Archifau categorïau: Cymraeg

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-04

Dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i adnabod dinas a’i dofi wrth ddeall ei sustem drafnidiaeth. Felly wedi i’r cyfeillion fynd am yr eisteddfod fe es i ati i geisio deall bysus Caerdydd a sut i gyrraedd ble’r oeddwn i am ei gyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithlon a rhataf. Wedi chwilio a darllen [...]

Eisteddfod yn y ddinas (4) 2008-08-02

Wrth i ni ddychwelyd i Neuadd Victoria roedd dau eisteddfodwr blinedig ond brwd yn disgwyl amdanom – DJP a DML. Wel, DJP oedd ynn disgwyl amdanom, a DML yn gorffwys wedi diwrnod caled o waith ar stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y maes. Roedd DJP yn gwylio criced ar y teledu yn y gegin. [...]

Urdd “Gwyrdd”

Amser cinio ddoe fe fues i’n glust-dyst i un o’r dadleuon difyrraf i mi eu clywed ar Taro’r Post Radio Cymru erioed. Y ddau yn dadlau oedd y Dr Bruce Griffiths, un o olygyddion Geiriadur yr Academi, ac Efa Gruffudd Jones (am ryw reswm dwi wastad am ychwanegu ‘Llanddowror’ at ei henw!), prif weithredwr Urdd [...]

Gwefan Gymunedol Trefeurig

Neithiwr fe fues i mewn digwyddiad difyr iawn yn neuadd Ysgol Penrhyn-coch, sef lansiad gwefan gymunedol Trefeurig. Mae’r wefan wedi’i geni fel rhan o broject cymunedol Pwerdai Ceredigion. Mae cynllun Y Pwerdai yn brosiect arloesol ar y cyd rhwng Cered a Theatr Felin-fach, ac yn ymgais “i ymateb yn gadarnhaol a chreadigol i’r ffactorau hynny [...]

Ymweld ag Aalst (5)

Wedi diwrnod llawn iawn yn Aalst daeth yn amser i fynd yn ôl i Frwsel ac felly cyn gadael dyma alw am goffi ym mar Bergenhof gyferbyn â’r orsaf. Roeddwn i wedi dod â llyfr yn anrheg i Liesbeth, gramadeg y Gymraeg, ac wrth imi estyn y llyfr iddi fe sylwodd y rheolwr arno a [...]

Marian Delyth ‘Yr ail filltir’

Dwi wedi treulio’r nos yn lapio anrhegion Nadolig. Nid bod llawer i’w wneud ond mae lapio’n broses sy’n cymryd llawer o amser i’w wneud yn hanner iawn. Rhaid mesur y papur yn weddol ofalus ac osgoi ei dorri a rhaid dod o hyd i’r ffordd iawn o lapio anrhegion o’r siâp anghywir. Cymaint y gwaith [...]

Erthygl am John Fitzgerald yn Golwg

Roedd ‘na erthygl am John FitzGerald yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon. Doedd hi ddim yn erthygl hir iawn, ond yr hyn oedd yn ddiddorol am yr erthygl oedd sylwadau Daniel Huws oedd yn cael eu dyfynnu fel rhan o’r erthygl. Mae pawb yn gwybod fod John, ar ôl bod yn Aberystwyth am ddeugain [...]

Emma Reese yng Nghymru

Ers rhyw fis bellach mae Emma Reese wedi bod yn adrodd hanes ei hymweliad â Chymru ar ei blog Fel y moroedd. Mae’n ddiddorol iawn gweld sut mae hi yn ein gweld ni, y wlad, a sut brofiad yw hi i fod yn rhywun sy’n dysgu Cymraeg ac yn ceisio siarad yr iaith gyda phobl. [...]

Y Lolfa yn hysbysebu’n Saesneg yn Y Cymro!

Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn i wedi sylwi ar hyn nes i rywun dynnu fy sylw ato. Yn Y Cymro yr wythnos hon mae ‘na hysbyseb gan wasg y Lolfa ar gyfer un o’i llyfrau newydd ar y tudalen blaen, sef hunangofiant y darlledwr di-gymar Chris Needs, Like it is. Gwych o beth, mae e’n [...]

Arwydd yn Aberystwyth

Wrth gerdded trwy’r dref heno fe sylwais ar yr arwydd hwn tu fas i’r hen Central sydd nawr wedi’i ail-enwi unwaith eto (os yw hynny’n bosib); yr enw newydd yw Salt. Mae’n amlwg eu bod nhw wedi ymddiried y gwaith o gyfieithu’r arwydd am y surveillance camera yn yr hon arwynebedd i arbenigwr go iawn!

Gwawr Casnewydd

Dwi newydd wylio rhaglen wych yn y gyfres Wynebau newydd (Telesgôp) ar wefan S4C. Roedd y rhaglen wyliais i yn adordd hanes pedair myfyrwraig o Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl, sy’n ymuno â changen Merched y Wawr Casnewydd. Roedd y rhaglen Gwawr Casnewydd yn rhoi cipolwg inni beth ar beth oedd effaith hynny ar Ferched y [...]

Blog newydd arall eto

Newydd ddod o hyd i flog newydd arall. Mae’n cuddio y tu fewn i wefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oherwydd blog cadeirydd y Gymdeithas yw hwn, sef Hywel Griffiths. Mae wedi bod yn blogio ers dechrau mis Mai, ond dim ond heddiw welais i’r peth am y tro cyntaf. Mae newydd flogio am fod ar [...]

Pôl piniwn deddf iaith

Roeddwn i wedi cael hwyl ar wrando ar raglen Rebecca Jones ar Radio Cymru y bore ‘ma, yn enwedig ei chyfweliad gyda Jill-Hailey Harries, gweinidog gyda’r Annibynwyr, ynglŷn â phriodas a phriodi fel fy mod wedi mynd i deimlo’n hunan-fodlon. Yna’n sydyn fe gefais fy nihuno gan gyhoeddiad ar y Newyddion fod arolwg barn yn [...]

Swper gydag Emma Reese

Neithiwr, wedi’r holl drafod yn yr Ysgol Haf, roedd gen i waith pleserus iawn – cyfarfod gydag Emma Reese ym Mhlas Gwyn er mwyn cael swper. Mewn un ffordd roedd y peth yn un ochrog, roedd Emma yn gwybod tipyn go lew amdana i, a finnau’n gwybod y nesaf peth i ddim amdani i. Ond [...]

Cyfarfod gydag Emma Reese

Dwi’n dal i fod mewn sioc oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd y bore ‘ma. Oni bai i hyn ddigwydd i mi fuaswn i’n ei chael hi’n anodd iawn i gredu yr hyn a ddigwyddodd. Yr oeddwn i wedi codi’n gynnar i gael brecwast er mwyn ceisio osgoi bod yn y ffreutur yr un adeg â 400 [...]

Thomas Cook eto

Mae’r ymgyrch i gael cwmni Thomas Cook i newid eu polisi iaith yn dal i fynd yn ei blaen. Ddydd Gwener nesaf, 15 Mehefin 2007, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio tu fas i siop y cwmni ym Mangor. Os nad wyt ti’n siwr ble mae’r siop dylai’r map hwn fod o help. Dyma [...]

Achos Thomas Cook

Bues i bron â thagu dros fy nghreision ŷd y bore ‘ma. Yr oeddwn i’n gwrando ar newyddion Radio Cymru am 7.00am ac roedd ‘na gyfweliad gyda Meri Huws, cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Y rheswm dros gynnal cyfweliad gyda chadeirydd y Bwrdd oedd achos cwmni Thomas Cook yn gwahardd aelodau o staff rhag trafod [...]

Sylwadau ‘annerbyniol’

O’r diwedd mae blog Vaughan Roderick wedi’i ail enwi yn swyddogol yn Blog Vaughan Roderick – llongyfarchiadau iddo ar gael blog wedi’i enwi ar ei ôl! Er ei fod ar ei wyliau mae ganddo amser i flogio; mae’n rhaid ei fod yn cael y peth yr un mor gaethiwus â chyffur. Heddiw mae wedi dod [...]

Wierdoflog, Prifysgol Cymru a Choleg Ffederal Cymraeg

Mae unrhyw sefydliad sy’n llwyddo i wneud i Geraint Jones (Geraint Twm), Trefor i ymddangos yn rhesymol a chymedrol yn haeddu rhyw fath o gydnabyddiaeth ar Flog Dogfael. Wel, dwi wedi gwylio’r wyrth honno’n digwydd ar rifyn yr wythnos hon o’r rhaglen deledu Y byd ar bedwar a’r sefydliadau anrhydeddus oedd yn gyfrifol am wneud [...]

Trwyddedu Teledu yn ymateb

O’r diwedd dwi wedi cael ateb cwrtais oddi wrth Trwyddedu Teledu, ond yn anffodus dwi ddim yn medru gwneud pen na chwt o beth mae’n ei olygu. Mae’n edrych yn debyg y bydd hi’n rhaid i mi weld y drwydded ei hun i weld a yw fy nghyfeiriad yn Gymraeg neu’n Saesneg neu’n ddwyieithog!

Annwyl Dogfael
Diolch [...]