Dim ond wrth imi ffonio Sky TV neithiwr y sylweddolais i nad ydw i wedi dweud dim am gynhadledd Plaid Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf. Rydyn ni ym Mhlas-yn-Dogfael yn derbyn ein teledu digidol trwy Freestat from Sky ond am ryw reswm roedd rhywbeth wedi mynd o’i le ar ein cerdyn gwylio. [...]
Roedd heno’n noson brysur arall. Roedd dau isetholiad yn cael eu cynnal ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth – un yn ward Rhediol, a’r llall ym Mhenparcau. Roedd un wedi’i achosi gan ymddiswyddiad un o gynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol, a’r llall yn dilyn marwolaeth aelod annibynnol. Roedd y gorsafoedd ar agor tan 10.00pm ac wedyn roedd [...]
Wedi rhedeg trwy’r glaw o’r Senedd i Adeilad y Lanfa i weld yr offeryn statudol cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ei awdurdodi roeddwn i’n barod am fy nghinio, ac felly hefyd fy nghyfaill RO. Roedden ni wedi bwriadu yn wreiddiol mynd mas o’r ddinas am ginio, ond yng nghanol y glaw – ac oherwydd inni dreulio [...]
Ydy ymddiswyddiad Rhodri Glyn Thomas fel Gweinidog Treftadaeth yn rhoi ystyr newydd i’r frawddeg “Cwrs y Byd”? Gwaeth o lawer na Chwrs y Pharo!
Dyma’r papur pleidleisio ar gyfer yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol a enillwyd gan Aled Davies o Blaid Cymru, 10 Gorffennaf 2008. Roedd yn rhaid imi ddefnyddio’r gwreiddiol i bleidleisio! Ond dwi’n falch imi wneud copi fel swfenîr o’r digwyddiad hanesyddol hwn yng ngwleidyddiaeth Aberystwyth. Bellach Plaid Cymru sy’n dal tair o’r chwe sedd [...]
Pedair awr ar hugain yn ddiweddarach a dwi’n dal i fod yn llawn cynnwrf wedi canlyniad yr isetholiad yn ward Rheidol gydag Aled Davies o Blaid Cymru yn cipio’r sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Fel mae’n digwydd dwi’n byw yn ward Rheidol ers deng mlynedd a mwy a dyma’r tro cyntaf inni fod â [...]
Aled Davies o Blaid Cymru, cynghorydd sir newydd ward Rheidol, Aberystwyth
Dwi’n gwybod bod fy mlog wedi bod yn dawel iawn dros yr wythnos neu ddwy a aeth heibio.. Y rheswm am hynny wrth gwrs yw fy mod wedi bod yn brysur yn gwneud pethau eraill. Un o’r pethau hynny oedd bod yn rhan o’r tîm [...]
Cafodd Sue Jones-Davies ei hethol yn faer Aberystwyth heno, yn dilyn wythnosau o ansicrwydd. Nid dim ond yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd mae ‘na bethau cyffrous yn digwydd. Heno yr oedd Cyngor Tref Aberystwyth yn gorfod trafod y tro diweddaraf ym mywyd gwleidyddol y dref wythnos ers i Lorrae Jones-Southgate ymddiswyddo fel maer.
Yn [...]
Mae’n siŵr ddigon fod llygaid y byd ar ragetholiadau ac etholiad arlywyddol y Taleithiau Unedig, ond dylai rhywun gadw rhyw gilolwg ar yr hyn sy’n digwydd yn Aberystwyth? Wrth i’r byd gwleidyddol ddechrau paratoi am yr haf trwy dawelu ychydig ar ôl etholiadau’r cyngor sir ddechrau Mai mae’n ymddangos fod popeth yn digwydd yn y [...]
Mae’r ymgyrch wedi dechrau mewn gwirionedd yn yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol yn Aberystwyth. Fel y gŵyr pawb bellach fe ymddiswyddodd cynghorydd Democrataidd Rhyddfrydol y ward o fewn mis i’w ethol ar ôl iddo gael ei arestio gan yr heddlu a derbyn rhybudd.
Mae unrhyw isetholiad yn gynhyrfus wrth gwrs, ond yng Ngheredigion mae’r [...]
Mae’r dyddiau’n diflannu a finnau a chymaint i’w adrodd ar y blog a dim amser i’w wneud. Roeddwn i’n bwriadu dweud ychydig am gynhadledd flynyddol fy undeb llafur, Prospect, yn Torquay, ond os na wna i hynny cyn bo hir mae’n edrych yn debyg y bydd yn mynd yn angof. Fe es i lawr i [...]
Llun gan Steve Jurveston.
Sylwadau gan y Cynghorydd Peter Read fel y’u dyfynnwyd yn Golwg sy’n mynd â’m sylw i. Ef yw’r cynghorydd newydd o blaid Llais Gwynedd a drechodd arweinydd Cyngor Gwynedd Richard Parry Hughes yn yr etholiadau diweddar. Un neges roedd e am i’r newyddiadurwraig ei throsglwyddo i’r byd a’r betws, sef “Dw i [...]
Wel mae’r cyfan drosodd heno, heblaw am y bleidlais yfory. Dwi wedi bod yn brysur dros y tri diwrnod diwethaf yn dosbarthu taflenni o gwmpas y ward lle dwi’n sefyll yn Aberystwyth, y ward ganol. Unwaith eto dwi wedi dod ar draws rhai pobol sydd yn dweud eu bod nhw am bleidleisio i Blaid Cymru [...]
Pan ddes i nôl adref o’r gwaith heddiw roedd ‘na lythyr oddi wrth y Post Brenhinol yn fy nisgwyl. Dwi ddim yn derbyn llythyron oddi wrth y Post Brenhinol felly roeddwn i’n eiddgar i wybod beth oedd ganddynt ddweud. Nid llythyr yn dymuno’n dda imi yn fy ymgyrch etholiadol oedd hwn, ond yn hytrach newyddion [...]
Bues i mas ar y stwmp unwaith eto heno. Dyma’r drydedd noson imi fynd o ddrws i ddrws yn ward ganol Aberystwyth fel rhan o’m hymgyrch i gael fy ethol i Gyngor Tref Aberystwyth. Heno fe fues i galw mewn tai ym Morfa Mawr, Stryd y Baddon, Stryd y Gorfforaeth, Rhes Crynfryn, Tai Crynfryn [...]
Dwi wedi dychwelyd o Frwsel ers sawl diwrnod, ond heb gael amser i daro bys ar fysell ac ysgrifennu pwt ar gyfer y blog. Y prif reswm am hynny yw fy mod wedi dod yn ôl i ganol y frwydr etholiadol yn ward ganol Cyngor Tref Aberystwyth.
Heno fe fues i mas yn canfasio ac yn [...]
Gan fy mod i’n mynd i ffwrdd am ychydig ddyddiau roedd yn rhaid imi gael pethau’n barod ar gyfer yr etholiad cyn mynd. Felly dros y ddau neu dri diwrnod diwethaf dwi wedi bod yn paratoi taflenni ar gyfer ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth. Mae pump ward yn Aberystwyth ac mae ‘na [...]
Efallai yr hoffet ti wybod beth yw’r newyddion gwleidyddol diweddaraf o dref Aberystwyth. Mae’r enwebiadau wedi cau ar gyfer etholiadau’r Cyngor Tref a dwi’n gwybod nawr pwy fydd fy ngwrthwynebwyr yn yr etholiad ar 1 Mai 2008. Rydw i’n ymgyrchu ar y cyd gydag un ymgeisydd arall o Blaid Cymru yn erbyn pedwar ymgeisydd o [...]
Dwi wedi newid fy meddwl am wleidyddiaeth. Yn lle troi fy nghefn ar y cyfan dwi’n dwlu ar wleidyddiaeth bellach. Pam? Am fy mod i newydd gwrdd â rhywun sy’n siarad Iseldireg a gafodd ei magu yn Fflandrys ac sy’n un o ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth – cydymgeisydd gyda fi. Roeddwn [...]
“Ble mae dy flog di wedi mynd?” yw’r cwestiwn dwi’n ei gael amlaf y dyddiau hyn. Wel, dwi’n ofni i ddweud taw cyfuniad o brysurdeb, salwch, crefydd a gwleidyddiaeth sy’n gyfrifol am dawelu fy llais blogaidd. Yn y lle cyntaf bues i’n teimlo’n dost gyda chric yn fy ngwddf am dri neu bedwar diwrnod. Roedd [...]