Blog Dogfael» Torïaid

Dadl arweinwyr y pleidiau Prydeinig
Mae rhai pethau yn fy hala i’n grac. Un o’r pethau hynny ar hyn o bryd yw’r ddadl arfaethedig rhwng arweinwyr y pleidiau yn ystod yr ymgyrch etholiadol nesaf ar gyfer San Steffan.

Y peth cyntaf sy’n fy hala i’n grac am y ddadl, neu’r gyfres o ddadleuon, yw ei bod yn digwydd o gwbl. Bu digon o gwyno tan yn ddiweddar iawn am y modd y mae’r prif weinidog a’r weithrediaeth wedi mynd â’r grym oddi wrth y ddeddfwrfa a’i osod i gyd o fewn i’w gafael ei hunain. Un o’r rhai mwyaf uchel ei groch ynglŷn â hyn fu David Cameron, arweinwyr y Torïaid, ac mae yntau ac aelodau o’i blaid wedi bod yn dadlau ei bod hi’n amser i ddychwelyd mwy o rym i Dŷ’r Cyffredin. A nawr dyma fe yn bodloni cymryd rhan mewn dadl sy’n trawsffurfio etholiad seneddol i un arlywyddol. Newid a fydd yn cryfhau llaw y prif weinidog a’i weithrediaeth ac yn gwanhau Tŷ’r Cyffredin yn bellach. Ond dwi ddim wedi disgwyl gwell gan y Torïaid erioed, ac mae hyn ond yn cadarnhau hynny.

Yr ail reswm dros fod yn grac gyda’r penderfyniad yw os oes rhaid cael y ddadl, yna fe ddylai fod yn ddadl deg. Ar hyn o bryd mae rhai pleidiau llai yn cael eu cau allan o’r ddadl yn llwyr. Fel cefnogwr i Blaid Cymru byddai disgwyl i mi ddweud hynny’n mae’n siŵr. Ond ble mae’r synnwyr yn beth sydd am ddigwydd? Ai dadl yw hon rhwng ymgeiswyr ar gyfer swydd y prif weinidog? Os felly, beth mae Nick Clegg yn ei wneud yno. Mae’n gwbl amlwg taw dim ond Brown a Cameron sydd yn ymgiprys am y swydd honno. Gan fod Nick Clegg yno mae’n amlwg nad dadl rhwng ymgeiswyr am fod yn brif weinidog yw hi, felly pam nad yw arweinydd seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd AS, ac arweinwyr pleidiau eraill yn cael bod yn bresennol? Dwi ddim wedi gweld neb yn esbonio hynny’n iawn.

Y trydydd peth sy’n fy ngwneud i’n grac am y sefyllfa yw’r ffaith ei bod hi’n ymddangos taw dadl i Loegr yn unig fydd hon hefyd gan fod y tair dadl yn mynd i ddigwydd yn y wlad honno – un yn y gogledd-orllewin, un yn y de-orllewin a’r olaf yn y canolbarth – ac os felly o ble fydd y gynulleidfa yn dod i gynrychioli’r dadleuon fydd yn digwydd yng Nghymru, yr Alban a hyd yn oed gogledd Iwerddon?

Mae’r Guardian yn dyfynnu Douglas Alexander yn sôn am y dadleuon hyn yn newid holl batrwm etholiadau cyffredinol fel hyn.

Douglas Alexander, Labour’s general election co-ordinator, told the Guardian the debates would alter the choreography of the traditional UK election campaign since the buildup and fallout of each of the three debates could take up as much as nine days of the campaign.

Mae annhegwch yr holl beth yn ymddangos yn waeth o ystyried hynny. Am naw diwrnod – a allai fod yn agos i hanner hyd yr ymgyrch, os nad mwy – bydd yr holl sylw ar y tair plaid Brydeinig ac ar faterion sy’n bwysig i Loegr. Nawr, dwi ddim yn dweud na fydd llawer o’r pethau yma yn bwysig i weddill y Deyrnas Gyfunol yn ogystal ond does dim sicrwydd o hynny. Ond bydd gwylwyr y dadleuon yng Nghymru a’r Alban yn cael eu hunain yn rhan o ddadl rhywun arall am addysg, iechyd, &c., heb fod  neb yno i’w cynrychioli yn y gynulleidfa; er mae’n wir y bydd Gordon Brown yno ar y panel!

Pwy sydd am y ddadl hon? Y darlledwyr siŵr o fod. Ond beth fydd yn ychwanegu at ddemocratiaeth; beth fydd yn ychwanegu at ddealltwriaeth yr etholwyr o’r materion a fydd yn cyfri yn yr etholiad. Dwi ddim yn credu y bydd yn gwneud rhyw lawer dros hynny fy hun. Mae’r darlledwyr am y ddadl am y byddan nhw’n credu y bydd yn gwneud teledu da, ac y byddan nhw’n medru dweud ar y diwedd taw’r ymddangosiad ar rhaglen oedd wedi penderfynu canlyniad yr etholiad cyffredinol. Bydd hefyd yn deledu hawdd iddyn nhw – dim angen esbonio polisïau, dim angen deall beth sy’n digwydd – gan fydd y cyfan wedi troi yn un seleb-ffest ychwanegol i’w ychwanegu at y gweddill. Dyma fydd “celebrity general election get me out of here on ice!” go iawn. Peidied neb a sôn am bolisïau, ond yn hytrach faint oedd Clegg yn chwysu, sut roedd ffroenau Cameron yn lledu wrth iddo golli’i dymer, a’r bygythiad cyson yn llygaid Brown i daflu’r peiriant ffacs at y gynulleidfa a’r holwr.

Dwi’n grac!

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Cofio Thatcher
Mae’n ymddangos fod pawb yn ‘cofio’ Thatcher y dyddiau hyn ac fel un sy’n dwlu ar hel atgofion mae’n bryd i fi ymuno yn y sbort a’r sbri. Fe wnes i bleidleisio am y tro cyntaf ddydd Gŵyl Dewi 1979 yn y refferendwm ar ddatganoli. Does dim angen imi ddweud wrth neb wnaeth fyw trwy’r profiad hwnnw fod cysgod y digwyddiadau hyn wedi aros yn eu lle tan 1997.

Felly i mi un ychwanegiad arall at dduẅch y cyfnod yn dilyn refferendwm 1979 oedd cyfnod Thatcher. Dwi ddim yn credu fy mod i wedi sylweddoli beth fyddai effaith ei chyfnod fel Prif Weinidog pan gafodd ei hethol. Roedd pethau’n wael cyn iddi gael ei hethol. Dechreuais i yn y coleg fis Medi 1978 ac roedd y gaeaf hwnnw yn un diflas iawn. Roedd fy rhieni yn gweithio i’r cyngor sir – fy nhad yn un o fois yr hewl a fy mam yn gymorth cartref – roedd nifer o ewythrod a modrybedd hefyd yn gweithio i’r cyngor sir ar yr hewl neu fel cogyddion ysgol. O’r herwydd roedd pethau wedi bod yn weddol ddiflas cyn etholiad Thatcher ac roedd dychmygu gwaeth yn anodd.

Cymerodd hi ddim llawer inni sylweddoli fod pethau’n mynd i fod yn waeth. Yn raddol fe dechreuodd y newid. Preifateiddio a symud y dreth oddi ar incwm i wariant oedd y pethau a gafodd effaith. Pan dechreuais i weithio yn 1981 roedd y toriadau wedi dechrau effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Yna daeth Rhyfel Malvinas pan aberthwyd bywydau a gwariwyd ffortiwn er mwyn  amddiffyn hael cymaint o bobl oedd yn byw yn Arberth i fod yn ddinasyddion Prydeinig. Yn sgil hynny daeth yr etholiad cyffredinol, y frwydr gyda’r glowyr a gwahardd undebau llafur yn GCHQ.

Aeth pethau o ddrwg i waeth ac es i yn ôl i’r coleg yn 1985 cyn mynd i weithio i Lyfrgelloedd Morgannwg Ganol yn 1986. Ar ôl tair blynedd yno fe es i weithio yn Aberystwyth. Roedd Margaret Thatcher yn dal yn Brif Weinidog. Yna fe ddaeth Treth y Pen. Fel mae’n digwydd roeddwn i’n yng Ngwlad y Basg yn gwylio’r lluniau ar y teledu o’r reiat yng nghanol Llundain. Roedd yn debyg i’r golygfeydd dros y flwyddyn neu ddwy flaenorol ym mhrif ddinasoedd gwladwriaethau dwyrain Ewrop. Roedd y chwyldro ar ddigwydd.

Bu’n rhaid disgwyl am chwe mis arall cyn y diwrnod pan wnaeth Thatcher gyhoeddi ei hymddiswyddiad. Roedd yn ddiwrnod llawn gwefr – doeddwn i ddim yn cofio gwleidyddiaeth hebddi mewn gwirionedd. Ond wedi ychydig fe sylweddolais nad oedd ei diflaniad yn chwyldro mewn gwirionedd. Fe wnaeth pethau barhau yn debyg iawn. Roedd ein muriau Berlin ni yn dal i fodoli yn ein meddyliau a byddai angen llawer mwy o newid er mwyn eu dymchwel hwy. Un diwrnod o ryddid oedd hwnnw mewn gwirionedd. Roedd e’n ddiwrnod i’w fwynhau ond wedyn yn ôl â ni i’n caethiwed. Ac mae ei chysgod yn dal i fod trosom ni i gyd.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Edrych yn ôl ar yr etholiadau Ewropeaidd
Ai fi yw’r unig un sy’n synnu i weld fod Gordon Brown yn dal i fod yn Brif Weinidog wythnos ar ôl cyhoeddi canlyniadau yr etholiadau Ewropeaidd. Fe wnaeth y Blaid Lafur yn drychinebus, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi tybio y buasai’n ymddiswyddo ddydd Llun diwethaf yn eu cysgod. Ond nid dyna sydd wedi digwydd.

Roedden nhw yn ganlyniadau difrifol i Lafur, ond doedd canlyniadau’r Torïaid ddim cymaint â hynny’n well na’r tro diwethaf ac mae’n rhaid bod hynny wedi lliniaru ychydig ar sut roedd pobl yn edrych arnyn nhw. Wrth gwrs, wrth edrych yn ôl ar ddigwyddiadau yr wythnos yn arwain i fyny at yr etholiadau roedd hi’n amlwg na allai’r canlyniadau fod yn waeth na’r un ymddiswyddiad o’r cabinet ar ôl y llall a welwyd yr adeg honno. I ddweud y gwir mae’n rhaid bod y canlyniadau etholiadol yn ymddangos fel sefydlogrwydd yng nghanol y fath storom.

Felly ar ôl gwneud camgymeriad am hynny dwi’n braidd yn gyndyn i fynegi fy marn ar wleidyddiaeth. Y cyfan ddyweda i yw bydd Gordon Brown yn saff os fydd e’n medru arddangos yr dycnwch ac y gwnaeth Rhodri Morgan wrth ddringo’r Wyddfa ddydd Gwener. Rhyfeddol. Mae’n amlwg y gallai barhau yn ei swydd am dipyn fel yr oedd Huw Lewis wedi gofyn iddo wneud.

Roedd canlyniad Cymru y Blaid Lafur yn siŵr o fod yn siom iddynt. Am y tro cyntaf ers dechrau’r ganrif ddiwethaf roedd plaid arall wedi ennill mwy o bleidleisiau na hwy ar draws Cymru. Y siom i mi oedd taw y Ceidwadwyr oedd y blaid honno ac nid Plaid Cymru, ond roedd y ffaith bod canran pleidlais y Blaid wedi cynyddu o ychydig yn gysur – llongyfarchiadau Jill! – ac fe wnaeth gael mwy nag UKIP hefyd. Nid felly hanes y Democratiaid Rhyddfrydol. Nid yw pethau’n edrych yn dda iddyn nhw o gwbl. Fe geision nhw sbinio eu pleidlais yng Ngheredigion fel buddugoliaeth tra mewn gwirionedd adlewyrchu noson ddiflas iddyn nhw yng Nghymru oedd hyn.

Mae’n amlwg fod y canlyniad wedi gwneud i rai pobl ail-feddwl. Dyna fy esboniad i am gyhoeddiad Mick Bates y penwythnos hwn y na fydd yn sefyll yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2011. Dyw hi ddim yn edrych yn addawol iawn iddyn nhw yn unrhyw le ar sail y canlyniadau hyn – heblaw am Ganol Caerdydd.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Etholiadau Ewropeaidd 2009
Dwi wedi pleidleisio yn barod yn yr etholiadau Ewropeaidd. Dwi’n ofni nad oes gen i newyddion da i Gordon Brown gan na fydd fy mhleidlais i yn help iddo geisio gadw gafael ar swydd y prif weinidog. Fel unigolyn mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn medru cydymdeimlo gyda’i sefyllfa; wedi’r holl disgwyl am ei dro mae’n rhaid fod ei siom yn ddirfawr i weld popeth yn dadfeilio o flaen ei lygaid. Wrth gwrs cafodd y cyfle fel aelod o’r llywodraeth ers 1997 i wneud rhywbeth am lawer o’r pethau sy’n ei boeni yn awr, ond dewisodd beidio. Mae’n ei fod wrthi’n gwneud llawer o bethau, ac mae’n siŵr y gallai ddadlau fod hyn yn ei gadw’n brysur. Ond mae’n rhaid ei fod yn gwybod nad oedd hi’n bosib i fyw ar gredyd am byth ond byddai gwneud rhywbeth am hynny wedi bod yn anodd. Ond nawr mae materion economaidd yn nghysgod y datguddiadau yn ymwneud â lwfansau a chostau aelodau seneddol ac mae’n edrych yn llai galluog byth i fynd i’r afael â hynny. Ac ar ben hyn mae’r ymddiswyddiadau o’r cabinet yn ystod y dyddiau diwethaf yn gopsi ar y cwbl. A fydd Gordon Brown yn dal i fod yn brif weinidog y Deyrnas Gyfunol erbyn yr eisteddfod? Na fydd mae’n debyg; bydd hynny’n siom bersonol, ond a fydd hynny’n ddigon i helpu’r Blaid Lafur. Ond os nad ydw i’n pleidleisio i Lafur pam fyddai hynny yn fy mhoeni? Wel, does dim angen imi ddweud wrth neb, ond mae’r sustem bleidleisio ar gyfer Senedd Llundain ac Ewrop yn golygu nad oes modd mynegi cymhlethdod sefyllfa mewn unrhyw fodd. Er bod sustem Senedd Ewrop yn un gyfrannol mae’n un gaedig – does dim posib mynegi unrhyw soffistigeiddrwydd fel pleidleisiwr, yn wahanol i sustem y Cynulliad Cenedlaethol. Dwi ddim am bleidleisio i Lafur, ond byddai buddugoliaeth i’r Blaid Geidwadol yn fwy o drychineb i’r wladwriaeth a’i dinasyddion yn fy nhyb i. Effaith aneffeithlonrwydd yw llawer o effaith Llafur; mae’r Torïaid yn cynllunio’r effeithiau gydag argyhoeddiad.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Hunger
Newydd ddarllen cofnod blog hynod ddiddorol gan blogMenai ar David Davies, Hunger a Rod Richards. Fe glywais i y stori fore ddoe ar newyddion BBC Radio Cymru fod David Davies AS yn beirniadu’r ffaith fod ffilm Steve McQueen am streic newyn Bobby Sands, Hunger, wedi derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Fe wnes i synnu at y ffaith fod y BBC yn rhoi sylw i sylwadau cwbl ffuantus ac amlwg ceisio-sylw David Davies yn y lle cyntaf. Wedi darllen beth sydd gan blogMenai i’w ddweud dwi’n teimlo’n fwy crac byth am hynny. Dwi ddim am gicio’r BBC tra eu bod nhw ar lawr ond dwi’n credu y dylai sylwadau gan David Davies gan eu trin gydag ychydig o ofal ac ysbryd mwy beirniadol nag y maen nhw. Mae’r sylw mae e wedi’i gael i’w fudiad dau-ddyn yn erbyn cynyddu pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol yn esiampl debyg o geisio-sylw ac o ddiffyg crebwyll beirniadol ar ran y cyfryngau.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Michael Fabricant
Mae stori ryfedd yn y Guardian heddiw am yr aelod seneddol Torïaidd, Michael Fabricant, yn cael ei ddal gan filwyr yn Colombia oedd yn meddwl fod y gwynnwr coffi oedd ganddo yn ei feddiant yn gocaîn ac yn ei orfodi i’w fwyta. Roedd ar wyliau cerdded yn Colombia, ond mae’n cyfaddef

“It took some explanation, as I don’t speak more than two or three words in Spanish, for them to accept it was Coffee Mate,” Fabricant – now safely back at Westminster – said.

Wel dyna ichi beth twp i’w wneud – mynd ar wyliau i Colombia gyda dim ond un neu ddau air o Sbaeneg – ac wedyn mae dyn fel hyn yn credu y dylai fod yn rhedeg y wladwriaeth!

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (3)
Un o’r pethau oedd yn dal i fod yn y Senedd oedd y gwaith celf dadleuol yn portreadu Aneurin Bevan a Margaret Thatcher mewn tunplat. Pan glywais i’n wreiddiol am y ddadl ynglŷn â’r gwaith fy mod wedi teimlo fod y cwynwyr yn gwneud lot o stŵr am ddim byd. Ond rhaid i mi ddweud ar ôl ymweld â’r Senedd a gweld y peth drosof fy hun fy mod wedi dod i ddeall yn well pa mor rhyfedd yw gweld wyneb Margaret Thatcher yn edrych i lawr arnoch chi yn Neuadd y Senedd a pham bod cymaint wedi teimlo’n grac am y peth. Roedd yn edrych yn òd iawn. Dwi’n gwybod fod rhai yn dweud fod y gwaith wedi gwneud ei waith wrth inni ei drafod, ond ai mewn senedd y mae lle i weithiau dadleuol o’r fath?

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Pethau’n ddu ar Alun Cairns?
Dyw pethau ddim yn edrych yn dda iawn i Alun Cairns wrth iddo ymladd i gadw ei le fel ymgeisydd seneddol y Torïaid ym Mro Morgannwg. Petai’n ymgeisydd yn Llundain, yn hytrach nag mewn ardal ddiarffordd fel y Fro mae’n siŵr y buasai wedi gorfod rhoi’r gorau iddi’n barod. Byddwn hefyd yn fodlon dadlau y byddai’r chwip Torïaidd wedi’i dynnu oddi arno yn y Cynulliad Cenedlaethol hefyd. Y rheswm dros ddweud hynny yw’r ffordd y mae’r blaid Geidwadol wedi mynd i’r afael ag achos James McGrath, yr ymgynghorydd arbennig i Boris Johnson, maer Llundain. Dyma sut mae’r newyddiadurwr Marc Wadsworth yn adrodd yr hanes yn y Guardian ar-lein.

When I put to McGrath that an influential black columnist for the Voice newspaper suggested that older Caribbeans in London might want to go back to the islands from which they came after Johnson’s election, surely the right response was for him to have said: “Neither Boris Johnson nor I would want that. Black people are an important and valued part of London and we want them to stay.”

Instead, the arrogant apparatchik, who is himself an immigrant from Australia, snapped: “Well, let them go if they don’t like it here.” I was flabbergasted. Hadn’t such talk from a public servant gone out of fashion decades ago?

Mae hyn yn fater sensitif iawn i’r blaid ar hyn o bryd wrth iddi geisio sicrhau ei safle a phrofi unwaith ac am byth ei bod wedi newid. Mae unrhyw awgrym o ‘hiliaeth’ yn mynd i gael ymateb pendant gan yr arweinyddiaeth sydd am wneud argraff: “edrychwch arnom ni yn delio gyda hyn yn  bendant, dyma’r prawf ichi gredu ein bod ni wedi newid.”

Ar sail yr ymateb i James McGrath dwi ddim yn credu bod pethau’n edrych yn dda i Alun Cairns. Ond mae’n bosib y bydd dau beth yn cael dylanwad ar ei ffawd.

Dwi wedi cyfeirio at y cyntaf yn barod, sef y ffaith i hyn i gyd ddigwydd yng Nghymru lle nad oes gan newyddiadurwyr ‘go iawn’ Llundain ddim diddordeb ynddo o gwbwl.

Yn ail, cyfeiriodd Alun Cairns ei sylwadau hiliol tuag at y gymuned Eidalaidd yn hytrach na phobol dduon o dras y Caribî fel McGrath. Nid yw’r grŵp cyntaf wedi gorfod amddiffyn eu hunain yn aml iawn yn erbyn sylwadau o’r fath, tra bod yr ail grŵp wedi gorfod gwneud hynny’n gyson am hanner can mlynedd a mwy ac maen nhw’n parhau i wneud. Am eu bod yn dal i frwydro yn erbyn hiliaeth bob dydd mae ganddynt y rhwydweithiau mewn lle i sicrhau eu bod yn medru ateb yn ôl yn effeithiol a chael dylanwad, yn arbennig felly ar arweinwyr plaid sydd yn ceisio eu gorau i brofi eu bod nhw wedi newid yn llwyr.

Ac os yw’n gorfod sefyll lawr fel ymgeisydd seneddol, beth nesaf?

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Addas i fod yn AS? Addas i fod yn AC?
Mae’n bosib bod darllenwyr cyson y blog yn gwybod yn gwybod yn barod nad oes gen i lawer o amynedd gydag Alun Cairns AC. Efallai bod y ffaith ei fod yn Dori o Glydach yn rhywbeth i’w wneud â’r peth; mae’r ffaith ei fod wedi bod yn gweithio i Lloyds TSB hefyd yn cyfri yn ei erbyn yn fy meddwl i – dyna yw fy manc innau ac mae meddwl bod fy arian wedi bod yn mynd i’w dalu ef yn uniongyrchol yn broblem arall. Wrth gwrs, fel aelod cynulliad, mae fy arian yn parhau i’w dalu i wneud ei waith!

Pan glywais i am ei ffopa ar raglen Dau o’r Bae ar Radio Cymru mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi ymroi i schadenfreude – pleser dymunol iawn ond rhywbeth i’w gadw’n gyfrinachol ar y cyfan dwi’n teimlo. Mae gweld Tori yn cael ei haeddiant wastad yn bleserus, ond yn fwy fyth yn yr achos hwn. Efallai taw uno’r rhesymau fy mod yn teimlo mor eithafol yn yr achos hwn yw am fy mod hefyd yn feirniadol iawn o’r ffaith ei fod yn defnyddio ei safle fel fel aelod cynulliad fel ffordd o sefydlu ei hun fel ymgeisydd ar gyfer bod yn aelod o senedd San Steffan.

Dwi’n deall yn iawn fod rhai am fod yn aelodau yn San Steffan, ac mae angen i Gymru gael ei chynrychioli yno tra bo’r corff hwnnw â grym dros benderfyniadau tyngedfennol yng Nghymru, ond mae credu bod hynny’n rhagori ar fod yn aelod cynulliad yn siomedigaeth ac yn fy ngolwg i yn dangos nad yw’r Torïaid wedi newid o gwbl. Mae’n debyg iawn i arfer y ddeunawfed ganrif o weld apwyntiad fel esgob yng Nghymru fel ffordd i gyrraedd rhywle gwell a hynny pan oedd Torïaeth yn ei hanterth.

Eto i gyd, ar ôl dweud hynny, mae’n ymddangos y gall dalu pris trwm am ei drosedd. Iddo fe mae’n siŵr taw bod yn aelod seneddol yw prif nod mewn bywyd. Fel gwleidydd unoliaethol mae’n debyg taw bod yn aelod o senedd yr undeb yw pen ei uchelgais – oni bai ryw ddydd y bydd cyfle i fod yn llywodraeth y deyrnas honno. Felly mae’n edrych yn debyg y bydd ei freuddwyd yn deilchion os yw ymchwiliad y Blaid Geidwadol yn mynd i’w gael yn anaddas i fod yn ymgeisydd seneddol. Os felly mae ‘na gwestiwn arall; os y’i ceir yn anaddas i fod yn ymgeisydd seneddol a ddylai fod yn aelod cynulliad?

Ac mae hyn i gyd wedi digwydd oherwydd iddo ddefnyddio dau air mas o’u lle ar raglen radio. Ar yr olwg gyntaf mae’n ymddangos y gallai’r ‘gosb’ fod yn anghymesur. Er na wnes i glywed y rhaglen mae’r adroddiadau yn gytûn taw sylwadau tafod ym moch oedd rhai Alun Cairns. Sylw ffwrdd â hi mewn trafodaeth ar bêl-droed ar raglen wleidyddol. Rhyw ysgafnder wedi trafodaeth ddifrifol am y peth hwn a’r peth arall. Onid yw ymateb yn ddifrifol i sylwadau o’r fath yn dangos pa mor brin o hiwmor a gor-ddifrifol yr aeth gwleidyddiaeth.

Dwi’n siŵr fod yr hyn sydd wedi digwydd yn profi unwaith ac am byth fod gwleidyddion yn llwyth cwbl ar wahân i weddill cymdeithas. Byddai’r gweddill ohonom ond yn rhy barod i chwerthin a gweld y jôc. Ond na, mae’n rhaid i bobol fel yr aelodau seneddol Wayne David a Chris Bryant wneud pwynt gwleidyddol. Fel ‘na mae gwleidyddion – dydyn nhw ddim yn gwybod beth yw joc.

Ond mae’n amlwg fod pethau ychydig yn fwy difrifol na hynny gan fod cyflwynydd Dau o’r Bae, Vaughan Roderick, wedi sylweddoli fod rhywbeth o’i le ar unwaith yn yr hyn a ddywedwyd ac wedi rhoi’r cyfle i Alun Cairns ymddiheuro. Fe gymerodd y cyfle hwnnw yn ôl yr adroddiadau, ond erbyn hynny roedd hi’n rhy hwyr. Roedd y drwg wedi’i wneud. Yn yr oes hon nid yw defnydd o iaith hiliol yn dderbyniol gan wleidydd, hyd yn oed mewn ymdrech i fod yn ysgafn ac yn fwy tebyg i bobl ‘gyffredin’.

Dwi ddim yn adnabod Alun Cairns, ond dwi’n fodlon derbyn yr hyn y dywedodd y cyn-AC Ron Davies amdano, “I know there isn’t a racist bone in his body.” Mae’n wir bod Ron Davies wedi mynd yn ei flaen i ddweud, “These comments he has made are inexcusable but we have to put them in the context of what was a light-hearted discussion around football and was meant, I’m sure, as laddish humour.” Y cwestiwn yw hyn, a yw sylwadau o’r fath yn dderbyniol mewn unrhyw gyd-destun, hyd yn oed un ysgafn. Neu, a ydyn nhw yn fwy peryglus mewn sefyllfa o’r fath am eu bod yn gwneud pwnc difrifol fel hiliaeth yn destun sbort, ond nid trwy ei gondemnio ond wrth fod yn rhan ohono.

A nawr mae’r blaid Dorïaidd ei hun yn cynnal ymchwiliad i fewn i addasrwydd Alun Cairns i fod yn ymgeisydd seneddol. Digon teg. Ond yr hyn sy’n codi ar unwaith yw addasrwydd Alun Cairs i fod yn aelod cynulliad. Os yw hyn yn ddigwyddiad digon difrifol i wneud ddyn nhw amau gallu Alun Cairns i wneud swydd aelod seneddol yn iawn, mae’n rhaid gofyn wedyn a yw’n medru parhau fel aelod cynulliad.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.

Protest David Davis yn “wastraff arian”?
Fe wnaeth Blog Aber Dar dynnu sylw at fy nisgrifiad o weithred David Davis fel “gwastraff arian” yn ei sylw ar fy nghofnod “Beth mae David Davis yn ei wneud”, ac fe holodd gwestiwn digon teg “Ai wyt ti’n gwneud yr un peth pan fod Cymdeithas yr Iaith (neu unrhyw grŵp arall mi wyt ti’n cefnogi) yn cynnal Protest yn Aberystwyth neu lle bynnag?”

Rhaid imi ddweud na fuaswn i am atal neb rhag protestio a hynny mewn unrhyw ddull di-drais sydd ar gael iddynt wneud hynny. Ond dwi’n methu gweld llawer iawn o debygrwydd rhwng protest gan fudiad fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ag un gan lefarydd yr wrthblaid ar faterion cartref. Yn bennaf am fod y gwleidydd wedi dewis y ffordd wleidyddol o weithredu yn hytrach na ffordd protest – mae ef wedi ymrwymo ei hun i yn llwyr ganlyniad y bleidlais, ac nid fel yr hen Sinn Féin a oedd am gadw’r bleidlais mewn un llaw a’r dryll yn y llall.

Ond dwi’n gweld ei weithred fel “gwastraff arian” hefyd am ei fod yn perthyn i blaid sydd wedi bod yn feirniadol iawn o geisio amddiffyn hawliau sifil trwy ddeddfwriaeth fel y Ddeddf Hawliau Dynol neu trwy’r Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Bwriad Cameron yw dileu’r Ddeddf, a gosod Datganiad o hawliau a chyfrifoldebau yn ei lle, a yna negodi eithriadau i’r Cytundeb Ewropeaidd. Y canlyniad, a’r bwriad yn ôl a ddeallaf i, bydd gosod hawliau sifil yn ôl yn y cyd-destun gwleidyddol uniongyrchol gan sicrhau taw dim ond yr hawliau hynny y mae’n gyfleus i’r wladwriaeth eu caniatáu i’w dinasyddion fydd ar gael iddynt. Yn ei araith ar y pwnc yn 2006 mae’n sôn am egwyddorion mesur o’r fath ac mae’n amlwg taw ystyriaethau y gwleidydd fydd yn penderfynu hawliau pwy fydd yn cael eu hamddiffyn – bydd pobl ‘dda’ yn haeddu hawliau, a phobl ‘ddrwg’ ddim.

Bryd hynny, pan fydd David Cameron yn brif weinidog, bydd 42 diwrnod David Davis ddim mor ’sanctaidd’ â hynny. Egwyddorion y Daily mail fydd yn parhau i yrru’r agenda wleidyddol.

Bryd hynny hefyd, yn fy marn i, bydd gweithred ‘aberthol’ David Davis wrth ail-sefyll etholiad am ei sedd seneddol yn ymddangos yn fwy tebyg i wastraff arian nag i’r brotest egwyddorol y mae ef yn gobeithio y bydd hi.

Note: There is a rating embedded within this post, please visit this post to rate it.