Archifau categorïau: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Hawl i’r Gymraeg

Ddydd Sadwrn roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal ei chyfarfod cyffredinol blynyddol. Fe es i’r cyfarfod agored yn y prynhawn; cyfarfod a oedd yn cael yn ei alw’n rali, ond a oedd mewn gwirionedd yn gyfle i wrando ar ddau siaradwr gwybodus iawn ym myd hawliau ieithyddol. Cadeiriwyd y cyfarfod gan gadeirydd y Gymdeithas, [...]

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-04

Dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i adnabod dinas a’i dofi wrth ddeall ei sustem drafnidiaeth. Felly wedi i’r cyfeillion fynd am yr eisteddfod fe es i ati i geisio deall bysus Caerdydd a sut i gyrraedd ble’r oeddwn i am ei gyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithlon a rhataf. Wedi chwilio a darllen [...]

Blog newydd arall eto

Newydd ddod o hyd i flog newydd arall. Mae’n cuddio y tu fewn i wefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oherwydd blog cadeirydd y Gymdeithas yw hwn, sef Hywel Griffiths. Mae wedi bod yn blogio ers dechrau mis Mai, ond dim ond heddiw welais i’r peth am y tro cyntaf. Mae newydd flogio am fod ar [...]

Pôl piniwn deddf iaith

Roeddwn i wedi cael hwyl ar wrando ar raglen Rebecca Jones ar Radio Cymru y bore ‘ma, yn enwedig ei chyfweliad gyda Jill-Hailey Harries, gweinidog gyda’r Annibynwyr, ynglŷn â phriodas a phriodi fel fy mod wedi mynd i deimlo’n hunan-fodlon. Yna’n sydyn fe gefais fy nihuno gan gyhoeddiad ar y Newyddion fod arolwg barn yn [...]

Thomas Cook eto

Mae’r ymgyrch i gael cwmni Thomas Cook i newid eu polisi iaith yn dal i fynd yn ei blaen. Ddydd Gwener nesaf, 15 Mehefin 2007, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio tu fas i siop y cwmni ym Mangor. Os nad wyt ti’n siwr ble mae’r siop dylai’r map hwn fod o help. Dyma [...]

Achos Thomas Cook

Bues i bron â thagu dros fy nghreision ŷd y bore ‘ma. Yr oeddwn i’n gwrando ar newyddion Radio Cymru am 7.00am ac roedd ‘na gyfweliad gyda Meri Huws, cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Y rheswm dros gynnal cyfweliad gyda chadeirydd y Bwrdd oedd achos cwmni Thomas Cook yn gwahardd aelodau o staff rhag trafod [...]

Gŵyl Fawr Deddf Iaith Newydd

Pala yn canu ar ddechrau’r ŵyl
Fel y dywedais i roeddwn i mewn bydysawd cyfochrog ddoe. I mi nid Cwpan y Byd 2006 oedd y realiti, ond yn hytrach sefyllfa’r Gymraeg wrth imi fod yn un o’r cannoedd a ddaeth ynghyd yng Ngŵyl Fawr Deddf Iaith Newydd a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y [...]

Gŵyl Fawr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Deddf Iaith Newydd gan Sleepflower.
Dwi wedi derbyn neges gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfer holl ddarllenwyr Blog Dogfael yn sôn am yr ŵyl fawr dros ddeddf iaith newydd sydd i’w chynnal ddydd Sadwrn. Dwi’n bwriadu bod yn yr ŵyl a’m gobaith i yw y bydd cymaint â phosib [...]

Deddf iaith newydd

Diwrnod cyfan o gynhadledda dros ddeddf iaith newydd ddydd Sadwrn. Ond cyn hynny cyfle i alw mewn yn y Caban yn blygeiniol gynnar er mwyn cael coffi, sgwrs a phwyllgor gydag Elwyn. Mae ymgyrch yr etholiad cyffredinol bron â chyrraedd ac mae’n rhaid trefnu dosbarthu taflen rhag-etholiadol. Ond bu cyfle hefyd i darfod nifer o [...]