd trwy’r amser. Os oedd [...]
Trafnidiaeth gyhoeddus oedd y thema heddiw wrth inni deithio i Newcastle upon Tyne am y dydd. Mae’n hawdd iawn mynd ar y trên o Durham i Newcastle ac nid yw’n cymryd ond rhyw chwarter awr. Mae gorsaf Durham yn uchel i fyny ar ochr orllewinol i’r ddinas ac maen nhw’n dweud taw oddi yno y [...]
HEXHAM
Mae Hexham yn dref hyfryd ac wedi’i henwi fel un o’r lefydd gorau i fyw ynddynt yn Lloegr. Mae eglwys y plwyf, Hexham Abbey, o fainioli eglwys gadeiriol. Ond ein hunig brofiad ni o’r dref oedd fel lle i fwyta cinio ar y ffordd i Wal Hadrian. Dewison ni’r bwyty cyntaf inni ei weld wrth [...]
Ar ôl y misoedd o ddisgwyl mae’r diwrnod mawr wedi dod pan fydd mudwyr a siglwyr y byd cyhoeddi Cymreig yn ymgasglu mewn gwesty uwch-foethus yng Nghaerdydd er mwyn dathlu enillydd Llyfr y flwyddyn 2009. Mae tri yn cystadlu am y wobr Gymraeg – Teulu Lòrd Bach gan Geraint V Jones, Petrograd gan Wiliam Owen [...]
Diolch i’r deg ar hugain o ddarllenwyr Blog Dogfael wnaeth bleidleisio ar ba lyfrau ddylai fod ar restr fer Llyfr y flwyddyn 2009. Bydd y rhestr honno yn cael ei chyhoeddi mewn wythnos yng Ngŵyl y Gelli.
Dyma’r canlyniadau’r bleidlais. Tybed a fydd y beirniaid go iawn yn dod i’r un canlyniad?
Wiliam Owen Roberts, Petrograd [...]
Cefais brofiad arbennig ddoe, sef eistedd mewn iwrt ym Meirionnydd yng nghwmni’r awdur a’r seren deledu, Bethan Gwanas, a’r newyddiadurwr a chyd-olygydd Barn, Vaughan Hughes. Dwi’n prysuro i ddweud nad trwy hap a damwain y digwyddodd hyn, ond trwy rhag-drefniad y cwmni teledu Cwmni Da. Roedd y tri ohonom yn rhan o drafodaeth ar gystadleuaeth [...]
Dros y penwythnos cynhaliwyd gŵyl Bedwen Lyfrau yn Aberystwyth. Trefnir yr ŵyl yn flynyddol gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru. Cynhaliwyd digwyddiadau nos Wener yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef lansio tri llyfr a pherfformiad gan Meic Stevens. Roedd gweithgareddau ddydd Sadwrn yn cael eu cynnal yng nghanolfan Cwmni Arad Goch yn Stryd y Baddon.
Digwyddiad cyntaf yr ŵyl [...]
Noswaith yn ddiweddarach dwi wedi cael cyfle i ddadansoddi rhestr hir Llyfr y flwyddyn 2009 yn fwy trylwyr. Dwi wedi gwneud hynny er mwyn gweld a oes ‘na elfennau cyffredin i’w gweld neu a oes ‘na bosib fod y beirniaid wedi creu rhestr ar eu delw hwy eu hunain.
Ambell i bwt o wybodaeth i ddechrau. [...]
Llongyfarchiadau i feirniaid cystadleuaeth Llyfr y flwyddyn 2009. Gyda’r rhestr hir newydd ei chyhoeddi mae’n amlwg fod cael dau gyn-athro’r Gymraeg sydd wedi ymddeol a menyw yn bell o oed yr addewid wedi dod â rhyw olwg newydd ar bethau. Fe alla i ddeall y nofelau (bron a bod) ond wrth edrych ar y ffeithlen [...]
Dyma fy ymgais i at restr ar gyfer Llyfr y flwyddyn 2009. Deg llyfr i gyd oddi ar restr Academi o lyfrau cymwys. Darllenydd llyfrau ffeithiol ydw i wrth reddf; mae’n rhaid imi weithio ar nofelau, a gwneud fy hun i’w darllen. Wrth gwrs, mae’r pleser dwi’n ei gael o’u darllen yn fawr iawn. Dylwn [...]
Ydy, mae cyffro cystadleuaeth Llyfr y flwyddyn 2009 wedi dechrau mewn ffordd o siarad. Nos Iau diwethaf cefais i fy nghyfweld a’m ffilmio ym mar Salt ar gyfer rhaglen deledu yng nghyfres y Sioe gelf am gystadleuaeth Llyfr y flwyddyn. Ydy, mae’r amser wedi dod unwaith eto i ystyried y rhestr hir fydd yn cael [...]
Rhaid dweud fod clywed am y bwriad i gau siop lyfrau Galloways yn Heol y Wig, Aberystwyth yn dod ag ychydig o dristwch i mi. Dwi’n gwybod fod y siop wedi bod yno am ryw ganrif, ond mae wedi bod yno ers i mi adnabod Aberystwyth. Pan ddeuthum i’r dref ddiwedd yr 1970au i astudio [...]
Mae’r llyfrau wedi dechrau dychwelyd i’r bwrdd coffi. Does dim llawer iawn yno ar hyn o bryd, ond mae’r hyn sydd yno yn eithaf diddorol ac amrywiol.
Philip Roth, The plot against America. (Vintage, 2005)
Dewi Prysor, Crawia. (Lolfa, 2008)
Owen Martell, Dolenni hud. (Gomer, 2008)
Geraint Evans, Y llwybr. (Lolfa, 2009)
Robat Gruffudd, A gymri di Gymru? (Lolfa, 2009)
Welsh [...]
Dwi newydd orffen darllen Y Llwybr gan Geraint Evans. Y Llwybr yw nofel y mis ar Gwales.com ac yn haeddiannol felly. Unwaith imi ddechrau darllen y nofel roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn i’w rhoi i lawr ac mae’n llwyr haeddu’r endorsiad hael gan Rocet Arwel Jones ar y clawr: “Stori dda ddarllenadwy, a [...]
O diar! Dwi wedi gorffen glanhau’r ystafell fyw ym Mhlas-yn-Dogfael, ond yn fy mrwdfrydedd i wneud popeth cyn pedwar o’r gloch fe wnes i anghofio un peth pwysig iawn. Fel arfer bydda i’n nodi pa lyfrau sydd ar y bwrdd coffi yn cael eu darllen gan DML. Ond fe wnes i symud pethau mewn cymaint [...]
Neithiwr fe fues i mewn noson yn Drwm y Llyfrgell Genedlaethol i noson yng nghwmni Aled Lloyd Davies. Y gŵr hwn yw un o’n harbenigwyr pennaf ar hanes Gerdd Dant, ond mae hefyd yn berfformiwr Cerdd Dant. Yn ystod y noson fe wnaeth edrych yn ôl dros ei fywyd a thros ei yrfa gan ganu [...]
|
Llyfrau o Lyfrgell Dogfael
|
Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael