Dadl arweinwyr y pleidiau Prydeinig

Mae rhai pethau yn fy hala i’n grac. Un o’r pethau hynny ar hyn o bryd yw’r ddadl arfaethedig rhwng arweinwyr y pleidiau yn ystod yr ymgyrch etholiadol nesaf ar gyfer San Steffan.

Y peth cyntaf sy’n fy hala i’n grac am y ddadl, neu’r gyfres o ddadleuon, yw ei bod yn digwydd o gwbl. Bu [...]

Llygad-dyst i hanes?

Doedd e ddim yn achos llys, ond roedd rhyw deimlad tu fas i’r Queen Elizabeth II Conference Centre fod Tony Blair yn gorfod am y tro cyntaf dros ei ymddygiad a’i benderfyniadau yn achos y rhyfel yn Irác wrth ddod gerbron Ymchwiliad Irác. Dyw’r ganolfan gynadledda lle mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal ond tafliad [...]

Edrych yn ôl ar yr etholiadau Ewropeaidd

Ai fi yw’r unig un sy’n synnu i weld fod Gordon Brown yn dal i fod yn Brif Weinidog wythnos ar ôl cyhoeddi canlyniadau yr etholiadau Ewropeaidd. Fe wnaeth y Blaid Lafur yn drychinebus, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi tybio y buasai’n ymddiswyddo ddydd Llun diwethaf yn eu cysgod. Ond nid [...]

Un cam yn rhy bell

Roedd y papurau y bore ddoe yn llawn o drafferthion Gordon Brown ac fe ddechreuais i ddychmygu sut roedd e’n teimlo. Dwi’n cael diwrnodau anodd, dwi’n cael trafferthion yn y gwaith o bryd i’w gilydd, ond dwi ddim yn cael fy hunan yn mynd adref gyda’r nos ac yn gweld yr holl beth yn cael [...]

Etholiadau Ewropeaidd 2009

Dwi wedi pleidleisio yn barod yn yr etholiadau Ewropeaidd. Dwi’n ofni nad oes gen i newyddion da i Gordon Brown gan na fydd fy mhleidlais i yn help iddo geisio gadw gafael ar swydd y prif weinidog. Fel unigolyn mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn medru cydymdeimlo gyda’i sefyllfa; wedi’r holl disgwyl am ei [...]

Darlith gan Carwyn Jones AC yn Aberystwyth

Neithiwr fe fues i mewn cyfarfod o Gymdeithas Wleidyddiaeth Gymraeg Prifysgol Aberystwyth er mwyn gwrando ar eu siaradwr gwadd am y noson, Carwyn Jones AC. Astudiodd Carwyn Jones y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth ac felly’n adnabod y dref yn dda cyn. Wedyn fe aeth i hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain cyn gweithio yn Abertawe. Yn [...]

Pwy fyddai’n goroesi cyflafan fel un Glaschu an Ear

Roedd ‘na restr ddiddorol yn y Guardian heddiw o’r 20 aelod seneddol fuasai’n cadw eu seddau petai tuedd oddi wrth Lafur tebyg i’r un a gafwyd yn Glaschu an Ear yn digwydd yn gyson trwy’r Deyrnas Gyfunol. Da gweld bod Llafur yn cadw rhai o’n fferfrynnau yng Nghymru!

Edward O’Hara – Knowsley
John Cummings – Easington
Peter [...]

Llafur yn fethdalwyr?

Dwi ddim yn un sy’n darllen y papurau Sul fel arfer heblaw am yr atodiadau teithio a busnes. Ond roedd ‘na un stori fawr yn yr Observer heddiw wnaeth dynnu fy sylw, sef awgrym fod y Blaid Lafur Brydeinig, New Labour, ar y ffordd i dre-din. O dan y pennawd Labour heads for financial collapse [...]

Mwy am Peter Hain

Mae ‘na erthygl ddiddorol gan Andreas Whittam Smith yn yr Independent heddiw ynglŷn ag achos y rhoddion ariannol i ymgyrch Peter Hain i fod yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig. Mae’n werth cael golwg arni.

(Dim pleidlais eto)

Anghofio am £103,000?

Mae ceisio deall sut all unrhyw un anghofio am fwy na £100,000 yn eithaf anodd, ond dyna a wnaeth Peter Hain os ydym i’w gredu. Nid ceisio cuddio’r peth, jyst anghofio amdano. Yr hyn sy’n fy synnu i yw fod Hain wedi derbyn cymaint o nawdd i’w ymgyrch am ddirprwy arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig [...]

Gordon Brown yn cymhlethu fy mywyd

Dwi’n gwybod bod rhai yn ofni bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i Dogfael a dyna pam nad oes cofnodion newydd wedi ymddangos ar Flog Dogfael ers bron i bythefnos. Mewn ffordd o siarad mae rhywbeth ‘ofnadwy’ wedi digwydd – dwi wedi bod yn rhy brysur i feddwl am ysgrifennu fy mlog. Dwi wedi bod yn [...]

Brysia wella, Rhodri

Dwi ddim am i hyn swnio fel rhyw fath o erthygl goffa i Rhodri Morgan, ond dwi’n teimlo y dylwn i wneud ychydig sylwadau ac yntau yn rhoi’r gorau am ychydig i fod yn brif weinidog gweithredol oherwydd ei lawdriniaeth. Mae’r dyn yn ennyn teimladau cymysg ynof fi, cymysgedd o barch a siom. Yn gyntaf [...]

Hanes ym Mhontrhydfendigaid

Y peth diwethaf y mae blogiwr am fod yn euog ohono yw bod yn ystrydebol. Felly dwi’n ofni ac yn petruso rhag defnyddio’r gair ‘hanesyddol’ i ddisgrifio beth ddigwyddodd ym Mhontrhydfendigaid dros y penwythnos. I raddau mae’n rhaid cael y peth mewn persbectif o gofio beth sydd wedi digwydd i un o’r chwaraewyr yn y [...]

Llywodraeth glymblaid yn agosáu

Nos yfory mae’r Blaid Lafur yn cynnal cynhadledd arbennig i drafod a phleidleisio ar y cytundeb ar gyfer llywodraeth glymblaid gyda Phlaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae lleisiau wedi’u clywed yn erbyn gan rai o hoelion wyth Llafur – Paul Murphy, Don Touhig a’r Dr Kim Howells. Rydyn ni hefyd wedi clywed pedair aelod [...]

Clymblaid?

Wedi’r holl disgwyl mae’n edrych yn debygol y bydd Plaid Cymru yn ffurfio llywodraeth gyda Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol. Does dim pwynt imi guddio fy siom gyda’r penderfyniad hyn yn hytrach na dewis yr enfys. Ond does dim pwynt chwaith i mi ac eraill geisio gwyrdroi y penderfyniad os dyna oedd dymuniad y mwyafrif. [...]

Ffansi sedd yn y cabinet?

Os oes gen ti’r dalent mae ‘na le i ti yn y cabinet – ai dyna’r neges, ai dyna fydd ffordd Gordon Brown o wneud pethau? Neu’n hytrach, ai Llafur sy’n ceisio cael eu hunain i sefyllfa lle allan nhw gadw rheolaeth o ryw fath, os nad rheolaeth lwyr, yn Llundain a Chaerdydd ac efallai [...]

Pwy fydd yn cael dewis?

Mae’r adeg y bydd hi’n rhaid i Blaid Cymru benderfynu beth maen nhw am ei wneud ynglŷn â chlymbleidiol yn dod yn nes. Ond mae’r gêm hefyd yn mynd yn fwy caled a chyfrwys. Yn y pendraw efallai nad Plaid Cymru fydd yn penderfynu o gwbwl gan fy mod yn siŵr imi glywed fod Mike [...]

Coch a gwyrdd?

Mae’n anodd dal lan gyda beth sy’n digwydd yng Nghaerdydd y dyddiau hyn. Mae’n fwy anodd byth deall y pethau hynny pan ych chi’n gwylio’r cyfan o bellter Aberystwyth. Dwi’n credu fod rhyw fath o gêm yn digwydd gyda phawb yn gwthio’i gilydd i weld pa mor bell mae pawb yn medru neu’n fodlon mynd. [...]

Y drwg yn y caws

Fel un nad yw’n gwrando ar BBC Radio4 o ran egwyddor (dwi ddim am orfod dioddef y is-bropaganda Prydeinllyd sydd ymhlyg yn ei holl allbwn darlledu) wnes i ddim clywed newyddiadurwr o Gymro yn adrodd bod y trafodaethau ynglŷn â ffurfio Llywodraeth Cymru wedi troi yn ffars, ond yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrtha [...]

“Peidiwch â rheoli dim byd allan”

Gyda phwyllgor cenedlaethol y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud nad ydyn nhw am drafod mynd i glymblaid gyda neb i ffurfio Llywodraeth Cymru mae’n rhaid gofyn beth sy’n digwydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol? Ydyn nhw wedi penderfynu nad ydyn nhw am fod yn blaid wleidyddol bellach ac am droi yn grŵp pwysau sy’n derbyn nawdd cyhoeddus ac [...]