Archifau categorïau: Iseldireg

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (1)

Rhaid imi gyfaddef fy mod wedi darllen llyfr Peter Trudgill o glawr i glawr dros nos. Dyw e ddim yn llyfr hir iawn, rhyw 100 tudalen. Roedd ‘na ryw ffaith ddiddorol yn codi trwy’r amser. Ond cefais fy sioc fwyaf wrth ddarllen fod traean a mwy (37%) o boblogaeth Norwich yn 1579 yn siarad Iseldireg [...]

Mwynhau gwleidydda

Dwi wedi newid fy meddwl am wleidyddiaeth. Yn lle troi fy nghefn ar y cyfan dwi’n dwlu ar wleidyddiaeth bellach. Pam? Am fy mod i newydd gwrdd â rhywun sy’n siarad Iseldireg a gafodd ei magu yn Fflandrys ac sy’n un o ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth – cydymgeisydd gyda fi. Roeddwn [...]

Mechelen (3)

Cychwynnais ar fy nhaith o gwmpas Mechelen trwy gwrdd â chyfeillion wrth yr orsaf. Roeddwn i wedi cwrdd â’r dau o’r tri o’r blaen – fy nghyfeilles Liesbeth a Kevin – ond dyma gyfarfod â Joris am y tro cyntaf. Mae e’n byw yn Leuven ac yn gweithio i gwmni cyfrifiadurol. Er ei bod hi’n [...]

Drogenbos

Wedi bod yn Linkebeek roedd yn rhaid bwrw yn ôl i Frwsel er mwyn dal y tram allan i Drogenbos, fy mhumed cymuned gydag adnoddau ieithyddol i siaradwyr Ffrangeg ar gyrion Brwsel. Roeddwn i’n mynd i fynd ar dram 82 o orsaf Brwsel Zuid hyd at neuadd cyngor Drogenbos. Mae’r tram ei hun yn mynd [...]

Linkebeek (2)

Dyw hi ddim yn syndod fod pobol am fyw yn Linkebeek. Mae’n beth od i’w ddweud ond mae canol y dref bron â bod yn atgoffa dyn o bentref yn Lloegr oherwydd yr hyn sydd yno i bob pwrpas yw “village green”. Ar ganol hwnnw mae cofeb ryfel. O gwmpas y mae tai, siopau, gorsaf [...]

Linkebeek (1)

Dydd Gwener (2007-12-28). I rywun sy’n digwydd taro ar draws y blog yn ‘oer’ bydd y diwrnod heddiw yn swnio’n arbennig o debyg i ddoe. Y rheswm dros hynny wrth gwrs yw fy mod yn ceisio cyrraedd yr un fath o nod heddiw â ddoe, sef ymweld â rhai o’r cymunedau ar gyrion dinas Brwsel [...]

Wezembeek-Oppem (2)

Mae rhyw 14,000 yn byw yn Wezembeek-Oppem ac, yn dilyn Kraainem, dyma’r mwyaf Ffrengig o gymunedau cyrion Brwsel sydd yn Fflandrys. Efallai y dylwn ail-eirio hynny fel un o’r llefydd lleiaf Iseldireg, oherwydd un o’r ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddenu rhai nad ydynt yn siarad Iseldireg i’r ardal yw presenoldeb Internationale Deutsche Schule Brüssel [...]

Wezembeek-Oppem (1)

Mae teithio ar y tram 39 neu 44 allan o orsaf Montogmery ym Mrwsel wastad yn gyffrous gan fod y tram yn mynd allan o’r ddinas i ardaloedd gwledig. Mae tram yn mynd i gyfeiriad Tervuren ac Amgueddfa Affrica sydd yno. I fynd i Tervuren mae’n rhaid mynd trwy goedwig Zoniënwoud. Nid yw’r daith ar [...]

Dwy gymuned arall ar gyrion Brwsel

Dydd Iau (2007-12-27). Wedi ymweld â Vilvoorde ddoe dyma droi yn ôl heddiw at y faciliteitengemeenten, sef y cymunedau hynny ar gyrion Brwsel sydd yn Fflandrys Iseldireg ond sydd yn cynnig rhai hawliau i siaradwyr Ffrangeg. Fel y mae’n amlwg, canlyniad i gyfaddawdu ddechrau’r 1960au yw’r cymunedau hyn – nid ydyn nhw’n plesio neb. Mae’r [...]

Tref Jean-Luc Dehaene

Mae Vilvoorde yn un arall o faestrefi dinas Brwsel, ond mae iddi hanes hir iddi ei hun. Bu Jean-Luc Dehaene yn faer yma am gyfnod. Bu hefyd yn brif weinidog Gwlad Belg ar ddau achlysur, ond fe ddaeth yn enwog fel y dyn a wrthodwyd gan John Major fel Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd yn y [...]

Ymweld â Sint-Genesius-Rode

Dydd Sadwrn 2007-12-22. Mae maestrefi unrhyw ddinas yn weddol debyg i’w gilydd – mae’n dibynnu ar gyfoeth y lle a’r lleoliad mae’n wir – ond ar y cyfan maen nhw’n debyg o normal. Felly fe ddylwn i fod wedi bod yn barod ar gyfer fy ymweliad â Sint-Genesius-Rode; hynny yw, fe ddylwn i fod wedi [...]

Gwyliau Awst 2007-08-30

Gwneud dim byd oedd fy nod ar gyfer diwrnod olaf y gwyliau ym Mrwsel a dwi’n falch o fedru adrodd fy mod wedi cyrraedd y nod yn gwbl ddidrafferth. Roeddwn i wedi gwneud yr holl grwydro, yr holl deithio a’r holl ddysgu yr oeddwn yn bwriadu ei wneud, ac felly roedd un diwrnod ar ôl [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (6)

Mae’n ddiddorol fod ‘na arwyddion dwyieithog yn dal i fod yn Leuven. Dywed hanes fod Leuven wedi troi yn ddinas uniaith Iseldireg yn y 1960au. Ond er i’r Ffrangeg ddiflannu fel iaith weledol yma mae tafodiaith Leuven wedi llwyddo i ennill ei lle ar rai o arwyddion strydoedd y ddinas. Fe dynnais i luniau dau [...]

Gwyliau Awst 2007-08-28 (1)

Doedd hi ddim yn gynnar iawn arnon ni’n gadael Brwsel fore Mawrth ar ein ffordd i Leuven ar y trên. Roedd Liesbeth wedi ein gwahodd ni i swper ac roedden ni wedi trefnu gyda Ivan iddo ef ein cyfarfod yng nghanol y ddinas tua rhyw 6.00pm er mwyn mynd â ni i’w fflat. Ond roedden [...]

Gwyliau Awst 2007-08-27 (2)

Roedden ni wedi gwneud y Comisiwn a’r Cyngor, dim ond y Senedd ar ôl. Mae’r adeiladau hynny ryw hanner milltir o’r Comisiwn ar gyrion Leopoldpark. Fe gerddon ni lawr tuag atynt a thrwy sgwâr JeanReyplein a oedd yn llawn ffynhonnau yn oeri’r awyr ar ddydd digon twym. Wedyn trwy Leopodlpark hyd at Adeilad Paul-Henri Spaak [...]

Gwyliau Awst 2007-08-26 (2)

Fel y dywedais i roedd ein taith i Diksmuide yn dechrau gyda mynd o ganol Brwsel i orsaf Zaventem. Roeddem i gyrraedd yno erbyn 9.00am er mwyn cwrdd ag Ivan. Roedd dau drên yn gadael gorsaf Brwsel Centraal ar ôl 8.00am y gallem eu cymryd er mwyn cyrraedd Zaventem mewn pryd. Aethon ni ar yr [...]

Gwyliau Awst 2007-08-25 (2)

Wrth aros yn Zaterdagplein nid oeddem yn bell iawn oddi wrth dai bwyta pysgod Brwsel sy’n drwch yn yr ardal o gwmpas Sint-Katelijneplein. Dyma lle’r oedd porthladd Brwsel yn gorwedd cyn 1870 a llenwi’r afon. Mae’r traddodiad pysgod yn dal i barhau yno. Roeddwn i’n teimlo ei bod ychydig yn afradlon i dalu prisiau cymharol [...]

Pwy sy’n siarad Iseldireg (2)

Dwi wedi penderfynu dechrau casglu enwau pobol annisgwyl sy’n siarad Iseldireg. Dwi wedi sôn am y cyntaf o’r blaen, sef un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg. Mae’r ail ar rhy rhestr yn fwy annisgwyl byth, sef y darlledwr poblogaidd Chris Needs sydd newydd gyhoeddi ei hunangofiant, Like it is. Wrth [...]

Nodyn gan Herman Van Rompuy

Mae’r sawl sy’n dilyn Blog Dogfael yn gyson yn gwybod fy mod wedi fy hudo gan wleidydd o Fflandrys, Herman Van Rompuy. Y rheswm pennaf dros hyn yw’r ffaith ei fod yn cyhoeddi barddoniaeth ar ei wefan, ac yn benodol ei haikuau ei hun. Bues i mor hy â chyfieithu dau ohonynt i’r Gymraeg a’u [...]

Siop Lyfrau Iseldireg, 2006-12-22

Fe wnes i deithio o orsaf metro Sint Guido hyd at orsaf De Broukère yn y canol. Ar y ffordd yr oeddem yn mynd trwy orsaf wedi’i henwi ar ôl un o blant enwocaf Brwsel sef y canwr Jaques Brel. Yn bellach i lawr y lein o Sint Guido ceir grosaf wedi’i henwi ar ôl [...]