Blog Dogfael» Ieithoedd

Ddim yn ddigon da i astudio Gwyddeleg
Mae ‘na stori ddiddorol ar wefan irishtimes.com heddiw. Fe ddarganfu darlledwr cenedlaethol Iwerddon, RTÉ, fod 2,119 o ddisgyblion ysgol wedi cael yr hawl i’w heithrio rhag astudio Gwyddeleg yn ystod 2008-2009 oherwydd anableddau dysgu o wahanol fathau. Ond wedyn roedd 1,210 ohonynt, dros eu hanner, wedi astudio iaith Ewropeaidd arall yn yr un cyfnod. Ble ond Iwerddon? Wel, Cymru fwy na thebyg!

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Dal i fod yn eilradd
Mae’r swyddogion o’r asiantaeth Trwyddedu Teledu ar fy ôl unwaith eto. Es i ddim mas i’n dathliad Gŵyl Dewi yn y plwyf heno gan fod gen i annwyd trwm o hyd ar ôl yr wythnos diwethaf. Roeddwn i’n eistedd yn siarad gyda DML pan ddaeth cnoc uchel ar ddrws Llys Dogfael. Wrth y drws safai swyddog gyda’i glipfwrdd yn ei law yn gofyn pa bryd y bwriadem sicrhau trwydded deledu ar gyfer Llys Dogfael – yn Saesneg. Dwi ddim am ymddangos yn hen ffasiwn ond fy ymateb cyntaf i oedd gofyn i’r dyn a oedd yn siarad Cymraeg. Dywedodd ei fod. Ac fe es i ati i esbonio fy mod wedi derbyn trwydded i Lys Dogfael trwy’r post ond rhyw fis yn ôl.

Rhaid imi ddweud fy mod wedi cael llawer o drafferth gyda Thrwyddedu Teledu pan roeddwn i’n byw ym Mhlas-yn-Dogfael. Oherwydd fy mod i’n mynnu defnyddio’r ffurf Gymraeg ar fy nghyfeiriad roedd yr awdurdodau yn mynnu fod yr eiddo heb drwydded. A hynny er imi ysgrifennu a ffônio yn gyson i ddweud fy mod â thrwydded. Nid oeddwn i’n credu ei bod hi’n ddyletswydd arna i i ddweud wrthyn nhw beth oedd ffurf arall (h.y. Saesneg) fy nghyfeiriad. Felly bob tro fyddai llythyr yn dod i’r tŷ yn dweud eu bod am anfon yr SAS i mewn i ddelio gyda’r broblem o ddiffyg trwydded byddwn i’n dweud trwy lythyr neu ffôn fod gen i drwydded, diolch yn fawr.

Bues i’n pwyso am flynyddoedd arnyn nhw i ddefnyddio’r ffurf gywir ar fy nghyfeiriad – y ffurf Gymraeg – ond yn aflwyddiannus. Yna rhyw ddydd fe ymddangosodd y drwydded gyda’r cyfeiriad yn Gymraeg ond fel troednodyn taw’r cyfeiriad go iawn oedd y ffurf Saesneg. Ar ôl yn agos i ddeng mlynedd o drafod doedd gen i ddim nerth ar ôl i fynnu’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg bellach.

Mae ‘na ddigon sy’n fodlon dweud ei bod hi’n hawdd defnyddio’r Gymraeg bellach a bod bai ar bobol am beidio gwneud. Dwi’n rhyfeddu fod unrhyw un yn mynd i’r drafferth oherwydd mae’n cymhlethu eich bywyd yn ddiddiwedd. Petawn i’n cydymffurfio ac yn defnyddio ffurf Saesneg ar fy nghyfeiriad fyddai ‘na ddim llythyron bygythiol yn dod trwy’r post na swyddogion yn cnocio ar fy nrws liw nos. Byddai popeth yn iawn.

Roedd y swyddog yn ddigon cwrtais ond pam roedd yn rhaid i mi ddioddef y fath driniaeth a hynny’n unig am fy mod yn gwneud yr hyn y mae hawl gen i i’w wneud, sef defnyddio ffurf Gymraeg ar fy nghyfeiriad fy hun. Roedd y drwydded gen i, wedi’i ffeilio yn ofalus. Roedd yn datgan yn glir beth oedd y cyfeiriad trwyddedig, sef Llys Dogfael. Nid oedd unrhyw amwysedd ynglŷn a oedd gen i drwydded deledu ai peidio. Yr unig ‘broblem’ i’r asiantaeth Trwyddedu Teledu oedd fy mod yn defnyddio ffurf Gymraeg ar fy nghyfeiriad. Roeddwn i wedi rhoi fy nghod post iddynt gyda’r cyfeiriad, ond doedden nhw ddim wedi defnyddio unrhyw synnwyr cyffredin i weld fod fy nghyfeiriad i yn cyfateb.

Petai rhywun yn gofyn i mi a yw hi’n syniad da i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gysylltu gyda’r awdurdodau byddwn i’n gorfod ateb yn onest a dweud nac ydy os nad ydych chi am orfod wynebu trafferthion di-ben-draw am wneud.

Dyma beth mae Trwyddedu Teledu yn dweud wrtha i ar eu trwydded am newid cyfeiriad. Gellir gwneud hynny mewn sawl ffordd: “Os na allwch fynd ar lein, fe welwch chi ffyrdd eraill o roi gwybod i ni ar y cefn. Fyddwn ni ddim yn anfon Trwydded Deledu newydd atoch. Ond gallwch fod dyn dawel eich meddwl y byddwch wedi’ch trwyddedu’n gywir unwaith y byddwch wedi rhoi eich manylion newydd i ni.”

Diolch yn fawr Trwyddedu Teledu am f’atgoffa i unwaith eto fy mod yn dal i fod yn ddinesydd eilradd yn fy ngwlad fy hun, a hyd yn oed yng Ngheredigion. O fynd ar-lein i wirio fy manylion roedd hi’n amhosib gwneud hynny yn Gymraeg. Dwi’n casáu’r holl drafferth o ddefnyddio’r Gymraeg gyda’r awdurdodau. A hynny er mwyn talu treth iddyn nhw!

Am ffordd i ddathlu Gŵyl Dewi!

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Codau post yn Iwerddon
Daeth y newyddion mawr heddiw fod Iwerddon yn mynd i fabwysiadu sustem o godau post. Yn ôl adroddiad yn yr Irish Times ar-lein Iwerddon yw’r unig wladwriaeth yn Ewrop heb sustem o’r fath. Yn ôl y stori honno bydd y codau post yn ymdebygu i rai’r Deyrnas Gyfunol.

The Department [hynny yw, The Department of Communications, Energy and Natural Resources] said it was envisaged that an alpha-numeric postal system (ABC 123) would be used to identify clusters of houses. This would read, for example, as Ms A Murphy, Blue Building, Pearse Street D02 123 or Mr B Collins, Main Street, Athlone, ATH 123. However, the precise design of the new codes will not be finalised until the tender process is complete.

Mae’r esiamplau hyn yn rhyw awgrymu taw ffurfiau Saesneg enwau lleoedd Iwerddon fydd yn cael eu defnyddio’n sail i’r cod post. Gobeithio’n fawr nad dyna fydd y sefyllfa – dyna ddigwyddodd pan fabwysiadwyd fformat newydd ar gyfer platiau cofrestru ceir yn Iwerddon yn 1987. Yn wreiddiol dim ond llythyren neu llythrennau cyntaf enw’r sir mewn Saesneg oedd yn ymddangos ar y platiau. Ond yn dilyn swnian gan ymgyrchwyr iaith fe ychwanegwyd enw’r sir mewn Gwyddeleg uwch y rhif a’r llythrennau. Cyfaddawd Gwyddelig iawn ac mae’n siŵr y ceir un tebyg yn achos codau post.

Rhagor o wybodaeth am blatiau cofrestru ceir yn Iwerddon.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Y Parchedig Bill Roberts yng Nghymru
Dros y penwythnos a aeth heibio cefais i brofiad amheuthun o gyfarfod a thrafod sefyllfa’r Gymraeg a Christnogaeth yng Nghymru gyda’r Parchedig Bill Roberts. Ar yr olwg gyntaf mae hynny’n swnio fel penwythnos arferol a chyffredin – ond yr hyn a oedd yn wahanol yw fod Bill Roberts yn rheithor Eglwys Esgobol S. Gregory yn Deerfield, Illinois, a’i fod wedi dysgu Cymraeg.

Fel y tystia ei enw mae Bill o dras Cymraeg. Mae ar gyfnod sabothol o’i waith, ond mae’n defnyddio’r cyfnod hwn er mwyn dysgu a deall pethau’n well. Ac er mwyn ennill profiadau a fydd yn cyfoethogi ei weinidogaeth a’i ddefnyddioldeb i Dduw wedi’r gwyliau sabothol.

Ei ddiddordeb mawr yng Nghymru yw’r berthynas rhwng adfywiad y Gymraeg a Christnogaeth. Wrth ymchwilio i hyn cafodd gyfle i drafod gyda nifer fawr. Yn ogystal ag Eglwys y Santes Fair yn Aberystwyth yr oedd wedi, neu’n bwriadu, ymweld â’r canlynol: Eglwys Dewi Sant, Caerdydd; Plwyf Dewi Sant, Caerfyrddin; Eglwys St. Mark, Gabalfa (Caerdydd); Eglwys S. Gabriel, Cwm-y-glo; ac Eglwys S. Mihangel, Llanrug.

Ar ben ymweld â’r holl eglwysi hynny mae Bill wedi bod yn ymweld â llefydd eraill a chyfarfod â nifer o unigolion. Wrth i mi siarad gydag ef cefais hanes i ymweliad ag Ysgol Gartholwg (yr hen Rydfelen) lle cafodd gyfle i siarad gyda rhai o’r myfyrwyr hŷn am eu hagweddau tuag at y Gymraeg a thuag at Gristnogaeth.

Cymru yw’r cyntaf o dair gwlad y bydd Bob yn ymweld â nhw ar ei daith. Wedi bod yma bydd yn treulio cyfnod yn Lloegr, a Madagascar. Yn ddifyr iawn mae Bill yn perthyn i fyd y blogwyr ac mae adrodd hanes i gyfnod sabothol, gan gynnwys ei gyfnod yng Nghymru, ar y blog hwnnw. Felly fe ellir dilyn ei deithiau a’i sgyrsiau ar flog St. Blogory’s. Mae’n disgrifio’r blog hwnnw fel hyn: “These are the voyages of the Rector’s Sabbatical. Its three-month mission: to explore three Christian cultures: Welsh-speaking Wales, Emerging Church England, and Anglican Madagascar; to seek out new life and new friends in Christ; to boldly go where Christ has gone before.”

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Arwydd dwyieithog ar drên NMBS
Dydd Mawrth 2008-12-23

Ar y ffordd yn ôl o Aalst i Frwsel fe welais i’r arwydd dwyieithog hwn ar y trên a’i ffilmio er mwyn ei rannu gyda ffyddloniaid Blog Dogfael.

<object type="application/x-shockwave-flash" width="400" height="300" data="http://www.flickr.com/apps/video/stewart.swf?v=63881" classid="clsid:D27CDB6E-AE6D-11cf-96B8-444553540000"><param name="flashvars" value="intl_lang=en-us&photo_secret=0d07fc68cd&photo_id=3151665124"></param><param name="movie" value="http://www.flickr.com/apps/video/stewart.swf?v=63881"></param><param name="bgcolor" value="#000000"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><embed type="application/x-shockwave-flash" src="http://www.flickr.com/apps/video/stewart.swf?v=63881" bgcolor="#000000" allowfullscreen="true" flashvars="intl_lang=en-us&photo_secret=0d07fc68cd&photo_id=3151665124" height="300" width="400"></embed></object>

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Hawl i’r Gymraeg
Ddydd Sadwrn roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal ei chyfarfod cyffredinol blynyddol. Fe es i’r cyfarfod agored yn y prynhawn; cyfarfod a oedd yn cael yn ei alw’n rali, ond a oedd mewn gwirionedd yn gyfle i wrando ar ddau siaradwr gwybodus iawn ym myd hawliau ieithyddol. Cadeiriwyd y cyfarfod gan gadeirydd y Gymdeithas, y Prifardd Hywel Griffiths. Cyflwynodd yn gyntaf Elin Haf Gruffudd Jones o sefydliad Mercator a siaradodd yn huawdl am ddatblygiad deddfau iaith yng Ngwlad y Basg gyda sylw arbennig i’r ymgais i gynnwys y sector preifat o fewn i’w deddfwriaeth iaith. Wedyn fe siaradodd Gwion Lewis. Mae yntau’n fargyfreithiwr ac yn awdur cyfrol ar hawliau ieithyddol, Hawl i’r Gymraeg. Ei bwyslais ef oedd y ddadl hawliau dynol dros roi hawliau ieithyddol i siaradwr y Gymraeg ac yn arbennig yr apêl at urddas yr unigolyn sy’n deillio o barchu iaith fel rhan o hunaniaeth.

<object width="425" height="344" class="center" ><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/0Gneeoypwnk&hl=en&fs=1"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/0Gneeoypwnk&hl=en&fs=1" type="application/x-shockwave-flash" allowfullscreen="true" width="425" height="344"></embed></object>

Roedd yn gyfarfod da iawn ac yn glod i fudiad sydd yn ddeugain mlwydd oed ei fod yn dal i fod ar flaen y gad wrth ymdrin â materion yn ymwneud â’r Gymraeg yng Nghymru. Roedd un peth yn ddiddorol, sef pwyslais Gwion Lewis ar yr hyn sy’n “rhesymol”. Dwi’n cofio taw’r ddadl fawr ynglŷn â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 oedd y cymal oedd yn dweud taw pan roedd hi’n rhesymol yr oedd y Gymraeg i’w thrin yn gyfartal gyda’r Saesneg. Efallai fod pethau wedi newid bellach.

Rhagor o luniau o gyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (5)
Fe brynais lyfr arall ar dafodiaith Norfolk yn y ddinas heddiw, sef Larn yarself Norfolk: a comprehensive guide to the Norfolk dialect (Nostalgia, 1996) gan Keith Skipper. Wrth gwrs, dyw’r llyfr yn ddim byd tebyg i gydymaith cyflawn, ond mae’n ddifyr iawn. Gyda llyfrau Trudgill a Skipper yn fy llaw dwi wedi dechrau dysgu ychydig Norfolk.

Dyma fi yn adrodd cerdd am goginio twmplenni yn null Norfolk allan o lyfr Skipper, sy’n dwyn y teitl Norfolk dumplin’s recipe.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-23 (1)
Rhaid imi gyfaddef fy mod wedi darllen llyfr Peter Trudgill o glawr i glawr dros nos. Dyw e ddim yn llyfr hir iawn, rhyw 100 tudalen. Roedd ‘na ryw ffaith ddiddorol yn codi trwy’r amser. Ond cefais fy sioc fwyaf wrth ddarllen fod traean a mwy (37%) o boblogaeth Norwich yn 1579 yn siarad Iseldireg neu Ffrangeg. Roedd y ddinas wedi gwahodd rhyw 30 teulu o’r Iseldiroedd i ddod i fyw yn Norwich yn yr unfed ganrif ar bymtheg er mwyn ceisio adfywio’r diwydiant brethyn lleol. Yn y diwedd daeth 24 o deuluoedd Iseldireg eu hiaith o Fflandrys a 10 teulu Ffrangeg o Walwnia. Ond roedd hi’n adeg o wrthdaro a gwrthryfel yn yr Iseldiroedd Sbaenaidd ac fe ddenodd presenoldeb y teuluoedd hyn nifer o ffoaduriaid i ymuno gyda hwy, siaradwyr Iseldireg yn bennaf, ond roedd ‘na siaradwyr Ffrangeg hefyd yn eu mysg. Yr enw lleol arnyn nhw oedd “The Strangers”.

Yn ei astudiaeth mae Trudgill yn nodi nifer o ddylanwadau ar dafodiaith Norfolk a Norwich y mae e’n credu sy’n dod oherwydd dylanwad Iseldireg yn bennaf.  Yn ôl Peter Trudgill parodd Iseldireg, a Ffrangeg i raddau llai, i fod yn ieithoedd byw yn Norwich hyd at y ddeunawfed ganrif, ac yn grefyddol roedd ‘na eglwys Ffrangeg yn cyfarfod yn y ddinas tan 1832 ac eglwys Iseldireg tan 1890. Roeddwn i wedi gweld cofeb yn nodi’r fan lle’r oedd yr eglwys Ffrangeg ei hiaith yn cyfarfod pan fues i yn yr eglwys gadeiriol, ond fy mwriad bellach oedd ceisio dod o hyd i’r lle roedd yr eglwys Iseldireg yn addoli.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-22 (4)
Roedd hi’n costio bron i £8 i fynd i mewn i Amgueddfa Gressenhall a dwi’n teimlo i mi gael gwerth fy arian. Treuliodd y tri ohonom y diwrnod ar ei hyd yno heb ddiflasu o gwbl. Jyst cyn gadael roedd yn rhaid galw heibio i’r siop ac fe ges i lyfr gwych ar dafodiaith Norfolk gan yr tafodieithegydd enwog Peter Trudgill, The Norfolk dialect (Poppyland, 2003). Yr hyn sy’n rhyfeddol yw ffordd y mae e wedi cynnwys cymaint  wybodaeth mewn cyn lleied o dudalennau, a hynny wedi’i ysgrifennu’n glir ac yn ddealladwy. Mae’r dyn yn feistr ar ei faes ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu trwy’r gyfrol. Dwi’n ofni imi ddiflasu DML ac RO am weddill y dydd gyda ffeithiau difyr am dafodiaith Norfolk o’r llyfr hwnnw. A dwi’n siŵr o wneud hynny ar y blog hefyd cyn imi orffen adrodd hanes fy ngwyliau yn Norwich a’r cyffiniau.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Michael Fabricant
Mae stori ryfedd yn y Guardian heddiw am yr aelod seneddol Torïaidd, Michael Fabricant, yn cael ei ddal gan filwyr yn Colombia oedd yn meddwl fod y gwynnwr coffi oedd ganddo yn ei feddiant yn gocaîn ac yn ei orfodi i’w fwyta. Roedd ar wyliau cerdded yn Colombia, ond mae’n cyfaddef

“It took some explanation, as I don’t speak more than two or three words in Spanish, for them to accept it was Coffee Mate,” Fabricant – now safely back at Westminster – said.

Wel dyna ichi beth twp i’w wneud – mynd ar wyliau i Colombia gyda dim ond un neu ddau air o Sbaeneg – ac wedyn mae dyn fel hyn yn credu y dylai fod yn rhedeg y wladwriaeth!

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.