Blog Dogfael» Heb ei dagio

Dydd Calan cartrefol yn Anderlecht, 2007-01-01
Dim ond tro bach mas heddiw rownd canol Anderlecht. Ac fe wnaeth un peth fy nharo i wrth imi wylio baner Anderlecht yn chwifio wrth y gofeb ryfel; petai Merched y Wawr yn penderfynu symud eu pencadlys o Aberystwyth yna Anderlecht fyddai’r lle perffaith iddyn nhw ddewis gan fod Anderlecht a’r mudiad yn rhannu’r un lliwiau – glas golau a melyn. Mae unrhyw un sydd wedi bod yng Nghanolfan Merched y Wawr yn gyfarwydd iawn â’r lliwiau hynny, a dyna baratoad da ar gyfer Anderlecht.

<object width="425" height="350"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/QQQg9iokHds"></param><param name="wmode" value="transparent"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/QQQg9iokHds" type="application/x-shockwave-flash" wmode="transparent" width="425" height="350"></embed></object>

Gwahoddiad, 2006-12-28
Heno fe gefais i wahoddiad i ymweld â fy landlordiaid. Maen nhw’n gwpwl diddorol ac fe ddysgais ychydig yn fwy amdanyn nhw wrth sgwrsio tros lasiad o gwrw abaty. Cafodd Mme Dieu ei geni yn y Congo lle’r oedd ei thad yn swyddog cyfreithiol. Bu’r teulu yn mudo rhwng Gwlad Belg a fan ‘ny hyd nes yr enillodd y Congo ei hannibyniaeth yn 1960. Wedyn bu’n astudio ym mhrifysgol Leuven pan roedd y protestiadau iaith ar eu hanterth ac un o’r pethau yr oedd hi’n gyfrifol am ei wneud oedd didoli llyfrau llyfrgell y brifysgol pan sefydlwyd prifysgol Ffrangeg Louvain-le-Neuve. Aed trwy casgliad cyffredinol y llyfrgell bryd hynny gan rannu’r llyfrau rhwng y ddwy brifysgol. Hanes difyr iawn. Yr oeddwn wedi dysgu tipyn am M. Dieu yn gynt, ond fe gefais wybod bod ganddo gysylltiadau â Gwlad Pwyl oherwydd i deulu ei fam ddod oddi yno wedi rhyfel 1939-1945.

Roeddwn wedi rhoi CD Sian James iddyn nhw yn anrheg Nadolig ac arweiniodd hynny i drafodaeth am gerddoriaeth Geltaidd a ches wybod eu bod nhw’n cymryd eu gwyliau yn gyson yn Llydaw ac yn arbennig yn ardal Lannuon. Aethon ni yn ein blaenau i drafod gwleidyddiaeth iaith Gwlad Belg ac fe wnaethon nhw fy holi pam fy mod i mor hoff o’r lle. A dyma fi’n esbonio am ddwyieithrwydd rhyfeddol Brwsel a phan wnes i ddweud am enwau’r gorsafoedd ar y metro a’r hyn oedd yn digwydd yng Nghymru (Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taff) fe ddechreuon nhw ddeall beth oedd yn fy nenu!

Gwibdaith i Lerpwl a Bangor 2006-08-22 (3)
“Ferry ‘cross the Mersey”

O’r Pier Head mae’r llong fferi enwog yn hwylio i Ben-bedw, neu i Seacombe i fod yn fanwl gywir. A dyna oedd bwriad RO a minnau nesaf. Yr oeddem ar gychwyn ar antur ein bywydau, pererindod seciwlar i fan geni John Saunders Lewis. Ond i gyrraedd y fangre honno roedd yn rhaid croesi’r afon ac felly fe’n cludwyd ni rhan o’r ffordd i’n ‘mecca’  ar y fferi a hynny i gyfeiliant disgwyliedig Gerry and the Pacemakers . Ond roedd y broses o gael ar y fferi yn llawer mwy cymhleth a hir na’r daith. Yn y lle cyntaf yr oedd y lanfa arferol yn cael ei hailadeiladu ac fe gawsom ein gyrru ar hyd llwybr oedd yn ymddangos yn filltiroedd o hyd nes cyrraedd y lanfa dros dro. Diolch byth fod y tywydd yn braf a bod y ddau ohonom mewn hwyliau da. Ar ôl disgwyl mewn cwt o gannoedd am rhyw chwarter awr dyma’r fferi yn dod i’r lan. Roedd hi’n edrych yn rhy fach i gymryd y torfeydd oedd ar y lan, ond yn raddol wrth iddi wagio fe ddaeth yn amlwg fod gan y llong rhai o hanfodion y Tardis – sef y gallu i gynnwys llawer mwy o bobol na fuasech yn ei gredu o’i golwg.

Ar ôl yr holl ddisgwyl a’r aros roeddwn i wedi fy nghynhyrfu’n lân wrth fynd ar y fferi ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn i reoli fy hunan! Roedd popeth mor ddiddorol a gwahanol. Roeddem ni’n cael teithio ar y fferi fel rhan o’n tocyn teithio diwrnod ac roedd y daith ar draws afon Merswy yn cymryd rhyw awr gan ein bod yn mynd am wibdaith ar hyd y glannau. I fyny ar ochr Lerpwl yr afon i ddechrau heibio i’r hen ddociau a’r rhai newydd ac yna croesi’r aber heibio i New Brighton ac yna i Seacombe. Wrth inni deithio roedd ‘na sylwebaeth gyson yn nodi dweud beth roedden ni’n ei weld a beth oedd hanes y pethau hynny. Roeddwn i wrth fy modd, ac wrth inni gychwyn dyma nhw’n chwarae cân Gerry and the Pacemakers, Ferry cross the Mersey yn uchel trwy’r llong i gyd. Gwych!

<object width="425" height="350"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/y7UE1ElnSjg"></param><param name="wmode" value="transparent"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/y7UE1ElnSjg" type="application/x-shockwave-flash" wmode="transparent" width="425" height="350"></embed></object>

Ar ran gyntaf y daith yr oeddem yn dilyn y lan ddwyreiniol ac yn mynd heibio i hen ddociau Lerpwl. Ond er eu bod yn hen mae llawer ohonyn nhw’n dal i gael eu defnyddio. Ar ochr Lerpwl i’r afon ceir dros saith milltir o ddociau – mae’r dociau i’r de o’r Pier Head, fel yr Albert Dock a’r Canning Dock, wedi’u llenwi neu’n atynfeydd twristaidd. Ond i’r gogledd o’r Pier Head mae nifer ohonyn nhw yn dal i fod yn dramwyfa i drafnidiaeth a masnach, yn enwedig ym mhorthladd cymharol newydd Seaforth sy’n agos i’r môr. Tyfodd porthladd Lerpwl ar sail y fasnach mewn caethweision. Dechreuodd y fasnach honno yn 1700, erbyn 1744 roedd dros hanner y llongau oedd yn masnachu mewn caethion yn dod o Lerpwl; erbyn diwedd y ganrif amcangyfrifid bod Lerpwl yn rheoli 60% o’r fasnach Brydeinig, a hynny yn 40% o’r fasnach Ewropeaidd. Credir i 1.5 miliwn o gaethion gael eu cludo o Affrica i’r America gan longau Lerpwl. Mae dod i delerau â hynny yn anodd ac mae’r broses yn dal i fynd yn ei blaen.

Wrth i’r porthladd dyfu a thyfu cafodd miloedd eu denu i weithio yno ac yn eu plith hwy nifer fawr o Gymry. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y gwelwyd y nifer fwyaf yn symud yno, o’r gogledd yn bennaf, i weithio. Yr oedd llawer o’r dynion yn gweithio yn y dociau, ond roedd nifer fawr hefyd yn cael gwaith yn adeiladu’r tai oedd yn codi ym mhob man er mwyn cynnig cartrefi i’r boblogaeth oedd yn tyfu’n gyson. Wrth i’r Cymry dyfu’n fwy llewyrchus yr oeddent gwella eu byd ac roedd nifer fawr o deuluoedd, rhai cyfoethog iawn yn ôl safon yr hen wlad, yn galw am wasanaeth morynion Cymreig a dyna oedd yn denu’r menywod i’r ddinas. Hyd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd cael morwyn neu ddwy neu hyd yn oed dair ddim yn beth anghyffredin iawn – doedd dim o’r cynorthwyon sydd gennym ni i wneud gwaith tŷ, roedd yn rhaid i bopeth gael ei wneud â llaw. Fel mewnfudwyr eraill yr oedd y Cymry yn dueddol o fyw yn yr un ardaloedd ac yn raddol roedd y llefydd hynny yn troi yn ardaloedd Cymraeg yn ogystal â Chymreig gyda’r holl sefydliadau a’r arferion Cymraeg arferol yn cael eu cynnal. Y pennaf yn eu plith oedd crefydd, ond stori arall yw honno ac fe gaiff ei hadrodd.

Nid y Cymry oedd yr un bobol i ddod o hyd i gartref yn Lerpwl, fe ddenodd y ddinas rai yn chwilio gwaith o bob man. Yr amlycaf yn eu plith oedd y Gwyddelod a’r Tsieiniaid. Mae’n rhyfedd pa fath o gymdeithasau y mae dinasoedd yn eu cynhyrchu. Yma roedd Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yn byw ac yn gweithio gyda Phabyddion a Chonfwsiaid, a’r cwestiwn sy’n codi yn fy meddwl i yw a oedd rhai o’r “cenhadon hedd” ar lannau Merswy ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn taro mewn i’r take-away lleol am borc surfelys gyda reis ar ôl dod adref o’r cwrdd gweddi ar nos Iau!

Taith i Glasgow 2006-07-16 (2)
Efallai na wnes i gyrraedd o fewn i ddrysau Tŷ Dduw y bore ‘ny, ond fe fues i’n agos iawn i Deml Mamon, neu’r Buchanan Galleries, fel mae’n cael ei galw yn Glasgow. Wedi troi yn ôl o fy siwrnai seithug i Eglwys S. Silas, dyma neidio ar y trên yng ngorsaf Charing Cross a chyrraedd gorsaf Queen Street o fewn dim o amser a chrwydro’n hamddenol tuag at y Galleries gyda’u degau o siopau cadwyn tebyg i bob canolfan siopa arall ym Mhrydain. Ni sylwais ar unrhyw siop oedd yn wahanol yno.

Ond doeddwn i ddim yn bwriadu aros yn hir ‘ta beth oherwydd yr oeddwn i wedi penderfynu na fuaswn yn mynd i New Lanark nac i weld Senedd yr Alban wedi’r cyfan. Wrth gyrraedd y gwesty nos Sadwrn fe ddarllenais fod oriel ac amgueddfa Kelvingrove wedi ail-agor ar ôl bod ar gau am dair blynedd y dydd Mawrth cynt. Dyma gyfle yr oedd yn rhaid manteisio arno. Roeddwn wedi dod mewn i’r canol er mwyn mynd ar y metro i Kelvingrove.

Taith i Glasgow 2006-07-16 (1)
Roedd bore dydd Sul yn wers am beryglon enwadaeth. Dwi’n teimlo’n cywilydd wrth adrodd yr hanes nawr, ond fel eglwyswr da, roeddwn i wedi bwriadu mynd i wasanaeth yn Eglwys Esgobol yr Alban y bore ‘ny. Ond nid oes cymaint â hynny o eglwysi esgobol yn Glasgow. Felly, cyn mynd roeddwn wedi edrych ar wefan Esgobaeth Unedig Glasgow a Galloway ac wedi gweld taw Eglwys St. Silas, Woodlands oedd yr ‘agosaf’. Roeddwn i wedi cymryd map gyda fi i ddangos y ffordd i’r lle. Felly bant â fi ar fy nhaith gan fynd heibio i nifer o eglwysi eraill (Eglwys yr Alban, Eglwys Rydd yr Alban, Bedyddwyr) roeddwn i’n bedant fy mod yn mynd i ddod o hyd i eglwys esgobol. Ond aflwyddiannus fu’r ymdrech – wedi cerdded am ryw ugain munud roedd hi’n ymddangos ‘mod i wedi cyrraedd rhyw hanner ffordd. Yn y diwedd dyma droi am ‘nôl mewn anobaith. Fe ddylswn i fod wedi mynd i chwilio amdani’r noson cynt i weld pa mor bell oedd hi mewn gwirionedd o’r gwesty (mae mapiau yn medru bod mor dwyllodrus!) neu’n hytrach fe ddylwn i fod wedi bod yn ddigon ecwmenaidd i alw mewn yn un o’r eglwysi eraill. Rwyf wedi dysgu fy ngwers bellach.

God save the prince of Wales!
Dyw rhai pethau ddim yn newid. Mae’r gaeaf yn oer, mae’r haf yn gynnes, ac mae pobol Cymru yn caru y Tywysog a Duges Cernyw. Dim ond sticio teitl brenhinol ar unrhyw un ac fe fydd pobol y dywysogaeth fel gweddill y deyrnas ond yn rhy barod i syrthio o’u blaenau mewn parchedig ofn. Gyda’r holl newidiadau eraill mewn bywyd mae’n dda fod pethau fel hyn yn aros yr un fath. Mae ‘na rai gwerthoedd na ellir mo’u hepgor na’u hanwybyddu. Mae eu ffraethineb a’u harabedd y tu hwnt i’n deall ni feidrolion.

Later they [Charles a Camilla] moved on to Rhossili Village Hall where the couple met a series of groups on Gower and were entertained by a harpist.

But when he [Charles] unveiled a plaque and examined the spelling of Rhossili he found it was wrong.

The name of the village, on the English version of the bilingual plaque, had been spelled with two Ls. The prince joked the village was now “Rhossilli” as in “Llanelli”.

Yn ddiddorol iawn yn Sir Benfro, wrth ymweld â chanolfan newydd Prince’s Trust Cymru yn Cleddau Reach, bu’n rhaid i’r Tywysog a Chamilla ymdopi â chwestiwn hunaniaeth drostynt eu hunain wrth orfod defnyddio catapwlt oedd yn cario baner Cymru yn ogystal â baner yr undeb. Dilema moesol os bu un erioed i Charles a Chamilla!

Beth mae DML yn ei wrando 2006-06-29
Os yw’r ford yn gyforiog o lyfrau mae’r peiriant CD bron â chyrraedd melt-down.  Dyma beth mae DML yn wrando ar hyn o bryd. Cymysgedd ddifyr o gerddoriaeth gyfoes a hiraethus.

Joan Baez, Hits/greatest & others. (Vanguard, 1986, 1973)

Roberta Flack, The very best of Roberta Flack. (Rhino, 2006)

Pet Shop Boys, Fundamental. (Parlophone, 2006)

Neil Young, Living with war. (Reprise, 2006)

1967-82: degawdau roc: pigion canueon roc Cymraeg. (Sain, 2004)

Pala, Meddwl yn ôl. (Sbrigyn Ymborth, 2006)

Peter, Paul and Mary, 10 (Ten) years together: the best of Peter, Paul and Mary. (Warner, 1970, 1999)

Baner Lloegr mewn trafferth … yn yr Alban
O dan y pennawd Vandals try to burn England flag mae gwefan newyddion y BBC yn adrodd hanes yr hyn a ddigwyddodd i faner S. Siôr yn Kirkcudbright, swydd Dumfries and Galloway. Mae’n ymddangos bod baneri nifer o wledydd yn hedfan yn y stryd fawr ond dim ond baner Lloegr a gafodd ei difa. Rhyfedd, on’dife?

Y disgwyliedig!
Os oedd agwedd gwraig y tacsi yn annisgwyl yna mae’r pwt hyn o’r Guardian heddiw yn gwbl ddisgwyliedig. Mae’n dod o erthygl o dan y pennawd “England fans warned against giving Nazi salutes in Nuremberg”. Dwi’n rhyfeddu at ddiniweidrwydd plismyn bellach.

Yesterday German police officers handed out pocket guides to thousands of England fans telling them that goose-stepping and plastic helmets would be tolerated, while Nazi salutes and SS insignia would not. Assistant chief constable Stephen Thomas, the officer in charge of the British police operation in Germany, said he was “personally disappointed” that England fans continued to sing war songs. “I think they should show more respect to our hosts but if they are sung in good humour we have to accept them and hopefully our German hosts can see the humour,” he said.

Tagiau Technorati: Cwpan y Byd 2006 | Lloegr | Rhyfel Byd, 1939-1945.

Yr annisgwyl
Taxi gan aristide.

Does dim sy’n well i’r ysbryd na chwa o awel iach yr annisgwyl. Nid sioc dwi’n cyfeirio ato, ond yr annisgwyl. Rhywbeth sy’n herio’ch disgwyliadau am berson neu sefyllfa arbennig. Cefais i’r profiad hwnnw gyda gyrrwr tacsi ddydd Sadwrn. Dwi’n gwybod nad oes neb sy’n fyw enwog am fod yn stereoteip na gyrrwyr tacsys. Mae eu profiad hir o ddarllen y Daily mail, Sun a’r Daily express ar y ranciau wedi pydru eu meddyliau i unffurfiaeth asgell-dde Prydeinig adweithiol. Felly dychmygwch y syndod o gael sgwrs am Gwpan y Byd a gobeithion Lloegr wnaeth orffen, “Let’s hope they don’t win. ‘Cos if they do we won’t hear the end of it.” Gobeithio na chafodd ei siomi’n ormodol gan y canlyniad. Tra bo gyrrwyr tacsys fel ‘na o gwmpas mae dal i fod rhyw obaith dros wareiddiad!

Tagiau Technorati: Cwpan y Byd 2006 | Lloegr | Tacsys.