Archifau categorïau: Seisnigrwydd

Y Lolfa yn hysbysebu’n Saesneg yn Y Cymro!

Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn i wedi sylwi ar hyn nes i rywun dynnu fy sylw ato. Yn Y Cymro yr wythnos hon mae ‘na hysbyseb gan wasg y Lolfa ar gyfer un o’i llyfrau newydd ar y tudalen blaen, sef hunangofiant y darlledwr di-gymar Chris Needs, Like it is. Gwych o beth, mae e’n [...]

Integreiddio a chydlyniad

Un peth dwi’n ei fwynhau wedi bod i ffwrdd yw edrych ar hen bapurau newydd. Wrth edrych ar hen bapur does dim mo’r pwysedd ar ddyn i fynd trwyddo a sicrhau ei fod yn bwrw golwg dros bopeth. Yn hytrach rydych chi’n cael amser i hamddena a meddwl ychydig yn rhagor dros lai o erthyglau. [...]

Senedd yr Alban (2)

Y peth syfrdanol yn fy marn i am adeilad Senedd yr Alban yw nid ei bod hi wedi costio £431 miliwn i’w adeiladu, ond y ffaith iddo gael ei godi o gwbwl. Mae angen i unrhyw un sy’n digalonni oherwydd diffygion Llafur Newydd gofio gaeaf tywyll 1978-1979, y refferenda ar ddatganoli yng Nghymru a’r Alban, [...]

“We’re all thrilled”

Yn fy marn i pan fo rygbi a’r teulu brenhinol yn dod at ei gilydd mae’n rysáit perffaith ar gyfer cyfog. Felly ni ddylai fod yn syndod i neb fod y cyhoeddiad diweddar fod William Dywysog yn mynd i fod yn is-noddwr Undeb Rygbi Cymru heb gael llawer o groeso ym Mhlas-yn-Dogfael. Dyma ymateb gwenieithus [...]

Cerdd gan Dogfael ar achlysur cyhoeddi ‘Dim ond deud’

Fel bardd sydd wedi dod o hyd i’w lais barddol yn Saesneg byddaf yn teimlo’n fach ac yn ddi-nod iawn pan yn sefyll wrth ochr prifardd fel DJP. Mae’r baich o fod yn Gymro sy’n fardd sy’n gorfod barddoni’n Saesneg bron yn ormod i’w gario ar brydiau. Yn ddiweddar mewn arddangosfa o ffotograffau gan Rhodri [...]

“Ni chaiff Cymro fod yn brif weinidog Prydain byth eto”

Dyna’r fath o newydd sy’n codi fy nghalon i. O’r diwedd bydd yn rhaid i blant Cymru fodloni ar geisio bod yn brif weinidogion eu gwlad eu hunain o hyn allan. Dyw’r peth ddim yn ddeddf eto, ond mae’n ymddangos fod y Torïaid yn dod yn agos at greu rheol debyg. Iddyn nhw mae’n ffordd [...]

Y faner yn dal i hedfan

Diolch i’r canlyniad yn erbyn Ecuador mae baner Lloegr yn dal hedfan yng Nghwpan y Byd. Roedd ‘na rai baneri, crysau-T, &c. o gwmpas ddydd Sul, ond yn llai na’r hyn roeddwn i wedi’i ddisgwyl. Heddiw fe welais i gar yn gyrru heibio gyda baner Lloegr a baner Cymru yn chwifio o’r to. Yn anffodus [...]