Dadl arweinwyr y pleidiau Prydeinig

Mae rhai pethau yn fy hala i’n grac. Un o’r pethau hynny ar hyn o bryd yw’r ddadl arfaethedig rhwng arweinwyr y pleidiau yn ystod yr ymgyrch etholiadol nesaf ar gyfer San Steffan.

Y peth cyntaf sy’n fy hala i’n grac am y ddadl, neu’r gyfres o ddadleuon, yw ei bod yn digwydd o gwbl. Bu [...]

Cofio Thatcher

Mae’n ymddangos fod pawb yn ‘cofio’ Thatcher y dyddiau hyn ac fel un sy’n dwlu ar hel atgofion mae’n bryd i fi ymuno yn y sbort a’r sbri. Fe wnes i bleidleisio am y tro cyntaf ddydd Gŵyl Dewi 1979 yn y refferendwm ar ddatganoli. Does dim angen imi ddweud wrth neb wnaeth fyw trwy’r [...]

Edrych yn ôl ar yr etholiadau Ewropeaidd

Ai fi yw’r unig un sy’n synnu i weld fod Gordon Brown yn dal i fod yn Brif Weinidog wythnos ar ôl cyhoeddi canlyniadau yr etholiadau Ewropeaidd. Fe wnaeth y Blaid Lafur yn drychinebus, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi tybio y buasai’n ymddiswyddo ddydd Llun diwethaf yn eu cysgod. Ond nid [...]

Etholiadau Ewropeaidd 2009

Dwi wedi pleidleisio yn barod yn yr etholiadau Ewropeaidd. Dwi’n ofni nad oes gen i newyddion da i Gordon Brown gan na fydd fy mhleidlais i yn help iddo geisio gadw gafael ar swydd y prif weinidog. Fel unigolyn mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn medru cydymdeimlo gyda’i sefyllfa; wedi’r holl disgwyl am ei [...]

Hunger

Newydd ddarllen cofnod blog hynod ddiddorol gan blogMenai ar David Davies, Hunger a Rod Richards. Fe glywais i y stori fore ddoe ar newyddion BBC Radio Cymru fod David Davies AS yn beirniadu’r ffaith fod ffilm Steve McQueen am streic newyn Bobby Sands, Hunger, wedi derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Fe wnes i synnu [...]

Michael Fabricant

Mae stori ryfedd yn y Guardian heddiw am yr aelod seneddol Torïaidd, Michael Fabricant, yn cael ei ddal gan filwyr yn Colombia oedd yn meddwl fod y gwynnwr coffi oedd ganddo yn ei feddiant yn gocaîn ac yn ei orfodi i’w fwyta. Roedd ar wyliau cerdded yn Colombia, ond mae’n cyfaddef

“It took some explanation, as [...]

Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (3)

Un o’r pethau oedd yn dal i fod yn y Senedd oedd y gwaith celf dadleuol yn portreadu Aneurin Bevan a Margaret Thatcher mewn tunplat. Pan glywais i’n wreiddiol am y ddadl ynglŷn â’r gwaith fy mod wedi teimlo fod y cwynwyr yn gwneud lot o stŵr am ddim byd. Ond rhaid i mi ddweud [...]

Pethau’n ddu ar Alun Cairns?

Dyw pethau ddim yn edrych yn dda iawn i Alun Cairns wrth iddo ymladd i gadw ei le fel ymgeisydd seneddol y Torïaid ym Mro Morgannwg. Petai’n ymgeisydd yn Llundain, yn hytrach nag mewn ardal ddiarffordd fel y Fro mae’n siŵr y buasai wedi gorfod rhoi’r gorau iddi’n barod. Byddwn hefyd yn fodlon dadlau y [...]

Addas i fod yn AS? Addas i fod yn AC?

Mae’n bosib bod darllenwyr cyson y blog yn gwybod yn gwybod yn barod nad oes gen i lawer o amynedd gydag Alun Cairns AC. Efallai bod y ffaith ei fod yn Dori o Glydach yn rhywbeth i’w wneud â’r peth; mae’r ffaith ei fod wedi bod yn gweithio i Lloyds TSB hefyd yn cyfri yn [...]

Protest David Davis yn “wastraff arian”?

Fe wnaeth Blog Aber Dar dynnu sylw at fy nisgrifiad o weithred David Davis fel “gwastraff arian” yn ei sylw ar fy nghofnod “Beth mae David Davis yn ei wneud”, ac fe holodd gwestiwn digon teg “Ai wyt ti’n gwneud yr un peth pan fod Cymdeithas yr Iaith (neu unrhyw grŵp arall mi wyt ti’n [...]

Beth mae David Davis yn ei wneud?

Mae’n rhaid ei bod hi’n dymor ar gyfer ymddiswyddiadau gwleidyddol, o leiaf yn Aberystwyth a Haltemprice a Howden. Efallai taw fasiwn yw hyn, ond mae’n rhyfedd sut mae ymddiswyddo yn medru digwydd am bob math o wahanol resymau. Dwi’n ofni nad ydw i’n gweld llawer o bwynt i’r hyn mae David Davies yn ei wneud. [...]

Y fuddugoliaeth well

Wel mae’r cyfan drosodd heno, heblaw am y bleidlais yfory. Dwi wedi bod yn brysur dros y tri diwrnod diwethaf yn dosbarthu taflenni o gwmpas y ward lle dwi’n sefyll yn Aberystwyth, y ward ganol. Unwaith eto dwi wedi dod ar draws rhai pobol sydd yn dweud eu bod nhw am bleidleisio i Blaid Cymru [...]

Torïaid ar y stryd

Dwi’n dod ‘nôl i weld bod cynnwrf yr etholiad wedi chwythu trwy Aberystwyth. Chwythodd yn ddigon cryf i dynnu’r Torïaid allan ar y stryd fore Sadwrn. Wrth gwrs myfyrwyr oedden nhw i gyd o’r hyn y gallwn i ei weld. Dyw gweld y Torïaid o gwmpas unwaith eto ddim yn newyddion da i’r Dem Rhyddiaid [...]

Gwybod pwy yw fy ngwrthwynebwyr

Efallai yr hoffet ti wybod beth yw’r newyddion gwleidyddol diweddaraf o dref Aberystwyth. Mae’r enwebiadau wedi cau ar gyfer etholiadau’r Cyngor Tref a dwi’n gwybod nawr pwy fydd fy ngwrthwynebwyr yn yr etholiad ar 1 Mai 2008. Rydw i’n ymgyrchu ar y cyd gydag un ymgeisydd arall o Blaid Cymru yn erbyn pedwar ymgeisydd o [...]

Penwythnos prysur (1)

Darlith yr Archif Wleidyddol Gymreig

Cefais benwythnos prysur, pan ddylwn i fod wedi gorffwys. Nos Wener es i i ddarlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol. Llynedd roeddwn i wedi bod yno i wrando ar yr Arglwydd Crucywel yn ailysgrifennu hanes yn null yr hen Undeb Sofietaidd. Eleni rhywun oedd wedi cydweithio gyda [...]

Clymblaid?

Wedi’r holl disgwyl mae’n edrych yn debygol y bydd Plaid Cymru yn ffurfio llywodraeth gyda Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol. Does dim pwynt imi guddio fy siom gyda’r penderfyniad hyn yn hytrach na dewis yr enfys. Ond does dim pwynt chwaith i mi ac eraill geisio gwyrdroi y penderfyniad os dyna oedd dymuniad y mwyafrif. [...]

Ffansi sedd yn y cabinet?

Os oes gen ti’r dalent mae ‘na le i ti yn y cabinet – ai dyna’r neges, ai dyna fydd ffordd Gordon Brown o wneud pethau? Neu’n hytrach, ai Llafur sy’n ceisio cael eu hunain i sefyllfa lle allan nhw gadw rheolaeth o ryw fath, os nad rheolaeth lwyr, yn Llundain a Chaerdydd ac efallai [...]

Y drwg yn y caws

Fel un nad yw’n gwrando ar BBC Radio4 o ran egwyddor (dwi ddim am orfod dioddef y is-bropaganda Prydeinllyd sydd ymhlyg yn ei holl allbwn darlledu) wnes i ddim clywed newyddiadurwr o Gymro yn adrodd bod y trafodaethau ynglŷn â ffurfio Llywodraeth Cymru wedi troi yn ffars, ond yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrtha [...]

“Peidiwch â rheoli dim byd allan”

Gyda phwyllgor cenedlaethol y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud nad ydyn nhw am drafod mynd i glymblaid gyda neb i ffurfio Llywodraeth Cymru mae’n rhaid gofyn beth sy’n digwydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol? Ydyn nhw wedi penderfynu nad ydyn nhw am fod yn blaid wleidyddol bellach ac am droi yn grŵp pwysau sy’n derbyn nawdd cyhoeddus ac [...]

Enfys! enfys!

Dyw blog Vaughan Roderick yn pylu dim o ran diddordeb, a dim rhyfedd gan fod cymaint o bethau diddorol yn digwydd. Ar ei flog yntau y darllenais i fod Lembit Opik heb fynd i gyfarfod tyngedfennol o’r Lim Demiaid yn Llandrindod neithiwr ond yn hytrach fe ddewisodd recordio rhaglen deledu. Fe wnes i droi at [...]