Cofio Thatcher

Mae’n ymddangos fod pawb yn ‘cofio’ Thatcher y dyddiau hyn ac fel un sy’n dwlu ar hel atgofion mae’n bryd i fi ymuno yn y sbort a’r sbri. Fe wnes i bleidleisio am y tro cyntaf ddydd Gŵyl Dewi 1979 yn y refferendwm ar ddatganoli. Does dim angen imi ddweud wrth neb wnaeth fyw trwy’r [...]

Edrych yn ôl ar yr etholiadau Ewropeaidd

Ai fi yw’r unig un sy’n synnu i weld fod Gordon Brown yn dal i fod yn Brif Weinidog wythnos ar ôl cyhoeddi canlyniadau yr etholiadau Ewropeaidd. Fe wnaeth y Blaid Lafur yn drychinebus, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi tybio y buasai’n ymddiswyddo ddydd Llun diwethaf yn eu cysgod. Ond nid [...]

Un cam yn rhy bell

Roedd y papurau y bore ddoe yn llawn o drafferthion Gordon Brown ac fe ddechreuais i ddychmygu sut roedd e’n teimlo. Dwi’n cael diwrnodau anodd, dwi’n cael trafferthion yn y gwaith o bryd i’w gilydd, ond dwi ddim yn cael fy hunan yn mynd adref gyda’r nos ac yn gweld yr holl beth yn cael [...]

Etholiadau Ewropeaidd 2009

Dwi wedi pleidleisio yn barod yn yr etholiadau Ewropeaidd. Dwi’n ofni nad oes gen i newyddion da i Gordon Brown gan na fydd fy mhleidlais i yn help iddo geisio gadw gafael ar swydd y prif weinidog. Fel unigolyn mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn medru cydymdeimlo gyda’i sefyllfa; wedi’r holl disgwyl am ei [...]

Mani pulite

Mae’n rhyfedd fel mae’r agenda newyddion yn newid yn sydyn iawn. Wythnos yn ôl roedd ffliw moch yn mynd i fod yn gyfrifol am anhrefn cymdeithasol a chwymp gwareiddiad. Erbyn heddiw aelodau seneddol yn twyllo ar eu costau a lwfansau sy’n mynd i wneud hynny. Rhaid imi gyfaddef nad ydw i’n gwbl glir pwy sydd [...]

Fflipo

Atgynhyrchir delweddau â hawlfraint seneddol trwy ganiatâd y Senedd. Diolch!
Mae ystyr ‘fflipo’ wedi newid ers dechrau’r wythnos hon. Roedd e’n arfer golygu colli tymer yn afreolus, neu o daflu rhywbeth yn ddiofal, neu o gymryd darn arian a’i daflu i benderfynu ar sail proffwydo pen neu gynffon. Ond bellach mae ‘fflipo’ wedi dod i olygu [...]

Cyfarfod cyhoeddus ‘Pa mor wyrdd yw Cyngor Ceredigion’

Nos Iau diwethaf fe fues i mewn cyfarfod diddorol iawn yng nghanolfan Morlan. Y Cynghorydd Alun Williams oedd wedi’i drefnu ar ran Tref Drawsnewid Aberystwyth Transition Town. Y bwriad oedd dechrau sgwrs rhwng ymgyrchwyr amgylcheddol a’r Cyngor Sir. Mae’n amlwg bod trafod o’r fath yn bwysig ac yn allweddol oherwydd mae ‘na fwlch dealltwriaeth reit [...]

Ydy calon Aberystwyth yn ddiogel yn nwylo’r Lib Dems?

Mae’n anodd ateb y cwestiwn hwn yn iawn gan ei bod hi’n edrych fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y sir yn wynebu dwy ffordd ar y mater.
Wrth i’r stori am gyfarfod y Cyngor Tref ledu fe ddaeth rhywun ata i holi ai grŵp Plaid Cymru oedd wedi rhoi’r cynnig gerbron yn gofyn am i’r cynllun [...]

Darlith gan Carwyn Jones AC yn Aberystwyth

Neithiwr fe fues i mewn cyfarfod o Gymdeithas Wleidyddiaeth Gymraeg Prifysgol Aberystwyth er mwyn gwrando ar eu siaradwr gwadd am y noson, Carwyn Jones AC. Astudiodd Carwyn Jones y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth ac felly’n adnabod y dref yn dda cyn. Wedyn fe aeth i hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain cyn gweithio yn Abertawe. Yn [...]

Carwyr moch daear yn protestio yn erbyn Plaid Cymru yn Aberystwyth

Dydd Mawrth diwethaf yr oeddwn yn dyst i brotest y tu fas i swyddfa Plaid Cymru yn Aberystwyth. Roedd y protestwyr yn flin gyda Phlaid Cymru am fod y Gweinidog Materion Gwledig yn bwriadu awdurdodi difa moch daear fel rhan o’r ymgyrch yn erbyn lledaenu diciáu mewn gwartheg. Dyma luniau o’r brotest.

Chwarae fy rhan mewn democratiaeth: Confensiwn Cymru Gyfan yn Aberystwyth

Nos Fercher fe fues i yn chwarae fy rhan yn natblygiad democratiaeth yng Nghymru, sef cyfarfod Ceredigion o Gonfensiwn Cymru Gyfan. Cynhaliwyd y cyfarfod yn Drwm y Llyfrgell Genedlaethol. Doedd y lle ddim dan ei sang ond roedd yna nifer teilwng wedi dod i’r digwyddiad.

Yn ôl a ddeallaf i mae pob un o’r cyfarfodydd lleol [...]

Creisis arall yng Ngwlad Belg

Dydd Mawrth, 2008-12-23
Dwi’n meddwl weithiau fy mod i yn achosi trafferthion gwleidyddol yng Ngwlad Belg oherwydd dros y pedair blynedd diwethaf ers pan dwi wedi ymweld â’r wladwriaeth yn gyson mae fy nheithiau wedi cyd-fynd â chyfnodau o ansicrwydd gwleidyddol yn y wlad. Fel mae’n digwydd ar y dydd Gwener cyn imi ymadael â Chymru [...]

Goleuadau Nadolig Aberystwyth 2005 2008

Nos Lun fe fues i mewn cyfarfod o bwyllgor Pwrpasau Cyffredinol y Cyngor Tref. Doedd e ddim yn gyfarfod hir iawn, llai na 15 munud. Doedd dim i’w drafod mewn gwirionedd. Roedd ein gwaith am y flwyddyn wedi’i gwblhau wrth drefnu cinio Nadolig yr henoed a gosod y goleuadau Nadolig o gwmpas y dref. Nid [...]

Nadolig Plaid Cymru 2008-12-06

Roedd dydd Sadwrn yn un traddodiadol iawn i fi wrth imi ddilyn fy nhrefn arferol dros y blynyddoedd – ffair Nadolig Plaid Cymru yn y prynhawn a chinio Nadolig Plaid Cymru gyda’r nos. Roedd y ffair Nadolig yn debyg iawn i ffeiriau’r gorffennol, mor debyg fel na wnes i dynnu’r un llun! Roedd y cinio [...]

Cyfarfod gwleidyddol arall ym mwyty Ultracomida, Aberystwyth

Cyfarfod gwahanol iawn ei naws yr wythnos wedyn. Plaid Cymru oedd wedi trefnu unwaith eto, cangen Aberystwyth a Phenparcau y tro hwn. Ond roeddem ni’n cwrdd ym mwyty Ultracomida yn Aberystwyth. Y bwriad oedd ceisio codi arian ar gyfer gweithgaredd gwleidyddol trwy fwynhau. Ac fe wnes i fwynhau mas draw. Doedd y noson ddim yn [...]

Cyfarfod cyhoeddus am dai fforddiadwy, Penrhyn-coch 2008-11-14

Wrth ddod yn ôl o Ben-y-bont ar Ogwr yr oeddwn ar fy ffordd i gyfarfod gyda dau weinidog arall yn y Llywodraeth, sef y Gweinidog materion gwledig a’r Dirprwy weinidog tai – y ddwy yn Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, sef Elin Jones a Jocelyn Davies. Roedden nhw’n siarad mewn cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan Blaid [...]

Hynodion sustem etholiadol y Taleithiau Unedig

Dyma fi’n troi yn ôl at fy hoff bwnc ar hyn o bryd, yr etholiad arlywyddol diweddar yn y Taleithiau Unedig. Mae’r sustem etholiadol yn un ddiddorol. Y nodwedd bwysicaf i’w cofio yw nad yw’r etholiad yn un uniongyrchol. Yn hytrach yr hyn a wneir yw bod pob talaith yn cynnal etholiad er mwyn penderfynu [...]

Gwaith cynghorydd yn parhau

Bues i mewn cyfarfod o un o is-bwyllgorau’r Cyngor Tref heno. Roedd yn ofynnol imi fod yno i ddweud y gwir gan taw fi oedd yn cadeirio. Cyfarfod o’r is-bwyllgor Pwrpasau Cyffredinol oedd hwn. Doedd dim rhyw lawer i’w drafod na llawer i’w benderfynu, ond fe lwyddon ni i lenwi awr.
Yr hyn y buom [...]

Dal i feddwl am etholiad y Taleithiau Unedig

Dwi’n siŵr fod pawb wedi dyfalu erbyn hyn fy mod yn obsesd gyda buddugoliaeth Barack Obama, ond dwi’n methu’n deg â rhoi’r gorau i ryfeddu at yr hyn sydd wedi digwydd. Mae’n siŵr y daw’r siom a’r dadrithio ond tan yr inawgareiddiad 20 Ionawr 2009 mae dyn yn rhydd i freuddwydio. Ac wrth gwrs dwi’n [...]

Archifdy Cenedlaethol i Gymru?

Nid yw sefydliadau diwylliannol yn cael lle mawr mewn trafodaethau gwleidyddol strategol, ond dro ar ôl tro mewn hanes mae’r sefydliadau yma yn cael eu hunain yng nghanol brwydrau geiriol a milwrol. Er nad yw’n ymddangos fel ‘ny bob amser mae sefydlu llyfrgell, amgueddfa ac archifdy cenedlaethol yn ganolog ym mywyd cenedl neu wladwriaeth. Dyma’r [...]