Un o’r rhesymau dros fynd i ddwyrain Llundain oedd i gael golwg ar safle adeiladu’r Gêmau Olympaidd yn ardal Stratford. Mae’r llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gwario biliynau ar baratoi ar gyfer y gêmau – ac er bod y rhan fwyaf o’r gwario yn digwydd mewn un cornel bach o Lundain mae’r gwario yn cael [...]
Diolch am y sylw, Emma. Roedd hi’n noson wych yn Aberteifi ac roeddwn i’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i fynd. Roedd yr awyrgylch yn un braf ac roedd hi’n amlwg fod llawenydd enillydd y goron yn cael ei rannu gan y bobl oedd wedi dod ynghyd. Fe ganodd un o’r cyfarchwyr, [...]
Dwi newydd ddychwelyd o Aberteifi lle bues i mewn noson berffaith o ddiddanwch pur. Roedd y gymuned yn Aberteifi yn talu teyrnged i’r prifardd Ceri Wyn Jones am iddo ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn yr haf. Roedd yr ystafell fawr yng nghlwb rygbi Aberteifi yn llawn o feirdd a cherddorion a [...]
Dyfyniad o stori yn yr Independent on Sunday fod y BNP yn gwerthu nwyddau gyda lluniau o William Wallace ac Owain Glyn Dŵr arnynt er mwyn hybu eu plaid.
Another statue of Glyndwr stands in the Princes’ Memorial Garden in St Peter ad Vincula Church in Pennal. Rev Geraint ap Iorwerth said Glyndwr would be “turning [...]
Dros y penwythnos a aeth heibio cefais i brofiad amheuthun o gyfarfod a thrafod sefyllfa’r Gymraeg a Christnogaeth yng Nghymru gyda’r Parchedig Bill Roberts. Ar yr olwg gyntaf mae hynny’n swnio fel penwythnos arferol a chyffredin – ond yr hyn a oedd yn wahanol yw fod Bill Roberts yn rheithor Eglwys Esgobol S. Gregory yn [...]
Nid yw sefydliadau diwylliannol yn cael lle mawr mewn trafodaethau gwleidyddol strategol, ond dro ar ôl tro mewn hanes mae’r sefydliadau yma yn cael eu hunain yng nghanol brwydrau geiriol a milwrol. Er nad yw’n ymddangos fel ‘ny bob amser mae sefydlu llyfrgell, amgueddfa ac archifdy cenedlaethol yn ganolog ym mywyd cenedl neu wladwriaeth. Dyma’r [...]
Wedi ein hymweliad â Sempringham fe aeth Nan a Nigel â ni i’r Old Ship Inn, Pointon i gael cinio. Tra’r oedden ni yno fe gawsom gyfle i weld y llyfrau ymwelwyr y mae’r ddau yn gofalu amdanynt. Roedd ‘na bethau diddorol iawn ynddynt, ond efallai yr un a wnaeth i mi wenu fwyaf oedd [...]
Dwi’n ofni i ddweud fod dydd Mawrth wedi hala cymaint o ofn arna i fel fy mod wedi credu’r BBC pan ddywedon nhw fod mwy o law i ddod dydd Mercher ac heb fynd i faes yr eisteddfod. Nawr mae’r bobol sy’n fy adnabod i yn gwybod nad oes angen rhyw lawer i wneud imi [...]
Er gwaetha’r glaw mae ‘na un llygedyn o heulwen wedi tywynnu i mewn i’n bywydau yn Neuadd Buddug. Mae brwydr y sianel wedi’i hennill! Wedi inni ddychwelyd o borfeydd gwlyb Caerffili fe aeth RO ati i weld beth oedd ar y teledu, ac O ryfeddod! ar sianel 15 roedd S4C Digidiol yn ei holl ogoniant. [...]
Does yr un eisteddfod yn haeddu glaw. Dwi’n dweud hynny o brofiad fel un oedd ar rai o bwyllgorau Eisteddfod Abergwaun yn 1986. Fe weithiodd trigolion yr ardal yn galed iawn er mwyn cael rhywun fel Gwilym Owen i gerdded rownd y maes yn datgan yr amlwg: sef bod pridd a dŵr yn creu mẁd. [...]
Neithiwr fe fues i mewn digwyddiad difyr iawn yn neuadd Ysgol Penrhyn-coch, sef lansiad gwefan gymunedol Trefeurig. Mae’r wefan wedi’i geni fel rhan o broject cymunedol Pwerdai Ceredigion. Mae cynllun Y Pwerdai yn brosiect arloesol ar y cyd rhwng Cered a Theatr Felin-fach, ac yn ymgais “i ymateb yn gadarnhaol a chreadigol i’r ffactorau hynny [...]
Mae gwynt y gwanwyn a gwynt y môr yn llenwi fy ffroenau yn Aberystwyth ac mae fy meddwl yn troi tuag at ein traddodiadau gorau ni fel cenedl – cerddoriaeth. A hithau’n dymor eisteddfodau cylch a sir Urdd Gobaith Cymru ni allwn i wneud dim ond canu. Felly, yn dilyn ar fy albwm Nadolig llwyddiannus [...]
Dwi wedi treulio’r nos yn lapio anrhegion Nadolig. Nid bod llawer i’w wneud ond mae lapio’n broses sy’n cymryd llawer o amser i’w wneud yn hanner iawn. Rhaid mesur y papur yn weddol ofalus ac osgoi ei dorri a rhaid dod o hyd i’r ffordd iawn o lapio anrhegion o’r siâp anghywir. Cymaint y gwaith [...]
Dwi’n ofni fy mod yn dal i feddwl am y London Stone. Doeddwn i erioed wedi clywed am y peth o’r blaen nes imi fynd i St Swithins Lane, ac er na chefais hyd i gofeb Catrin ferch Owain Glyn Dŵr dwi’n credu fod darganfod y garreg hon yn gwneud iawn am hynny. Yn [...]
Dwi’n gwybod fy mod yn adrodd hanes fy ngwyliau haf yn ddarniog iawn, ond mae cymaint o bethau eraill i sylwi arnynt y dyddiau hyn. Ddoe, er enghraifft, cynhaliwyd angladd Ray Gravell ym Mharc y Strade, Llanelli. Y peth agosaf i angladd wladol i’w chynnal ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol gyda’r Prif weinidog Rhodri Morgan yn [...]
Dwi newydd wylio rhaglen wych yn y gyfres Wynebau newydd (Telesgôp) ar wefan S4C. Roedd y rhaglen wyliais i yn adordd hanes pedair myfyrwraig o Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl, sy’n ymuno â changen Merched y Wawr Casnewydd. Roedd y rhaglen Gwawr Casnewydd yn rhoi cipolwg inni beth ar beth oedd effaith hynny ar Ferched y [...]
Des i ar draws un fenter ddiddorol yng nghanol y llif o syniadau sydd wedi dod oddi wrth Gordon Brown a’i lywodraeth newydd dros y dyddiau diwethaf. Ymhlith y cynigion ar gyfer newid cyfansoddiadol mae adran ar newid y rheoliadau (ynteu’r ddeddf) er mwyn caniatau i faner yr undeb gael ei hedfan yn fwy aml [...]
Bues i bron â thagu dros fy nghreision ŷd y bore ‘ma. Yr oeddwn i’n gwrando ar newyddion Radio Cymru am 7.00am ac roedd ‘na gyfweliad gyda Meri Huws, cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Y rheswm dros gynnal cyfweliad gyda chadeirydd y Bwrdd oedd achos cwmni Thomas Cook yn gwahardd aelodau o staff rhag trafod [...]
O’r diwedd mae blog Vaughan Roderick wedi’i ail enwi yn swyddogol yn Blog Vaughan Roderick – llongyfarchiadau iddo ar gael blog wedi’i enwi ar ei ôl! Er ei fod ar ei wyliau mae ganddo amser i flogio; mae’n rhaid ei fod yn cael y peth yr un mor gaethiwus â chyffur. Heddiw mae wedi dod [...]
Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael