Wedi bod i weld Eglwys St. Pierre-le-Jeune fe aethon ni yn ôl i ganol y ddinas ac i ardal yr eglwys gadeiriol i gael cinio. Ac wedi cinio fe wnaeth RO a minnau ymwahanu er mwyn i ni fedru treulio ein prynhawn olaf yn Strossburi yn gwneud yr hyn yr oeddem ni am ei wneud. [...]
Efallai y buasai o ddiddordeb i rai fy mod wedi teithio ar y tram i ardal Eglwys St-Pierre-le-Jeune. Fe es i o’r orsaf ac yno mae’r tramiau yn mynd yn danddaearol a rhaid disgyn dan lefel y ddaear er mwyn mynd mewn i ganol y ddinas neu mas i’r maestrefi. Wrth ddisgwyl am y tram [...]
Dydd Gwener oedd ein diwrnod olaf ar ei hyd yn Strossburi. Doeddwn i ddim am wneud dim byd cyffrous iawn, ond roedd pawb yn dweud ei bod hi’n rhaid inni weld Eglwys St.-Pierre-Le-Jeune, neu Jung Sankt Peter. Felly i ffwrdd ar y tram o’r orsaf am Place Broglie ac oddi yno doedd hi ddim [...]
Os oedd pentref Günsbach yn f’atgoffa am Llanddewibrefi, roedd gorsaf Günsbach-Griesbach yn f’atgoffa o orsaf Clunderwen. Gorsaf Clunderwen oedd yr orsaf agosaf at Fynachlog-ddu a byddwn yn mynd ar y trên i Hwlffordd neu Gaerfyrddin oddi yno yn weddol gyson pan yn fy arddegau. Doedd dim rhyw lawer o gyfleusterau ar yr orsaf, ond o [...]
Rhaid imi gyfaddef taw’r ymweliad â’r eglwys oedd uchafbwynt fy nhaith i Günsbach. Yno teimlwn fy mod wedi dod yn agos iawn at ysbryd Schweitzer, oherwydd yr hyn a welodd yn yr eglwys oedd wedi’i ysbrydoli gydol ei fywyd. Mae eglwys Günsbach fel rhyw 50 o eglwysi Elsass o hyd yn eglwys simultaneum. Mae eglwysi [...]
Dwi ddim yn cofio’n iawn pam, ond wedi ymweld â’r Afrikamuseum dwi’n credu fod RO wedi mynd i ffwrdd ar daith arall ar ei ben ei hun i geisio dod o hyd i’r mans lle’r oedd teulu Schweitzer wedi byw. Ces i fy ngadael i ddisgwyl amdano tu fas i’r eglwys ar fy mhen fy [...]
Mewn rhyw ffordd roedd Güsbach yn f’atgoffa o Landdewibrefi gyda’r eglwys uwchben y pentref. Roedd yn f’atgoffa hefyd o un tro pan fues yno a doedd neb i’w weld na’i glywed yn unman. Wrth gerdded yr hanner cilomedr o’r brif ffordd i ganol Günsbach ni welsom yr un dyn byw ac felly yng nghanol y [...]
Un o’r pleserau ges i yn Colmar wrth ddisgwyl am y bws (oedd yn cymryd lle’r trên) i Gunsbach oedd eistedd y tu fas i’r orsaf yn yfed coffi ac yn gwylio’r bysus yn mynd a dod. Y cwmni sy’n gyfrifol am redeg bysus Colmar a’r cyffiniau yw Transports en Comun de Colmar et Environs, [...]
Heddiw oedd y diwrnod ar gyfer antur. Roedden ni’n mentro allan o ddiogelwch cymharol Strossburi mas i gefn gwlad Elsass ac i chwilio am fro mebyd Albert Schweitzer. Mae unrhyw un a gafodd fynd i’r Ysgol Sul yng Nghymru’r 1950au ac 1960au siwr o fod yn gyfarwydd iawn ag enw’r Dr Schweitzer. Ef oedd arwr [...]
Wedi bod yn yr eglwys fe wnaeth RO a minnau ymwahanu i grwydro ar ein pennau ein hunain. Dwi’n ofni na wnes i lawer iawn o grwydro fe es i yn ôl i Place Kléber ac oddi yno fe wnes i gymryd tram i Musée d’Art moderne et contemporain de Strasbourg (MAMCS) ac oddi yno [...]
Ie, eglwys arall! Byddai rhywun call wedi rhoi’r gorau iddi ar ôl yr eglwys gadeiriol. Ond Cymry ydyn ni a does dim digon o eglwysi i ateb ein galw. Roedd yr eglwys nesaf ychydig yn arbennig. Roedd yn eglwys Brotestannaidd yn y lle cyntaf ac weithiau mae Eglwys S. Thomas cael ei galw yn eglwys [...]
Wedi profiad yr eglwys gadeiriol mae’n rhaid cyfaddef fy mod i am hoe oddi wrth adeiladau mawrion. Doedd dim byd yn well felly na mynd tuag at ran o’r ddinas oedd yn fwy dynol o ran maint a graddfa, sef Petite France. Mae’r ardal hon gyda’r mwyaf pictwresg mewn dinas sy’n eithaf hawdd ar y [...]
Mae angen bod yn barod ar gyfer eglwys gadeiriol ar raddfa Eglwys Gadeiriol Strossburi. Yn ffisegol, yn emosiynol ac yn ysbrydol gallai’r adeilad fod yn ormod i ddyn heb fod wedi paratoi ymlaen llaw. Nid dyma’r tro cyntaf inni weld yr adeilad; roedden ni wedi bod tu fas y noson cynt pan wrth gyfarfod IapD [...]
Wrth deithio yn ôl i ganol y ddinas fe aeth y bws â ni heibio i rai o adeiladau Prifysgol Strossburi. Mae’n olrhain ei hanes yn ôl i 1538, ond dim ond yn 1631 y daeth yn brifysgol. Ar y dechrau prifysgol Almaeneg ei hiaith oedd hi, ac felly y parhaodd ar ôl i Ffrainc [...]
Doedd ein dathliad Ewropeaidd heb ddod i ben gyda’n hymweliad â thu fas Senedd Ewrop. Dafliad carreg o’r senedd saif un arall o’r sefydliadau Ewropeaidd a ddeilliodd yn uniongyrchol o brofiad yr Ail Ryfel Byd, sef Cyngor Ewrop a’r Llys Iawnderau Dynol. Sefydlwyd y Cyngor yn 1949 yn dilyn araith enwog Winston Churchill ym Mhrifysgol [...]
Wedi cyrraedd Wacken roedd yn rhaid cerdded rhyw dri-chwarter cilomedr at adeiladau Senedd Ewrop. Mae’r adeilad yn un trawiadol iawn ‘ta beth, ond wrth ddynesu tuag ato o gyfeiriad gorllewinol mae’n rhaid imi gyfaddef ei fod yn edrych yn fwy gwych fyth. Ydyn, mae’r adeiladau yn rhai gwych ond y trueni yw fod llawer yn [...]
Fe’n cludwyd gan y tram ar linell B o safle Alt Winmärik trwy ganol y ddinas i gyfeiriad y gogledd ddwyrain. Wrth i ni deithio doedd hi ddim yn bosib mynd yn ddim nes at Senedd Ewrop na safle dramiau Wacken, ond wrth agor llinell E mae’n bosib teithio bellach reit at ei drysau ar [...]
Mae’n siŵr bod fy nghlywed i’n sôn am safle Strasbourg ar wahanol ffiniau wedi diflasu rhai yn barod, ond rhybudd yw hyn fod mwy i ddod. O ran iaith mae Strasbourg (Strossburi mewn Alsaseg), fel gweddill Alsace (neu Elsass mewn Alsaseg), yn draddodiadol ac yn hanesyddol wedi gorwedd yn nhiriogaeth yr ieithoedd Almaenaidd. Priod iaith [...]
Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael