Dim ond tro bach mas heddiw rownd canol Anderlecht. Ac fe wnaeth un peth fy nharo i wrth imi wylio baner Anderlecht yn chwifio wrth y gofeb ryfel; petai Merched y Wawr yn penderfynu symud eu pencadlys o Aberystwyth yna Anderlecht fyddai’r lle perffaith iddyn nhw ddewis gan fod Anderlecht a’r mudiad yn rhannu’r un [...]
Heno fe gefais i wahoddiad i ymweld â fy landlordiaid. Maen nhw’n gwpwl diddorol ac fe ddysgais ychydig yn fwy amdanyn nhw wrth sgwrsio tros lasiad o gwrw abaty. Cafodd Mme Dieu ei geni yn y Congo lle’r oedd ei thad yn swyddog cyfreithiol. Bu’r teulu yn mudo rhwng Gwlad Belg a fan ‘ny hyd [...]
“Ferry ‘cross the Mersey”
O’r Pier Head mae’r llong fferi enwog yn hwylio i Ben-bedw, neu i Seacombe i fod yn fanwl gywir. A dyna oedd bwriad RO a minnau nesaf. Yr oeddem ar gychwyn ar antur ein bywydau, pererindod seciwlar i fan geni John Saunders Lewis. Ond i gyrraedd y fangre honno roedd yn rhaid [...]
Efallai na wnes i gyrraedd o fewn i ddrysau Tŷ Dduw y bore ‘ny, ond fe fues i’n agos iawn i Deml Mamon, neu’r Buchanan Galleries, fel mae’n cael ei galw yn Glasgow. Wedi troi yn ôl o fy siwrnai seithug i Eglwys S. Silas, dyma neidio ar y trên yng ngorsaf Charing Cross a [...]
Roedd bore dydd Sul yn wers am beryglon enwadaeth. Dwi’n teimlo’n cywilydd wrth adrodd yr hanes nawr, ond fel eglwyswr da, roeddwn i wedi bwriadu mynd i wasanaeth yn Eglwys Esgobol yr Alban y bore ‘ny. Ond nid oes cymaint â hynny o eglwysi esgobol yn Glasgow. Felly, cyn mynd roeddwn wedi edrych ar wefan [...]
Dyw rhai pethau ddim yn newid. Mae’r gaeaf yn oer, mae’r haf yn gynnes, ac mae pobol Cymru yn caru y Tywysog a Duges Cernyw. Dim ond sticio teitl brenhinol ar unrhyw un ac fe fydd pobol y dywysogaeth fel gweddill y deyrnas ond yn rhy barod i syrthio o’u blaenau mewn parchedig ofn. Gyda’r [...]
Os yw’r ford yn gyforiog o lyfrau mae’r peiriant CD bron â chyrraedd melt-down. Dyma beth mae DML yn wrando ar hyn o bryd. Cymysgedd ddifyr o gerddoriaeth gyfoes a hiraethus.
Joan Baez, Hits/greatest & others. (Vanguard, 1986, 1973)
Roberta Flack, The very best of Roberta Flack. (Rhino, 2006)
Pet Shop Boys, Fundamental. (Parlophone, 2006)
Neil Young, Living [...]
O dan y pennawd Vandals try to burn England flag mae gwefan newyddion y BBC yn adrodd hanes yr hyn a ddigwyddodd i faner S. Siôr yn Kirkcudbright, swydd Dumfries and Galloway. Mae’n ymddangos bod baneri nifer o wledydd yn hedfan yn y stryd fawr ond dim ond baner Lloegr a gafodd ei difa. Rhyfedd, [...]
Os oedd agwedd gwraig y tacsi yn annisgwyl yna mae’r pwt hyn o’r Guardian heddiw yn gwbl ddisgwyliedig. Mae’n dod o erthygl o dan y pennawd “England fans warned against giving Nazi salutes in Nuremberg”. Dwi’n rhyfeddu at ddiniweidrwydd plismyn bellach.
Yesterday German police officers handed out pocket guides to thousands of England fans telling them [...]
Taxi gan aristide.
Does dim sy’n well i’r ysbryd na chwa o awel iach yr annisgwyl. Nid sioc dwi’n cyfeirio ato, ond yr annisgwyl. Rhywbeth sy’n herio’ch disgwyliadau am berson neu sefyllfa arbennig. Cefais i’r profiad hwnnw gyda gyrrwr tacsi ddydd Sadwrn. Dwi’n gwybod nad oes neb sy’n fyw enwog am fod [...]
Stori yn y Western mail heddiw am y rheilffordd o Aberystwyth i Birmingham. Dyw cynnwys y stori ddim yn newyddion mewn gwirionedd, ond mae’n ddiddorol nodi fod hyd yn oed rheolwr newydd Trenau Arriva Cymru, Bob Holland, yn gorfod cyfaddef: “It’s a difficult route. The long-term solution is working with Network Rail over the next [...]
Dwi’n gwybod ei fod yn hen, ond o’r diwedd dwi wedi dod o hyd i’r blog y clywais sôn amdano beth amser yn ôl. Blog sy wedi mentro dychanu Dogfael! Da iawn Dwyn mae angen gwneud hynny o gofio’r holl ddoethinebu difudd dwi’n ei wneud. Pam fy mod i meddwl fod neb am glywed beth [...]
Dwi ddim yn ddyn mawr am nofelau, ond mae ‘na un categori dwi eithaf hoff ohonyn nhw, sef ffuglen bydysawd cyfochrog, neu yn Saesneg, ‘parallel universe’. Mae’r Wikipedai yn disgrifo ffuglen bydysawd cyfochrog fel hyn, “Parallel universe or alternate reality in science fiction and fantasy is a self-contained separate reality coexisting with our own. This [...]
St George’s Flag, Easton, June 2006 gan maddog
Dyw e ddim yn obseiswn … eto! Mae ‘na erthygl yn y Guardian heddiw yn sôn am bresenoldeb baner S. Siôr ar strydoedd Lloegr. Mae’n dechrau:
England looks like one giant George Cross. It’s not just the myriad car flags and house flags flapping in the air. Even corporate [...]
Beth sy’n digwydd? Mae pobol yn dechrau cwyno o’r diwedd am chwifio baner Lloegr yng Nghymru ac mae’n troi yn ddadl. Yn ôl gwefan y BBC, dyna ddigwyddodd ym Mhenarth pan geisiodd crwt 11-mlwydd oed chwifio baner Lloegr o ffenest ei ystafell wely. Fe wnaeth un o’r cymdogion gwyno am hyn ac ar y cychwyn [...]
“It’s a party atmosphere, it’s a carnival, the Germans have made everybody welcome,” said Cristian Gladdish, from Canterbury, brandishing an inflatable World War Two Spitfire. Yahoo news.
Er nad oeddwn i wedi trefnu’r peth mewn gwirionedd fe ges i fy hun yn gwylio gêm agoriadol Cwpan y Byd 2006 yn nhafarn Varsity gyda RO. Roedd y [...]
Pan welais i’r cymylau tywyll hyn neithiwr a’r golau yn Stryd y Castell roedd yn rhaid imi dynnu llun. Dwi’n gobeithio’n fawr iawn y byddan nhw’n parhau yn gymylau llythrennol.
Tagiau Technorati: Ffotograffiaeth.
Mae ‘na lun ac englyn trawiadol iawn wedi ymddanogs ar wefan Annedd y cynganeddwyr ar y thema o faneri Lloegr yn cyhwfan yng Nghymru. Wedi’r hyn dwi wedi sylwi arno yn Aberystwyth mae Llion Jones yn datblygu’r thema mewn ffordd ddiddorol iawn.
Tagiau Technorati: Cwpan y Byd 2006 | Cymreictod | Seisnigrwydd.
Tagiau Technorati: Gwagedd.
Dwi’n gwybod nad yw’n beth aeddfed i’w wneud ac fe ddylai pobol fod goruwch y fath deimladau, ond mae presenoldeb cymaint o nwyddau a thrugareddau di-werth ar gyfer cefnogi tîm pêl-droed Lloegr yng Nghwpan y Byd 2006 yn cythruddo rhai pobol. Fe welais dystiolaeth o hyn gyda fy llygaid fy hun heddiw a hynny ar [...]
|
Llyfrau o Lyfrgell Dogfael
|
Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael